Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Angel

Angel, dysgwr iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant, gyda babi dol a bath babi

Mae Angel yn creu dyfodol gwell iddyn nhw eu hunain.

Newid llwybrau

Gadawodd Angel yr ysgol yn 16 oed ac nid oedd sicr beth y dylen nhw ei wneud nesaf.

Nawr eu bod ychydig yn hŷn, maen nhw wedi darganfod eu diddordebau gyrfa diolch i’w profiadau ar raglen Twf Swyddi Cymru+.

Dywedodd Angel: “Pan wnes i orffen yn yr ysgol uwchradd, doeddwn i ddim yn siŵr pa lwybr gyrfa oedd yn iawn i mi. Fe wnes i astudio harddwch am gyfnod ac edrych ar brentisiaeth iau ym maes arlwyo, ond doedd o ddim yn fy siwtio i, ac roeddwn i eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd.

“Roeddwn i hefyd yn chwilio am rywle llai i astudio ynddo. Roeddwn i’n teimlo bod y coleg yn rhy fawr, ac roeddwn i’n teimlo fy mod yn cael fy llethu’n aml, felly roeddwn i’n teimlo bod y rhaglen hon yn berffaith i mi. Rydyn ni’n cael ein trin fel oedolion hefyd, ac mae’r tiwtoriaid yn gymwynasgar ac yn barchus iawn.”

Creu bywyd gwell

Mae Angel nawr ar elfen Datblygu Twf Swyddi Cymru+, wrthi’n cwblhau cymhwyster Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant. Ychwanega Angel: “Doedd gen i byth lawer o sicrwydd yn fy mywyd wrth dyfu i fyny. Mae wedi fy annog i fod eisiau gofalu am bobl a dod â nhw at ei gilydd, sy’n un o’r rhesymau pam y dewisais astudio Gofal Plant.

“Rwyf wedi cael llawer o brofiad ymarferol fel sut mae lapio a rhoi bath i fabi, sut mae sterileiddio eu poteli, a sut mae gofalu amdanyn nhw’n iawn. Er fy mod i’n gwybod llawer am ochr ‘ffisegol’ gofal, doeddwn i ddim yn gwybod llawer am yr ochr emosiynol a meddyliol, felly mae wedi bod yn wych yn dysgu pethau newydd hefyd.

“Rwyf hefyd wedi gallu cwblhau cymwysterau mwy cyffredinol ochr yn ochr â dilyn fy niddordeb. Mae’n dda eich bod yn gallu gwneud pethau fel astudio ar gyfer Mathemateg a Saesneg os na chawsoch chi raddau da y tro cyntaf.

“Yn ogystal â’r hyfforddiant ymarferol, mae gennym ni ‘ddydd Mercher Lles’. Byddwn ni i gyd yn mynd allan am y diwrnod ac yn cymryd rhan mewn ymarferion meithrin tîm. Mae wedi bod yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a magu fy hyder.

“Rwyf wrth fy modd gyda’r ffordd rydych chi’n gallu mynegi eich personoliaeth a’ch unigolrwydd yn agored; rhywbeth na allwn i ei wneud yn yr ysgol bob amser. Mae’r rhaglen wedi bod o fudd mawr i fy hapusrwydd.

“Ar y cyfan, mae’n teimlo fel cam tuag at well bywyd.”

Symud ymlaen

Mae Angel nawr yn ystyried eu hopsiynau cyflogaeth yn y dyfodol ac yn gobeithio sicrhau lleoliad cyn bo hir.

Dywedodd Angel: “Wrth edrych tua’r dyfodol, rwyf wir eisiau gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed a gallu dangos iddyn nhw fod mwy i fywyd na dim ond eistedd gartref. Rwyf wedi treulio llawer o amser mewn grwpiau ieuenctid, ac mae wedi cael effaith gadarnhaol ar fy mywyd.

“Rwyf am gefnogi pobl fel fi i fynd ar y trywydd iawn, cael swydd a’u helpu gyda’u hanghenion. Os nad oes ganddyn nhw neb, yna rwyf eisiau bod yno iddyn nhw.

“Rwyf wedi gwneud cais i weithio gyda grŵp ieuenctid. Rwy’n gwybod bod gen i gryn dipyn i fynd eto cyn cael swydd, ond rwy’n dal ati i wella fy hun nes byddaf i’n cael cynnig rôl.

Rwy’n adnabod llawer o bobl sydd wedi cael swydd ers ymuno â Twf Swyddi Cymru+, ac rwy’n gwybod y byddaf innau hefyd, dim ond i mi ddal ati i wneud fy ngorau.”


Archwilio

Twf Swyddi Cymru Plws Datblygu

Angen cymwysterau neu gefnogaeth ychwanegol i gymryd dy gam nesaf? Bydd yr elfen yma o Twf Swyddi Cymru+ yn dy roi ar ben ffordd.

Twf Swyddi Cymru Plws

Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yw Twf Swyddi Cymru+, sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnat ti i gael swydd neu hyfforddiant pellach.

Straeon go iawn

Dewch i wybod sut mae pobl go iawn ledled Cymru wedi newid eu stori gyda Twf Swyddi Cymru+.