Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Ethan

Ethan, dysgwr adeiladu, yn uno darnau o bren â’i gilydd

Mae Ethan yn mwynhau’r profiad ymarferol mae Twf Swyddi Cymru+ yn ei gynnig.

Hyfforddiant arbenigol

Roedd Ethan, o’r Barri, bob amser yn gwybod y byddai’n gweithio yn y sector adeiladu.

Ac yntau wedi bod yn gweithio ar jobsys bach gyda’i dad ers pan oedd yn blentyn, dechrau rhaglen Twf Swyddi Cymru+ wnaeth ei helpu i benderfynu mai gwaith coed neu waith saer oedd y llwybr yr oedd am ei ddilyn. Mae Ethan ar elfen Datblygu y rhaglen ar hyn o bryd.

Eglurodd Ethan: “Roedd gen i syniad da fy mod i’n mwynhau gwaith coed, ond roedd gallu ymarfer gwaith saer a gwaith coed ysgafn o ddydd i ddydd yn sicr wedi fy helpu i wneud fy mhenderfyniad.

“Yn y pen draw, byddwn wrth fy modd yn cael swydd mewn gweithdy gwaith coed sy’n gwneud dodrefn ac eitemau mwy addurnol. Fel arall, rwyf hefyd wrth fy modd yn teilsio – felly byddwn i’n fwy na pharod i gael lleoliad gwaith yn y maes hwnnw hefyd, yn dibynnu ar ba gyfleoedd sydd ar gael.”

Paratoi ar gyfer swydd

Ac yntau bron â dechrau elfen Cyflogaeth y rhaglen, mae Ethan yn egluro’r math o brofiadau mae wedi’u cael a sut mae hyn wedi ei helpu i wella.

“Rwyf mor hapus â sut rwyf wedi datblygu. Cyn hyn, roeddwn i’n gallu gwneud gwaith coed a theilsio sylfaenol, ond nawr rwy’n gallu gwneud gwaith fwy manwl ac addurniadol. Rwy’n teimlo fy mod yn cynhyrchu gwaith o safon erbyn hyn.

“Rwyf wedi dysgu crefftau eraill hefyd, fel plastro, peintio ac addurno, a thorri sgyrtin. Rwy’n falch eu bod nhw wedi caniatáu i mi ddysgu sgiliau newydd sy’n golygu fy mod i’n gallu gwneud dipyn o bob dim mewn gwahanol feysydd yn y byd adeiladu.

“Y peth gorau i mi yw’r profiad ymarferol rydych chi’n ei gael. Yn y coleg, rydych chi’n tueddu i wneud llawer mwy o waith ysgrifenedig, ond mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio’n gryf ar ymarfer a datblygu sgiliau ymarferol ac mae hyn yn gallu eich paratoi chi lawer mwy ar gyfer swydd.”

Profiad yn y diwydiant

Yn ogystal â chefnogi ei daid yn gwneud ambell i swydd gwaith coed neu deilsio ochr yn ochr â’r rhaglen, llwyddodd Ethan i gael lleoliad gwaith yn gynharach yn y flwyddyn.

Eglurodd: “Cefais brofiad o weithio ar y prif gyflenwad nwy gyda Wales & West Utilities, a oedd yn teimlo fel cyfle anhygoel. Rhoddodd hyn rywfaint o brofiad i mi o blymio, na fyddwn wedi ei gael pe na bawn wedi dod ar y rhaglen. Roedd y lleoliad yn ei gyfanrwydd yn fuddiol iawn i’m helpu i ddysgu a datblygu.

“Mae profiadau fel hyn wedi rhoi hwb go iawn i fy hyder, yn enwedig wrth siarad â phobl hŷn neu weithwyr proffesiynol.

“Yn y maes adeiladu, yn aml mae’n teimlo bod pobl hŷn sydd â mwy o brofiad bob amser yn gwybod yn union beth maen nhw’n ei wneud a beth maen nhw’n ei drafod, ond rwyf hefyd wedi gweld fy mod i’n gallu cynnig dull mwy modern, gan fy mod i’n dal yn ffres yn y cam hyfforddi.

“Mae’n braf cael yr hyder i ddweud wrthyn nhw – nid mewn ffordd nawddoglyd – ond mewn ffordd gymwynasgar ac adeiladol, fel mae pobl wedi gwneud i mi tra rwyf wedi bod yn dysgu.

Mae Twf Swyddi Cymru+ hefyd wedi fy helpu i gael fy ngherdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) a’r cymhwyster ‘Fy Myd Gwaith’, a fydd i gyd yn help pan fyddaf yn gwneud cais am swydd amser llawn yn fuan.”


Archwilio

Twf Swyddi Cymru Plws Datblygu

Angen cymwysterau neu gefnogaeth ychwanegol i gymryd dy gam nesaf? Bydd yr elfen yma o Twf Swyddi Cymru+ yn dy roi ar ben ffordd.

Twf Swyddi Cymru Plws

Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yw Twf Swyddi Cymru+, sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnat ti i gael swydd neu hyfforddiant pellach.

Straeon go iawn

Dewch i wybod sut mae pobl go iawn ledled Cymru wedi newid eu stori gyda Twf Swyddi Cymru+.