Mae cynorthwyydd dysgu anghenion addysgol arbennig o Gaerdydd yn dweud bod dychwelyd at addysg yn hwyrach yn ei hoes wedi’i helpu i newid ei stori.
Ar ôl cytuno i briodas wedi’i threfnu yn 18 oed, collodd Aqsa Ahmed-Hussein bob cyswllt â’i haddysg. A hithau’n 28 oed, roedd wedi colli ei hyder a’i hymdeimlad o hunaniaeth unigol, gan deimlo ei bod yn ‘ddim ond mam’ ac yn rhoi ei holl amser ac egni i’w haelwyd. Dechreuodd ei hiechyd meddwl a chorfforol ddioddef a phan ddechreuodd ei phedwerydd plentyn yn yr ysgol, roedd hi’n gwybod ei bod yn amser iddi ddechrau gweithio a diweddaru ei sgiliau.
Cael cymorth
Aeth i’w chanolfan gwaith leol a chafodd wybodaeth am y cyrsiau a oedd ar gael yn ei hardal a’r cymorth gofal plant oedd ar gael iddi wrth iddi astudio. Dechreuodd ar gwrs cyfrifiadurol, er mwyn iddi allu helpu ei phlant gyda’u gwaith cartref. Wrth iddi ddod i garu dysgu eto, arweiniodd un cwrs at y llall, ac yn y pen draw fe wnaeth Aqsa gymhwyso fel cynorthwyydd dysgu.
Bellach yn 42 oed, mae gan Aqsa yrfa ym myd addysg gynradd ac mae ar ben ei digon. Mae’n gweithio’n llawn amser fel cynorthwyydd ystafell ddosbarth un-i-un yn Ysgol Gynradd Kitchener ac yn ddiweddar cwblhaodd gyrsiau arbenigol wedi’u cyllido gan ei chyflogwr ar Reoli Ystafell Ddosbarth a Chyflwyniad i Awtistiaeth.
Ail-fagu hyder
Diolch i’r hyder a fagodd drwy addysg oedolion, fe wnaeth hi hefyd gais llwyddiannus i fod yn Llywodraethwr Cyswllt dros Gydraddoldeb ac Amrywiaeth yn ysgol gynradd ei merch.
Meddai: “Rydw i mor falch o’r camau mawr rydw i wedi’u cymryd, ac yn gwirioni fy mod i’n gallu ysbrydoli fy merched. Nawr, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau ar fy ngwaith fel Llywodraethwr ac rwy’n benderfynol o sicrhau bod pob cyfle ar gael i bawb.”
“Mae addysg oedolion wedi dangos i mi nad ydych chi byth yn gwybod beth allwch chi ei gyflawni tan i chi roi cynnig arni, ac rydw i bob tro’n atgoffa eraill bod ‘cyngor am ddim’, felly waeth i chi holi o gwmpas os ydych chi am newid cyfeiriad neu ddychwelyd i’r gwaith.”
Archwilio
Defnyddiwch ein chwiliad cyrsiau i ddod o hyd i gwrs sy'n iawn i chi. Mae'n cynnwys cyrsiau rhan-amser, cyrsiau byrion a dysgu yn y gymuned.
Cewch wybod am astudio gartref ac yn eich amser eich hun. Cewch wybod am fanteision ac anfanteision, a ble mae canfod cyrsiau.
Help gydag ysgrifennu CV, llythyrau cais, technegau cyfweld, dod o hyd i swyddi a mwy.
Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni
Darllen fwy o straeon bywyd go iawn
Newidiodd cwrs Mynediad i Addysg Uwch stori Catrin....
Mae dysgu parhaus yn helpu i wella hyder Emily....
Helpodd cwrs Prifysgol Agored John....
Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith