Darganfu Amelia ei hangerdd am gyfrifyddiaeth diolch i Cymru’n Gweithio.
Ar ddechrau blwyddyn 13, nid oedd Amelia yn gwybod beth roedd hi eisiau ei wneud.Roedd ei ffrindiau i gyd wedi gwneud cais am le yn y brifysgol, ond nid oedd hi'n teimlo'r un cyffro yn ei gylch.
Yn wyneb cyfarwydd yn yr ysgol, aeth Amelia i weld Claire, cynghorydd gyrfa ei hysgol.
Dywedodd Amelia, “Gwnaeth llawer o fy ffrindiau yn yr ysgol argymell fy mod i’n siarad â Claire.”
Datgelu diddordebau
“Roeddwn i’n astudio busnes, mathemateg a TG ond doeddwn i ddim yn gwybod pa opsiynau gyrfa oedd ar gael i mi.”
Eisteddodd Claire gydag Amelia i edrych ar y pynciau roedd hi'n eu mwynhau a’r opsiynau a oedd ar gael iddi.
“Dangosodd hi wefan Gyrfa Cymru i mi i weld pa opsiynau oedd ar gael. Gwnaethon ni hyd yn oed edrych ar ddisgrifiadau swydd ar wefannau recriwtio i weld beth fyddwn i’n ei fwynhau”.
Y llwybr prentisiaeth
Nid oedd Amelia eisiau parhau mewn amgylchedd ysgol ac roedd yn hoffi’r elfen dysgu wrth ennill cyflog sy’n perthyn i brentisiaeth.
“Roeddwn i wedi cael blynyddoedd o theori mewn ysgolion, ac roeddwn i’n teimlo fod angen y cymysgedd o theori ac ymarferol y mae prentisiaeth yn ei gynnig. Lle y gallwch chi roi’r hyn rydych chi’n ei ddysgu yn syth ar waith”.
Dod o hyd i'r llwybr cywir
Aeth Amelia i ddigwyddiad gyrfaoedd lle y cyflwynodd Claire hi i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr. Dysgodd Amelia fwy am brentisiaeth cyfrifeg y Cyngor. Gwnaeth gais a chafodd gynnig i gychwyn.
Gan wybod mwy nawr am yr hyn roedd hi ei eisiau, aeth Amelia ymlaen i wneud ei hymchwil ei hun. Daeth o hyd i brentisiaeth gydag Archwilio Cymru. Roedd ei chais yn llwyddiannus a gyda chymorth Claire, dewisodd y cyfle gydag Archwilio Cymru.
Camau'r dyfodol
Yn ei rôl bresennol, mae Amelia yn sicr o gyflawni Lefelau 2, 3 a 4 mewn cyfrifeg. Mae hefyd cyfle iddi ennill lle ar raglen graddedigion Archwilio Cymru os yw’n rhagori ar ei Lefel 4.
Yn llawn cyffro am yr hyn sydd i ddod, ychwanegodd Amelia, “Hoffwn i aros gyda’r cwmni ar ôl fy mhrentisiaeth, ond beth bynnag sy’n digwydd, hoffwn i ddefnyddio’r cymwysterau rwy’n eu cael i fynd cyn belled ag y gallaf”.
Archwilio

P'un ai ydych chi'n dod o hyd i'ch ffordd ym myd gwaith, neu'n cymryd camau tuag at newid gyrfa, gallai prentisiaeth fod ar eich cyfer chi.

Cyfle gwarantedig i bawb rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn siŵr o feithrin agwedd bositif ynoch.
Mynnwch gefnogaeth i archwilio'ch opsiynau.
Darllen fwy o straeon bywyd go iawn

Gwnaeth cynghorydd gyrfa helpu Roxie i archwilio’r dewisiadau amgen i goleg ar ôl TGAU.

Angerdd Cian am waith coed yn arwain at brentisiaeth

Darllenwch fwy o straeon bywyd go iawn ar ganlyniadau arholiadau, prentisiaethau, hyfforddiant a dysgu, a chefnogaeth ar gyfer mynd i mewn i waith.