Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Nina

Nina, dysgwr gofal anifeiliaid, yn gafael mewn madfall

Mae Nina’n mynd y tu hwnt er mwyn cael ei swydd ddelfrydol.

Troi diddordeb yn swydd

Mae Nina, o Gaerdydd, yn gobeithio cefnogi mwy o bobl ifanc fel hi un diwrnod drwy ddod yn diwtor sgiliau Gofalu am Anifeiliaid.

Er ei bod wedi gadael yr ysgol heb TGAU, mae Nina, sydd wedi bod wrth ei bodd ag anifeiliaid ers pan oedd hi’n ifanc iawn, wedi cael cyfle ar raglen Twf Swyddi Cymru+ i ymarfer yr hyn mae hi’n ei garu – a chael ei thalu ar yr un pryd.

Mae Nina bellach yn mynd o nerth i nerth ar y rhaglen, ac mae hi wedi symud ymlaen i’r elfen Datblygu, sy’n cynnwys datblygu ei sgiliau a chael profiad o'r byd gwaith.

Mae hi’n gobeithio ysgogi mwy o bobl ifanc sydd wrth eu bodd ag anifeiliaid drwy ddod yn diwtor sgiliau – ac yn barod, mae hi’n gwybod pa lwybr mae angen iddi ei ddilyn er mwyn cael ei swydd ddelfrydol.

Eglurodd Nina: “Fe wnes i ymuno â’r rhaglen am fy mod i’n caru anifeiliaid. Dyma’r unig ddiddordeb sydd gen i; dydw i ddim eisiau gwneud dim byd arall. Mae’n anhygoel fy mod i’n gallu hyfforddi ym maes gofalu am anifeiliaid ac arbenigo mewn mamaliaid hefyd.

“Fe wnes i adael yr ysgol heb TGAU, felly roedd angen i mi gael opsiwn i allu hyfforddi, ond yn ddelfrydol, cael fy nhalu ar yr un pryd. Rwyf hefyd wedi cael cyfle i ail-astudio er mwyn cael fy nghymwysterau Mathemateg a Saesneg gan nad oeddwn wedi eu cael tra roeddwn i yn yr ysgol.”

Cyfleoedd i roi hwb i’w sgiliau

Esboniodd: “Pan fydda i’n edrych yn ôl ar sut roeddwn i cyn i mi ymuno, alla i ddim credu cymaint rwyf wedi gwella. Roeddwn i’n teimlo’n orbryderus iawn a doedd gen i ddim hyder.

“Llwyddais i gael profiad gwaith yn Academi Sgiliau ACT lle rwy’n cael fy hyfforddiant, yn gweithio yn y ffreutur ac ar ddesg y dderbynfa yn delio â galwadau. Mae hyn wedi fy helpu i fagu hyder. Roeddwn i eisiau gallu ychwanegu cymaint o sgiliau ag y gallwn i at fy CV er mwyn edrych yn dda i gyflogwyr.

“Roeddwn i hefyd ar leoliad gwaith fel technegydd anifeiliaid, a dyna pryd wnes i benderfynu fy mod i eisiau bod yn diwtor sgiliau yn y dyfodol. Ar y lleoliad, roeddwn i’n bod yn gynorthwyydd dysgu i’r tiwtor, yn gosod yr offer ac yn cefnogi’r dysgwyr newydd a ddaeth ar y cwrs. Roedd yn rhoi cymaint o foddhad i mi ac fe wnaeth i mi sylweddoli fy mod yn dda am helpu ac addysgu pobl.”

Cyrraedd ei photensial

I Nina, roedd cael cefnogaeth un-i-un gan diwtoriaid ar y rhaglen yn bwysig iddi allu symud ymlaen.

Esboniodd: “Ar y rhaglen, gallwch wneud pethau fesul dipyn a does dim angen i chi ruthro drwy bopeth – dyna beth rwy’n ei hoffi.

“Mae ein tiwtoriaid yn anhygoel. Os bydd angen unrhyw beth arnoch chi, byddwch chi’n mynd atyn nhw, a byddan nhw’n eich helpu chi 100%. Gydag unrhyw broblemau fel dyslecsia neu fel Syndrom Irlen, sy’n syndrom rwy’n dioddef ohono, maen nhw bob amser yn gwybod beth i’w wneud ac mae ganddyn nhw’r adnoddau i’ch helpu.”

A hithau bellach wedi cwblhau rhai lleoliadau gwaith, mae Nina’n gobeithio symud ymlaen i elfen Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn fuan i gael swydd amser llawn.

Ychwanegodd Nina: “Rwyf wedi gwneud y ffrindiau gorau ar y rhaglen, ac rwyf eisoes wedi cael cymaint o brofiad gwaith y gallaf ei ychwanegu at fy CV. Hefyd, mae cael fy nhalu yn golygu bod gen i fwy o annibyniaeth. Rwy’n gofalu am fy moch cwta fy hun, felly rwy’n gallu fforddio gofalu amdanyn nhw’n iawn heb ddibynnu ar neb arall.

Byddwn yn bendant yn argymell rhaglen Twf Swyddi Cymru+. Mae’r hyfforddiant yn anhygoel, ac yn y pen draw, byddan nhw’n eich helpu i ddod o hyd i swydd y byddwch chi wir yn ei mwynhau.”


Archwilio

Twf Swyddi Cymru Plws Datblygu

Angen cymwysterau neu gefnogaeth ychwanegol i gymryd dy gam nesaf? Bydd yr elfen yma o Twf Swyddi Cymru+ yn dy roi ar ben ffordd.

Twf Swyddi Cymru Plws

Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yw Twf Swyddi Cymru+, sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnat ti i gael swydd neu hyfforddiant pellach.

Straeon go iawn

Dewch i wybod sut mae pobl go iawn ledled Cymru wedi newid eu stori gyda Twf Swyddi Cymru+.