Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Luke

Luke yn sefyll ar ysgol yn gwifro adeilad

Mae dyn 24 oed o Gwmfelinfach wedi dweud mai'r cyllid a’r cymorth cyflogaeth gan Lywodraeth Cymru a wnaeth ei helpu i gymryd y camau cyntaf i'w yrfa ddelfrydol, ar ôl iddo golli ei swydd ychydig cyn genedigaeth ei blentyn cyntaf.

Wynebu colli swydd

Mae’r cymorth wedi dod ar amser perffaith i Luke, ar ôl i’w swydd mewn canolfan brofi Covid-19 ddod i ben, a dyddiad geni ei ferch ond ychydig fisoedd i ffwrdd.

“Roeddwn i’n gweithio i gwmni TG bach ond, yn anffodus, fe aeth y busnes i’r wal a chefais fy ngwneud yn ddi-waith am yr ail dro yn ystod fy ngyrfa.

“Fe wnes i golli calon gyda’r diwydiant ychydig, ac roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau swydd ymarferol a oedd yn cynnig sefydlogrwydd i mi a fy nheulu newydd. Dyna pryd y penderfynais i fod yn drydanydd”.

Cael cefnogaeth gan Cymru’n Gweithio

Fe wnaeth Luke gwrdd â chynghorydd Cymru’n Gweithio i drafod ei nodau gyrfa.

Fe wnaethon nhw ddechrau datblygu pecyn cymorth a fyddai’n ei helpu i ddychwelyd i waith. Roedd hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer cwrs hyfforddi.

“Ar ôl ychydig fisoedd o edrych ar wahanol opsiynau, cefais gynnig lle yn y pen draw ar yr holl gyrsiau hyfforddi hanfodol roedd eu hangen arnaf i, gan gynnwys codi a chario, ac ymwybyddiaeth o asbestos.

“Fe dalodd ReAct+ holl ffioedd fy nghwrs a’r treuliau teithio, felly doedd dim rhaid i mi boeni am ddod o hyd i’r arian fy hun a finnau’n dad erbyn hyn.

“Roeddwn i mor ddiolchgar hefyd o gael cefnogaeth barhaus gan Cymru’n Gweithio drwy gydol y broses. Roedden nhw yno i mi drwy’r uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau.

“Mae’n golygu cymaint eich bod yn gwybod bod gennych chi hyfforddydd a mentor i gefnogi eich taith gyfan i chwilio am swydd a chynnig cyngor ymarferol fel paratoi ar gyfer cyfweliad”.

“I unrhyw un sy’n poeni am eu dyfodol ar ôl colli eu swydd, byddwn i’n eu cynghori i ffonio Cymru’n Gweithio i gael gwybod am yr holl gymorth gallan nhw ei gynnig i chi. Byddan nhw’n teilwra eu cefnogaeth i’ch anghenion penodol, pa bynnag rôl neu ddiwydiant rydych yn dewis mynd iddo.

“Mae’r gefnogaeth a gefais i ganddyn nhw wedi bod yn amhrisiadwy. Eu gwybodaeth a’u harbenigedd o ran sut i ymdopi â newid gyrfa, gwneud cais am swyddi, ac ysgrifennu CV oedd y prif resymau pam wnes i lwyddo i gael yr hyfforddiant a’r rôl bresennol.

“Heb gyllid a chymorth ReAct+, fyddwn i ddim wedi gallu cymryd y camau cyntaf tuag at fy nod o fod yn drydanwr cymwysedig a chael swydd sefydlog i gefnogi fy nheulu”.


Archwilio

Cymorth ar ôl colli swydd

Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.

ReAct+

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.