Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Josh

Josh

Ar ôl colli ei swydd, helpodd Cymru’n Gweithio Josh i ddechrau ar lwybr gyrfa yr oedd yn angerddol amdano.

Diswyddo annisgwyl

Roedd un o drigolion Caerdydd, Josh, 27 oed, yn wynebu diweithdra yn dilyn diswyddiad sydyn.

Oherwydd ei sefyllfa, fe sylweddolodd ei fod eisiau swydd lle gallai helpu pobl neu gael effaith uniongyrchol ar ei gymuned leol.

Meddai Josh: “Roedd bron fel bendith gudd oherwydd fe wnaeth fy ngorfodi i stopio a meddwl am yr hyn rydw i wir eisiau.

“Ceisiais droi’r hyn a ddigwyddodd yn gam cadarnhaol yn fy ngyrfa.”

Ceisio cymorth

Cysylltodd Josh â Cymru’n Gweithio ar ôl i’w bartner ddod ar draws hysbyseb ar gyfer cynllun ReAct+ ar YouTube. Roedd eisiau gwybod rhagor am y cyllid a sut y gallai gynorthwyo ei ddatblygiad gyrfa.

Cyfarfu â’r cynghorydd gyrfaoedd, Linda Thomas i siarad am ei gamau nesaf.

Meddai Josh: “Roedd Linda yn dda iawn am egluro sut yn union yr oedd popeth yn gweithio a sut y gallwn i ddefnyddio’r cyllid hwn orau er fy lles. Fe gymerodd amser i ddeall fy sefyllfa a’m diddordebau.”

“Gadewais y cyfarfod yn teimlo rhyddhad a chymhelliant. Roedd yn wych gwybod nad oeddwn bellach  ar fy mhen fy hun heb unrhyw fath o gefnogaeth.”

Sicrhau cynnig swydd

Parhaodd Josh i geisio am swyddi tra roedd hefyd yn ymchwilio i gyrsiau y gallai wneud cais amdanynt gyda chynllun ReAct+.

Yn y  pen draw cafodd gynnig swydd fel cynorthwyydd gweinyddol yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol. Teimlai Josh ei fod yn cyfateb yn dda â’r hyn yr oedd ei eisiau ar gyfer ei yrfa a’i dwf.

Meddai Josh: “Er na wnes i ddefnyddio’r grant ReAct+ i gael rhagor o hyfforddiant yn y pen draw, rwy’n hapus iawn fy mod wedi cael yr apwyntiad hwnnw gyda Linda a siarad am fy nghynlluniau gyrfa. Fe’m helpodd i ganolbwyntio a meddwl am yr hyn roeddwn i wir ei eisiau. 

“Cefais lawer o awgrymiadau gan Linda ar sut i gyflwyno fy hun fel ymgeisydd da am swyddi yn y sector cyhoeddus ac roeddent yn ddefnyddiol iawn. Rwy’n meddwl bod hynny wedi fy helpu yn y pen draw i gael y cynnig swydd.

“Yn fy swydd newydd mae llwybr cynnydd clir a gallaf symud i ran arall o’r sefydliad pe bawn i eisiau. Rwy’n teimlo’n obeithiol iawn ynglŷn â lle’r ydw i ac rwy’n ddiolchgar fy mod yn y sefyllfa hon.”

Cyngor i eraill

Wrth roi cyngor i eraill mewn sefyllfa debyg, ychwanegodd Josh: “Pan nad oes swydd gennych, mae’n wir yn gallu achosi llawer o straen, ac mae gwneud newid ar eich pen eich hun yn anodd.

“Mae cael cymorth a chyngor gyrfa gan Cymru’n Gweithio fel cael rhwyd ddiogelwch. Felly os ydych chi eisiau gwneud newid cadarnhaol yn eich bywyd, mae yna gymorth i’ch galluogi chi i wneud hynny.”

Os ydych wedi colli eich swydd ac yn teimlo bod angen cymorth adeg diswyddo arnoch neu fynediad at hyfforddiant ac uwchsgilio, ewch i Cymorth ar ôl colli swydd neu cysylltwch â ni.


Archwilio

Cymorth ar ôl colli swydd

Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.

ReAct+

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.