Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Cheryl

Cheryl

Cyngor wedi diswyddiad yn helpu Cheryl i fynd yn ôl i weithio.

Wynebu diswyddo

Torrwyd calon Cheryl, sy’n fam sengl i ddau pan y’i gwnaed yn ddi-waith. Ond, gyda chefnogaeth, llwyddodd i sicrhau cyllid i ailhyfforddi ar gyfer gyrfa newydd mewn gweinyddiaeth bersonol.

“Roeddwn wedi gweithio ym maes manwerthu am y deng mlynedd diwethaf, a chan fod gennyf ddau o blant ifanc, roedd y swydd yn ffitio’n berffaith gydag oriau ysgol.  Trodd fy myd â’i ben i lawr pan gyhoeddodd y cwmni ddiswyddiadau.  Oherwydd fy mod yn edrych ar ôl y plant, nid oedd gen i’r hyblygrwydd i weithio oriau gwahanol, felly cefais fy niswyddo.  

“Roedd yn amser anodd iawn, ac nid oeddwn yn medru gweld unrhyw oleuni ar ben y twnnel.  Doeddwn i ddim eisiau bod yn fam sengl ddi-waith.”

Cael cymorth gan wasanaeth Cymru'n Gweithio

Yn y cyfnod pan oedd yn gweithio ei rhybudd,  cyflwynwyd Cheryl i Cymru’n Gweithio.

“I fod yn onest, nid oeddwn yn siŵr os oedd gen i hawl i gael cymorth oherwydd fy oed.  Roeddwn yn meddwl gan fy mod yn 37, fy mod yn rhy hen i dderbyn unrhyw fath o gymorth neu gyngor.

“Fe gwrddais â chynghorydd gyrfa o’r enw Christine. Rhoddodd cymaint o wybodaeth i mi am y math o gefnogaeth oedd ar gael yn ystod ac ar ôl diswyddiad ac fe’m sicrhaodd bod cymorth ar gael.”

Aeth Cheryl ymlaen a chael mynediad i gynllun ReAct Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi cymorth i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ddiswyddiadau i ennill sgiliau newydd.  Llwyddodd i sicrhau cyllid a chofrestru ar gwrs gweinyddiaeth. 

Ennill sgiliau newydd a chymwysterau

“Roeddwn mor nerfus oherwydd bod y dysgu yn newydd i mi, ond roedd Christine yn hynod gefnogol ac yn fy annog i ddilyn fy nodau gyrfaol.  Llwyddais i weithio’r hyfforddiant o amgylch amseroedd ysgol y plant ac fe lwyddais i basio fy arholiadau o fewn chwe wythnos yn unig.

Roedd Christine yn wych, ac rwy’n fythol ddiolchgar iddi hi.  Rhoddodd gefnogaeth i mi ar hyd y daith gan drefnu sesiynau i ddal fyny gyda mi, trefnu apwyntiadau, a’m cynorthwyo i ddiweddaru fy CV fel yr oeddwn yn ennill mwy o gymwysterau.

“Rhoddodd Christine yr hyder angenrheidiol roeddwn ei angen i fynd am gyfweliadau, a dangosodd i mi sut i ateb cwestiynau mewn cyfweliadau a gwerthu fy sgiliau a’m personoliaeth i gyflogwyr.”

Dechrau gyrfa newydd

Mae gan Cheryl swydd bellach fel gweinyddwraig cyllid, ac mae’n gweithio tuag at ddod yn gynorthwyydd personol.  Mae hefyd wedi sicrhau swydd sydd yn ei galluogi i weithio o amgylch addysg y plant, a oedd yn bwysig iddi hi.

“Byddwn yn bendant yn argymell Cymru’n Gweithio i unrhyw un sydd mewn sefyllfa debyg.

“Os ydych yn rhoi eich meddwl ar rywbeth, ac eisiau gwneud hynny yn fawr iawn, does dim na all eich atal rhag llwyddo. Rwy’n enghraifft berffaith o hynny."

Fyddwn i ddim wedi llwyddo a chyrraedd lle rydw i heddiw heb gefnogaeth barhaus Cymru’n Gweithio.”


Archwilio

ReAct+

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.

Chwilio am gyrsiau

Defnyddiwch ein chwiliad cyrsiau i ddod o hyd i gwrs sy'n iawn i chi. Mae'n cynnwys cyrsiau rhan-amser, cyrsiau byrion a dysgu yn y gymuned.

Sut mae ysgrifennu CV

Sicrhewch fod eich CV o'r safon orau bosibl. Dewch i wybod beth yw gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CVs, a lawrlwytho ein Canllaw i ysgrifennu CV.