Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Prentisiaethau

Prentis pensaernïaeth yn gweithio wrth y cyfrifiadur gyda’i chyflogwr

P'un ai ydych chi'n dod o hyd i'ch ffordd ym myd gwaith, neu'n cymryd camau tuag at newid gyrfa, gallai prentisiaeth fod ar eich cyfer chi.

Mae prentisiaethau yn cyfuno hyfforddiant ymarferol mewn swydd ag astudio. Fel prentis byddwch yn ennill profiad gwaith, yn dysgu sgiliau newydd, ac yn cael cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol wrth ennill cyflog.

I wybod mwy am brentisiaethau:

Cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau neu cliciwch ar y dolenni isod i ddarganfod mwy.

Am brentisiaethau

Mae prentisiaethau yng Nghymru yn agored i ystod eang o bobl. Gallant roi cyfle teg a chyfartal i chi gychwyn eich gyrfa. Mae yna lawer o fathau o swyddi mewn gwahanol ddiwydiannau ar gael. Dysgwch mwy:

Straeon go iawn

Dewch i wybod sut y newidiodd y bobl hyn eu stori drwy brentisiaeth:

Stori Ethan E

Gwellodd Ethan ei sgiliau cyfweliad a daeth o hyd i brentisiaeth iddo’i hun.

Stori Ellie

Mae prentisiaeth mewn gofal plant yn helpu Ellie i ddilyn gyrfa ei breuddwydion...

Cynnwys cysylltiedig

Siarad â chynghorydd gyrfa

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu a ni