Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Cian

Cian yn sefyll ar gyfer y camera

Mae Cian wedi dechrau prentisiaeth saernïaeth gyda chymorth Cymru’n Gweithio.

Ers dewis adeiladu fel pwnc opsiwn ym Mlwyddyn 10, roedd Cian yn gwybod ei fod eisiau ymuno â'r diwydiant a bod yn saer.

“Astudiais waith coed am ddwy flynedd ac roeddwn i wrth fy modd, ac yn gwybod mai saernïaeth oedd yr yrfa i mi.”

Trefnu cynllun

Daeth Lowri, cynghorydd gyrfa Cymru’n Gweithio, o hyd i saer lleol a chynorthwyodd Cian i fynd ato am brentisiaeth.

Trefnon nhw iddo ddechrau gweithio yno dros yr haf i gychwyn, lle cafodd gipolwg ar y grefft a beth allai'r brentisiaeth ei olygu.

Eglurodd Cian, “Rwy wir yn mwynhau. Dyma’r opsiwn gorau i mi ac mae’r person rwy’n gweithio gydag ef yn fy helpu llawer, sy’n gwneud i mi ei fwynhau hyd yn oed yn fwy.”

Ar ôl gweithio yr haf hwn, mae Cian yn gobeithio dechrau prentisiaeth ym mis Medi, a mynd i'r coleg am un diwrnod yr wythnos.

“Rwy’n meddwl bod prentisiaeth yn ddewis gwych imi, rwy wrth fy modd â’r syniad o ddysgu yn y swydd lle mae’n fwy ymarferol na theori.”

Hwb i'r hyder

Roedd Cian yn teimlo bod ei brofiad o weithio gyda Lowri i gynllunio ei gamau nesaf yn gadarnhaol iawn.

“Byddwn yn argymell siarad â chynghorydd fel Lowri. Cyn hynny, doeddwn i ddim yn siŵr beth oeddwn i’n mynd i’w wneud, ond ar ôl siarad â Gyrfa Cymru, roedd yn gymaint o hwb i'm hyder.”

Cynlluniau i'r dyfodol

Mae Cian llawn gobaith am y dyfodol, a dywedodd,

“Rwy’n gobeithio bod yn hunangyflogedig rhyw ddydd. Ond rwy’n edrych ymlaen at ddysgu cymaint â phosibl mewn prentisiaeth ar ôl cael fy nghanlyniadau yr haf hwn.”


Archwilio

Prentisiaethau

P'un ai ydych chi'n dod o hyd i'ch ffordd ym myd gwaith, neu'n cymryd camau tuag at newid gyrfa, gallai prentisiaeth fod ar eich cyfer chi.

Gwarant i Bobl Ifanc

Cyfle gwarantedig i bawb dan 25 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn siŵr o feithrin agwedd bositif ynoch.


Darllen fwy o straeon bywyd go iawn

Stori Roxie

Gwnaeth cynghorydd gyrfa helpu Roxie i archwilio’r dewisiadau amgen i goleg ar ôl TGAU.

Stori Amelia

Ysbrydolodd cyngor gyrfa Amelia i ddechrau ei thaith prentisiaeth.

Straeon go iawn

Darllenwch fwy o straeon bywyd go iawn ar ganlyniadau arholiadau, prentisiaethau, hyfforddiant a dysgu, a chefnogaeth ar gyfer mynd i mewn i waith.