Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Cian O

Llun o Cian yn sefyll mewn ystafell ddosbarth

Byddai Cian Owen, sy’n 22 oed o Fangor, byth wedi dychmygu y byddai'n cael gyrfa yn y sector gofal plant ar ôl gadael yr ysgol.

Cyn hynny, ei uchelgais oedd cael gyrfa ym maes TG. Ond ni allai Cian erioed fod wedi rhagweld y daith y byddai ei yrfa’n ei chymryd mewn ychydig o flynyddoedd yn unig.

Mae'n annog eraill sy'n penderfynu ar eu camau nesaf i gymryd y naid a chael profiad mewn diwydiant y maen nhw’n angerddol amdano.

Wynebu heriau

“Roeddwn i eisiau gyrfa ym maes TG i ddechrau, ond wrth i mi orffen yn y coleg, tarodd COVID-19, ac fe wnaeth ddifetha fy holl gynlluniau. Er gwaethaf hynny, penderfynais ddyfalbarhau, gan ddechrau fy musnes fy hun fel glanhawr ffenestri.

“Roedd angen i mi ddechrau gweithio ac ennill arian oherwydd roedd yn rhaid i mi dalu am bethau fel fy nghar a biliau. Roeddwn i'n eithaf ffodus i gael swydd ar adeg pan oedd pobl eraill yn ei chael hi'n anodd iawn. Mwynheais fy swydd, ond roeddwn i’n gwybod nad dyna oeddwn i eisiau ei wneud am byth.”

Dod o hyd i brentisiaeth

Wrth chwilio am ei gyfle nesaf, daeth Cian, gyda chymorth Cymru’n Gweithio a chynghorydd gyrfa, o hyd i gyfle mewn diwydiant cwbl wahanol.

“Fe wnes i ddod ar draws hysbyseb ar-lein am brentisiaeth mewn meithrinfa gofal plant yn fy ardal leol o’r enw Ffalabalam. Roedd hyn yn wahanol iawn i unrhyw beth roeddwn i wedi rhoi cynnig arno o'r blaen, ond roeddwn i eisiau gweithio gyda phlant ers sbel, felly roedd hi’n ymddangos fel y cyfle iawn i mi. Siaradais â fy rhieni am y rôl, a dywedon nhw “ewch amdani!”.

“Rydw i bron wedi cwblhau blwyddyn gyntaf fy mhrentisiaeth nawr ac rydw i wrth fy modd. Rydw i’n gweithio gyda phlant dwy i dair oed fel arfer. Rydw i’n eu helpu i gael y gorau o chwarae a dysgu ac mae’n rhoi boddhad mawr eu gweld nhw’n datblygu.

Manteision cael cefnogaeth

Mae Cian yn annog eraill i ofyn am gyfarwyddyd gan y rhai o'u cwmpas nhw wrth feddwl am eu camau nesaf.

“Fe es i’n syth i’r gweithle ar ôl coleg, a dydw i ddim wedi difaru’r penderfyniad o gwbl. Fe helpodd fi i gael profiad ac ennill arian yn syth bin. Dysgais i hefyd sgiliau cymdeithasol, sut i ddelio ag arian, a sut i fod yn fwy annibynnol fel unigolyn.

“A chan fy mod i’n gwneud fy mhrentisiaeth bellach, rydw i’n ennill cymhwyster ochr yn ochr â gweithio.

“Yr hyn rydw i wedi’i ddysgu yw does dim angen i chi ddewis yr yrfa y byddwch chi’n ei gwneud trwy gydol eich bywyd yr eiliad byddwch chi’n gadael yr ysgol. Dechreuais i lanhau ffenestri, a nawr rydw i yma yn gofalu am blant – dydyn nhw ddim yn debyg o gwbl. Gallwch chi newid a dewis beth rydych chi am ei wneud yn y dyfodol. Ond dylech chi wneud rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau.

“Os yw [pobl ifanc] yn poeni am eu camau nesaf, byddwn i’n dweud wrthyn nhw ei bod hi’n bwysig siarad â’r bobl o’u cwmpas nhw – teulu, ffrindiau, athrawon. Ond mae yna hefyd gynghorwyr gyrfa Cymru’n Gweithio, sydd wedi bod o help mawr i mi hefyd. Maen nhw eisiau eich helpu chi, felly peidiwch ag oedi i gael cymorth ganddyn nhw.”


Archwilio

Gwarant i Bobl Ifanc

Cyfle gwarantedig i bawb rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn siŵr o feithrin agwedd bositif ynoch.

Prentisiaethau

P'un ai ydych chi'n dod o hyd i'ch ffordd ym myd gwaith, neu'n cymryd camau tuag at newid gyrfa, gallai prentisiaeth fod ar eich cyfer chi.

Mwy o straeon go iawn

Stori Evelyn

Darganfu Evelyn ei hangerdd am y cyfryngau diolch i athrawes ysbrydoledig yn ystod ei harholiadau TGAU a Safon Uwch.

Stori Katy

Helpodd cymorth gyrfa Katy i wneud cais llwyddiannus am ei chwrs delfrydol yn y coleg.

Stori Sam

Gwnaeth cynghorydd gyrfa Sam ei gefnogi i adnabod ei gamau nesaf i’r brifysgol.