Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Emily

Emily  yn sefyll o flaen posteri addysgiadol mewn dosbarth

Dechreuodd y fam ifanc Emily Harding hunan-niweidio yn 11 oed ac roedd yn dioddef gorbryder ac iselder difrifol i’r fath raddau fel iddi ‘gloi’ ei hun i ffwrdd am bedair blynedd.

Ar ôl ennill cymwysterau gofal plant Lefel 2, mae wedi newid ei stori ac wedi magu llwyth o hyder.

Bod yn llysgennad

Ers ennill y wobr Newid Bywyd a Chynnydd y llynedd, mae Emily wedi dal ati i ddysgu, ac ym mis Hydref eleni bydd yn dechrau ar ei Gradd Cwnsela ym maes Seicoleg. Mae hefyd yn llysgennad ac wedi teithio ledled Ewrop i ddysgu sut maen nhw’n hyrwyddo addysg oedolion mewn gwahanol wledydd ac yn ysbrydoli eraill.

Rhoddodd addysg oedolion yr hyder iddi deithio a derbyniodd gymorth wnaeth ei helpu i reoli ei nerfau, sy’n golygu ei bod bellach yn gallu rhoi cyflwyniadau i grwpiau mawr o bobl - rhywbeth na fyddai wedi gallu ei wneud yn y gorffennol.

Rhannu ei sgiliau

Trwy barhau i ddysgu, mae Emily wedi gallu mynd â’i sgiliau newydd adref a’u rhannu gyda’i mab. Mae wedi ei ddysgu i ddarllen ac mae’r wybodaeth sydd ganddi diolch i’w chwrs gofal plant wedi ei helpu i lenwi ffurflenni ar gyfer asesiadau meddygol ei mab.



Meddai Emily: “Mae fy mywyd wedi newid er gwell. Rydw i wedi cael addysg ac mae gen i synnwyr o ryddid nawr. Mae dysgu wedi fy helpu i ymdopi â’m gorbryder a’m hiselder- os ydw i’n dechrau amau fy hun pan fydd pethau’n mynd yn drech na fi, rydw i’n troi at fy ngwaith cwrs er mwyn rhoi ffocws i’m meddwl.”



Ym mis Medi y llynedd, bu Emily yn cymryd rhan yn yr ymgyrch codi arian ‘Brave the Shave’ ac eilliodd ei phen i godi arian i bobl sy’n byw gyda chanser.



Bu addysg oedolion yn help iddi fagu hunanhyder, i’r graddau fel ei bod wedi gallu trechu ei gorbryder a cherdded yn falch heb wig tra’n codi dros £200!

 

Archwilio

Chwilio am gyrsiau

Defnyddiwch ein chwiliad cyrsiau i ddod o hyd i gwrs sy'n iawn i chi. Mae'n cynnwys cyrsiau rhan-amser, cyrsiau byrion a dysgu yn y gymuned.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni


Darllenwch fwy o straeon bywyd go iawn

Stori Aqsa

Fe wnaeth cwrs cyfrifiadureg agor drysau i Aqsa....


Canfod Cymorth

Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith