Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Cez

Cez

Mae Cez yn adeiladu gyrfa yn y diwydiant eiddo ac yn edrych ymlaen i brynu ei chartref ei hun.

Gwneud newid

Mae Cez, 17 oed o Sir y Fflint, yn benderfynol o fod yn annibynnol a dod o hyd i yrfa y mae'n ei charu.

Dechreuodd ei thaith pan argymhellodd ffrind i’r teulu y rhaglen Twf Swyddi Cymru+, ac ers hynny, mae hi wedi sicrhau lleoliad gwaith sy'n ei galluogi hi i ddechrau ennill arian eto.

Amgylchedd cefnogol

Cafodd Cez sawl uchafbwynt ac isafbwynt pan oedd hi’n iau ond mae'n brolio’r gefnogaeth a gafodd drwy'r rhaglen er mwyn dod o hyd i lwybr gyrfa.

Dywedodd: "Cyn ymuno â Twf Swyddi Cymru+, roeddwn yn teimlo’n ansicr am fy nghamau nesaf. Roeddwn yn cael trafferth yn yr ysgol ac roeddwn yn gweithio yn y diwydiant lletygarwch i ddechrau, ond nid oedd y math o waith yr oeddwn yn ei wneud yn fy modloni. Roeddwn yn teimlo’n rhwystredig ac yn cael trafferth canolbwyntio - nid oedd llawer o bobl yn deall y math o gefnogaeth yr oeddwn i ei hangen.

“Mae Twf Swyddi Cymru+ wedi bod yn wahanol. Mae wedi fy helpu i wella fy ffocws, fy amynedd, ac i reoli fy nicter, ac wedi rhoi amgylchedd cefnogol i mi allu ffynnu. Roedd gan y ganolfan hyfforddi 'ystafell dawel' hyd yn oed, lle gallwn i fynd pan oeddwn yn teimlo fy hun yn mynd yn rhwystredig."

Mathau o gefnogaeth

Yn ogystal â’i gorfywiogrwydd, treuliodd Cez lawer o amser yn chwilio am lwybrau gyrfa gwahanol ac yn gwella ei sgiliau cyflogadwyedd tra bod hi ar y rhaglen.

Aeth Cez ymlaen i ddweud: “Dysgais sut i wneud cais am swydd a'r pethau gorau i'w cynnwys ar eich CV. Treuliodd fy nhiwtoriaid amser yn siarad â mi am wahanol ddiwydiannau, a chynnig ffyrdd newydd o ddysgu a oedd o fantais fawr i mi.

“Y prif wahaniaeth a sylweddolais tra’r oeddwn ar Twf Swyddi Cymru+ oedd fy mod wedi cael fy nhrin fel oedolyn ifanc ac wedi cael fy annog i wneud fy mhenderfyniadau mewn ffordd ystyrlon a chynhyrchiol. Mae hyn wedi rhoi ymdeimlad o annibyniaeth a sicrwydd i mi.”

Cyfle gwaith newydd

Yn dilyn y cyngor a’r cymorth gyrfaol a gafodd, trefnodd ei thiwtoriaid Twf Swyddi Cymru+ i Cez gael cyfweliad i wneud cais am leoliad gwaith mewn cwmni gwerthu eiddo lleol.

Roedd rôl Cez yn New Roots Properties yn cynnwys helpu ei rheolwr gyda thasgau gweinyddol, diweddaru porth tai ar-lein y wefan, a chyfathrebu â phrynwyr a gwerthwyr.

Dywedodd Cez: “Fe wnes i fwynhau fy lleoliad gwaith yn New Roots Properties yn fawr iawn. Roedd yn amgylchedd gwych i ddysgu ynddo ac roedd pawb yn gefnogol ac yn rhoi sylw i fanylder. Fy hoff ran o’r rôl oedd ei bod mor amrywiol. Fe wnes i hefyd fwynhau cael mynd i lawer o ymweliadau darpar brynwyr ag eiddo, gan ei fod wedi rhoi cyfle i mi ryngweithio â chwsmeriaid mewn sefyllfa go iawn.”

Beth nesaf?

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Cez yn awyddus i sicrhau swydd amser llawn yn y diwydiant eiddo ac mae’n parhau i ymgeisio am gyfleoedd newydd gyda chymorth gan Twf Swyddi Cymru+.

Dywedodd Cez: “Rydw i wedi aeddfedu llawer ers i mi orffen yn yr ysgol ac mae fy lleoliad diweddaraf wedi cadarnhau mai’r diwydiant eiddo yw’r llwybr yr hoffwn ei ddilyn. Rydw i eisiau bod yn llwyddiannus ac alla i ddim aros i ddechrau cynilo ar gyfer fy lle fy hun a dysgu sut i yrru.

Mae Twf Swyddi Cymru+ wedi helpu i amlygu'r pethau gorau amdanaf ac rydw i’n edrych ymlaen at yr hyn sydd gan y dyfodol i’w gynnig.”


Rhagor o wybodaeth

Twf Swyddi Cymru Plws

Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yw Twf Swyddi Cymru+, sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnat ti i gael swydd neu hyfforddiant pellach.

Twf Swyddi Cymru Plws Datblygu

Angen cymwysterau neu gefnogaeth ychwanegol i gymryd dy gam nesaf? Bydd yr elfen yma o Twf Swyddi Cymru+ yn dy roi ar ben ffordd.