Yn gwsmer rhif 200,000 Cymru’n Gweithio, helpodd cymorth gyrfa Pauline i gymryd ei chamau nesaf yn glir ei meddwl.
Pan gymerodd Pauline ddiswyddiad gwirfoddol o’i rôl yn cynhyrchu ar gyfer y cyfryngau yn gynharach eleni, cafodd ei hun ar groesffordd. Ar ôl blynyddoedd yn y cyfryngau ac â diddordeb newydd mewn addysgu ioga, nid oedd hi’n siŵr beth ddylai ei cham nesaf fod.
“Ar ôl i mi adael, meddyliais i, o wel, beth dwi i’n mynd i wneud nawr?” meddai hi. “Roeddwn i wedi clywed am y cynllun ReAct+ wrth ffrind, a oedd yn swnio’n ddefnyddiol iawn, ac roeddwn i eisiau gweld a oedd hwn yn opsiwn i mi.”
Gwnaeth Pauline apwyntiad gyda’r cynghorydd gyrfa Gareth Richards yn ei chanolfan gyrfa leol yng Nghaerdydd, lle cafodd ei harwain drwy’r holl opsiynau a’r gefnogaeth sydd ar gael drwy ReAct+.
Siarad â chynghorydd
Dywedodd Pauline: “Roedd yn teimlo’n werth chweil i ddod mewn i weld Gareth - i siarad â rhywun a gweithio allan beth roeddwn i eisiau ei wneud. Erbyn y diwedd, roedd gen i syniad ychydig yn gliriach o’r math o gyrsiau roeddwn i eisiau eu gwneud .
Roedd dod mewn a thrafod y camau nesaf posibl bron yn eu gwneud nhw’n realiti yn hytrach na rhyw fath o, wyddoch chi, ‘o, byddai hynny’n braf pe gallwn i wneud hynny’.”
Mae’n aros nawr i glywed yn ôl am gyllid ar gyfer hyfforddiant pellach, ond mae’r broses ei hun eisoes wedi bod yn rymusol. “Mae cymaint o gyfeiriadau y gallwch chi eu dilyn gyda ioga, gwahanol sgiliau, gwahanol bobl y gallwch chi eu helpu. Roedd trafod y peth yn help mawr i mi weld sut allwn i lunio hwnnw’n rhywbeth ystyrlon.”
Cefnogaeth blaenorol
Nid colli ei swydd oedd profiad cyntaf Pauline o gael cefnogaeth gan Gyrfa Cymru. Dros ddegawd yn ôl, cafodd ei merch gefnogaeth hefyd ar ôl cael trafferth gyda’i TGAU.
Ychwanegodd Pauline: “Doedd hi ddim wedi cael y canlyniadau yr oedd hi’n eu disgwyl mewn gwirionedd. Doedd hi ddim yn dda yn feddyliol.
Daeth hi allan gan feddwl y byddai’n mynd ymlaen i’r coleg, ac nid oedd hynny’n mynd i fod yn opsiwn iddi yn y cyfnod hwnnw. Mae fel byd mawr, brawychus allan yna. Ond roedden nhw’n dda iawn am greu beth yw eich opsiynau.
Nid dim ond mynd allan yn syth a dod o hyd i swydd oedd hyn. Roedd yn ymwneud â chymryd y camau cywir tuag at yr hyn a fyddai yn digwydd nes ymlaen. Roedd y cynghorydd yn dda iawn.”
Cwsmer rhif 200,000
Nawr, fel cwsmer rhif 200,000 Cymru’n Gweithio, mae Pauline yn falch o rannu ei stori. “Roedd hi’n braf trafod gyda rhywun y ffaith fy mod i wedi colli gwaith, ac edrych ar ble roeddwn i ac i ble roeddwn i’n mynd i fynd.
Mae’n ymwneud â rhoi hyder i bobl deimlo eu bod nhw’n iawn. Mae gan bawb rywbeth i’w gynnig pan maen nhw’n cerdded trwy’r drysau - dim ond darganfod beth ydyw a pha mor hyderus ydyn nhw yn ei wneud yw’r peth.”
Os ydych chi wedi colli eich swydd, ewch i’n tudalen cymorth ar ôl colli swydd, neu cysylltwch â ni.
Archwilio

Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.

Sut mae pobl go iawn ledled Cymru wedi newid eu stori.