Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Sara F

Sara yn y gampfa

Sylweddolodd Sara y gallai oresgyn gorbryder a helpu eraill i wneud yr un peth.

Wynebu trafferthion

Yn 2020, roedd Sara o Rydaman yn gweithio yn y diwydiant lletygarwch.

Er ei bod hi wrth ei bodd â’r bwrlwm sy’n gysylltiedig â gwaith bar, nid oedd hi bob amser yn ei chael hi’n hawdd – yn enwedig gan ei bod hi’n dioddef o broblemau iechyd a oedd yn effeithio ar ei hysgyfaint.

Daliodd ati i weithio yn y diwydiant cyhyd ag y gallai nes i’w hiechyd ddod yn fwy o broblem.

Esboniodd: “Roeddwn yn dioddef o broblemau anadlu, a daeth y gwaith bar llawer iawn anoddach o ganlyniad i hynny.”

Ar ben ei phroblemau iechyd corfforol, roedd Sara yn dioddef o orbryder. Yn y diwedd bu’n rhaid iddi adael ei swydd – ar ddechrau pandemig COVID-19.

Rhywbeth newydd

Gyda chyfyngiadau symud yn golygu bod opsiynau Sara yn y diwydiant lletygarwch yn gyfyngedig, roedd hi’n ansicr ynghylch ble i droi nesaf.

Fodd bynnag, gyda chymorth Cymru’n Gweithio, gwasanaeth gan Lywodraeth Cymru sy’n cael ei ddarparu gan Gyrfa Cymru, adolygodd Sara ei hopsiynau a gwnaeth gais am grant i droi ei llaw at sgil newydd.

Dywedodd: “Fe wnes i’r cwrs hyfforddiant ioga i athrawon gyda grant Llywodraeth Cymru. Doedd dim llawer o athrawon ioga eraill yn fy ardal leol pan ddechreuais i, ond rydw i’n cynnal dosbarthiadau mewn canolfan iechyd, Hazbeanz, yn Rhydaman a agorodd yn ystod y pandemig ac wedi addysgu dosbarthiadau ar-lein, a newidiodd i fod yn rhai wyneb yn wyneb pan ddaeth y cyfyngiadau symud i ben.

“Rydw i wrth fy modd – rydw i’n teimlo bod ioga’n rhywbeth heddychlon dros bren, yn enwedig o gofio sut oedd pethau yn ystod y pandemig.

“Roedd llawer o bobl – ac yn dal i fod – yn bryderus iawn, a gall fy nosbarthiadau ioga, ynghyd â thechnegau myfyrio a ymwybyddiaeth ofalgar, helpu pobl i oresgyn hyn.”

Ar ôl dioddef o orbryder, roedd hi’n gallu defnyddio ei phrofiadau personol wrth addysgu, gan helpu eraill i ymestyn ac anadlu eu ffordd at iechyd meddwl gwell.

Cymaint o gyfleoedd

Ond stopiodd Sara ddim ar ôl iddi ddod yn athrawes ioga gymwysedig.

Dywedodd: “Mae Cyngor Caerfyrddin wedi cysylltu â mi ac wedi gofyn a fyddai gen i ddiddordeb astudio cwrs ioga i blant, a fydd, yn fy marn i, yn brofiad arbennig dros ben.

“Yn y dyfodol, rydw i wir eisiau teithio neu fynd ar encil yn sgil fy niddordeb â ioga.”

Mae hi hefyd wedi cwblhau cyrsiau mewn tylino chwaraeon ac Reiki, ac mae hi wedi bod yn gweithio yng nghampfa CFK Caerfyrddin yn cynnal sesiynau hyfforddiant personol ers mis Mai 2020.

Mae ei swydd bellach yn caniatáu iddi ddewis pan fydd hi eisiau gweithio, sy’n golygu mwy o hyblygrwydd a mwy o amser rhydd.

Dywedodd Sara: "Os cewch gynnig i fynd ar gwrs, yna manteisiwch ar y cyfle – fe newidiodd fy mywyd a’m meddylfryd i’n llwyr."


Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn ac os hoffech chi ymchwilio i'ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â thîm Cymru'n Gweithio drwy eu ffonio am ddim 0800 028 4844, e-bost cymrungweithio@gyrfacymru.llyw.cymru neu drwy ein sgwrs fyw.


Archwilio

Chwilio am gyrsiau

Defnyddiwch ein chwiliad cyrsiau i ddod o hyd i gwrs sy'n iawn i chi. Mae'n cynnwys cyrsiau rhan-amser, cyrsiau byrion a dysgu yn y gymuned.

ReAct+

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni

Canfod Cymorth

Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith