Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Oscar

Eiconau Cymru'n Gweithio

Yn 16 oed, mae Oscar Dwyer o Lanrhymni, Caerdydd, eisoes yn cymryd ei gamau cyntaf i fyd gwaith.

“Roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau dysgu drwy wneud”

Ar ôl gorffen ei arholiadau TGAU yr haf hwn, mae’n paratoi i ddechrau prentisiaeth saernïo gyda Dudley’s Aluminium ym mis Medi, penderfyniad sy’n adlewyrchu ei ddull ymarferol o ddysgu a’i nodau hirdymor.

Dewis y llwybr cywir

“Rwy’n ddysgwr ymarferol,” meddai. “Ro’n i eisiau mynd yn syth i mewn i rywbeth lle gallwn i ddysgu trwy wneud.”

Ar ôl trafod y gwahanol lwybrau â’i rieni, penderfynodd Oscar mai prentisiaeth fyddai’r llwybr gorau. Siaradodd â chynghorydd Gyrfa Cymru ym mis Mawrth, a helpodd y sgwrs honno ef i dorri ei opsiynau lawr a dod o hyd i’r cyfle cywir iddo.

“Y sgwrs honno ddechreuodd popeth. Helpodd fy nghynghorydd fi i weld beth oedd yn bosibl, gwneud cais am y cwrs cywir a fy helpu gyda'r cyfweliad. Roedd y gefnogaeth honno werth y byd.”

Dyfodol mewn saernïo a thu hwnt

Bydd Oscar yn dechrau ei brentisiaeth saernïo ym mis Medi, ac mae’n llawn cyffro i ddechrau arni. “Dewisais i saernïo oherwydd ei fod yn sgil a fydd bob amser ei angen. Mae’n fasnach sy’n adeiladu’r byd o’n cwmpas.”

Mae hefyd yn meddwl ymlaen: “Rydw i eisoes yn meddwl ymlaen y tu hwnt i fy mhrentisiaeth, byddwn i wrth fy modd yn hyfforddi fel trydanwr un diwrnod hefyd. Po fwyaf o grefftau y gallaf eu dysgu, y mwyaf o gyfleoedd fydd i greu gyrfa i mi fy hun yr wyf yn ei mwynhau.”

Cwblhaodd Oscar ei arholiadau TGAU yn ddiweddar ac mae’n teimlo’n bositif am sut aeth pethau. “Roeddwn i wedi astudio’n galed, felly roedd rhai o’r arholiadau’n teimlo’n haws nag yr oeddwn i wedi’i ddisgwyl. Dw i’n meddwl fy mod i wedi gwneud yn dda yn rhai o fy hoff bynciau fel Saesneg a hefyd Addysg Gorfforol oherwydd bod chwaraeon yn angerdd mawr i mi.

“Mae gwybod bod fy mhrentisiaeth ym mis Medi yn sicr wedi gwneud fy rhieni’n falch iawn ohonof ac yn golygu y galla i ddechrau edrych ymlaen at yr hyn sydd nesaf.”

Cefnogaeth a wnaeth wahaniaeth

Rhoddodd profiad Oscar gyda’i gynghorydd Gyrfa Cymru yr hyder iddo gymryd y cam nesaf. “Gwnaethon nhw fy helpu i ddarganfod beth roeddwn i eisiau ei wneud a’m cefnogi drwy’r broses gyfan ac rwy’n gwybod y galla i fynd yn ôl atyn nhw unrhyw bryd os oes angen mwy o gyngor arna i.”

Gyda diwrnod canlyniadau ar y gorwel a phrentisiaeth wedi’i threfnu, mae Oscar yn barod i ddechrau’r bennod nesaf. “Rwy’n edrych ymlaen at fynd amdani, dim ond y dechrau yw hyn.”


Archwilio

Prentisiaethau

P'un ai ydych chi'n dod o hyd i'ch ffordd ym myd gwaith, neu'n cymryd camau tuag at newid gyrfa, gallai prentisiaeth fod ar eich cyfer chi.

Gwarant i Bobl Ifanc

Cyfle gwarantedig i bawb rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn siŵr o feithrin agwedd bositif ynoch.