Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Eiry

Eiry

Ar ôl colli ei swydd, llwyddodd Eiry i droi profiad anodd yn gyfle i ddechrau busnes llwyddiannus.

Yn wynebu colli swydd

Cafodd Eiry ei diswyddo'n annisgwyl o'i swydd fel gwerthwr blodau. Roedd hi wedi bod yn werthwr blodau ers ugain mlynedd ac wedi datblygu angerdd am ei gwaith.

Cafodd y diswyddiad effaith ar iechyd meddwl Eiry a'i gadael yn pendroni beth i'w wneud nesaf. 

Dywedodd hi: “Cafodd fy hyder ei guro a doeddwn i ddim yn gwybod beth fyddai orau i fi ei wneud nesaf.”

Ar ôl cyfarfod ar hap gyda Gyrfa Cymru yn ei llyfrgell leol, trefnodd i weld cynghorydd gyrfaoedd. 

Dod o hyd i'w thraed

Cyfarfu Eiry â’r cynghorydd gyrfa Shan Thomas i’w helpu gyda’i chamau nesaf. Gyda'i gilydd, buont yn archwilio ei hopsiynau, gan gynnwys cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth.

Trwy’r sesiynau cyfarwyddyd a hyfforddi, helpodd Shan Eiry i fagu’r hyder i fynd yn ôl i faes blodeuwriaeth – ond y tro hwn, drwy sefydlu ei busnes ei hun.

Daethant o hyd i'r cwrs blodeuwriaeth delfrydol yn y Cotswolds a fyddai’n helpu Eiry i wella ei sgiliau presennol.

Gyda chymorth Shan, gwnaeth Eiry gais ar gyfer rhaglen ReAct+ i ariannu'r cwrs hyfforddi a helpu i gael y dechrau gorau iddi.

Dechrau busnes

Wrth siarad am y cwrs hyfforddi, dywedodd Eiry: “Fe ailadeiladodd fy hyder yn syth bin. Deuthum i ffwrdd yn teimlo'n barod i edrych ar ddechrau fy musnes fy hun.

“Fe newidiodd fy agwedd at flodeuwriaeth yn llwyr ac roeddwn i’n teimlo fy mod wedi fy ngrymuso â'r wybodaeth sydd gen i nawr.”

Aeth Eiry ymlaen i sefydlu Lilibet Florist, gwasanaeth blodeuwriaeth lleol dwyieithog yn Llanelli, sydd bellach yn mynd o nerth i nerth.

Darn olaf y pos

Wrth ddatblygu’r busnes, teimlai Eiry fod angen ffynhonnell incwm arall arni. Aeth yn ôl at Shan, a helpodd hi i chwilio am waith rhan-amser a fyddai'n cyd-fynd â'i gwaith blodeuwriaeth.

Gwnaeth Eiry gais llwyddiannus am rôl cynorthwyydd siop mewn busnes teuluol lleol, 925 Treats.

Dywedodd hi: “Maen nhw wedi bod mor gyfeillgar a chroesawgar, ac wedi rhoi hwb i fy hyder hyd yn oed ymhellach.

“Rwy’n teimlo’n hollol wahanol. Mae pobl wedi gweld y straen yn cael ei godi oddi arnaf.

“Am wahaniaeth mae blwyddyn wedi’i wneud. Roedd yn amser mor anodd ond, mewn ffordd, dyna’r peth gorau a ddigwyddodd i mi.”


Os fel Eiry, rydych wedi cael eich heffeithio gan ddiswyddiad ac yn teimlo bod angen cymorth diswyddo arnoch neu fynediad at hyfforddiant ac uwchsgilio, ewch i: Cymorth ar ôl Colli Swydd neu cysylltwch â ni.


Archwilio

ReAct Plws

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.
 

Cymorth ar ôl colli swydd

Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.

Siarad â chynghorydd gyrfa

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu a ni