Mae Maddox wastad wedi caru rasio ceir. Nawr, mae’n bwriadu astudio cwrs yn Silverstone University Technical College (UTC) am ddwy flynedd ar ôl cael ei arholiadau TGAU.
Pan fydd Maddox, sy’n 16 oed, o’r Drenewydd yn gadael yr ysgol ar ôl TGAU, mae’n gobeithio dilyn ei freuddwyd o fod yn beiriannwr modur drwy fynd i Silverstone UTC, cyfleuster gwerth miliynau o bunnoedd wrth wraidd British Motorsport.
Mae Maddox wedi gwirioni ar beirianneg modur ers iddo fod yn ifanc.
Dywedodd Maddox: “Cyhyd ag y galla i gofio, dwi wedi bod ag obsesiwn ag unrhyw beth sydd ag injan. Byddai sŵn injan bob tro yn fy nghyfareddu.
“A dweud y gwir, yn ôl mam, ‘bws’ oedd un o fy ngeiriau cyntaf a phan oeddwn yn yr ysgol gynradd, byddwn i wastad yn sôn am redeg fy nghwmni ceir trydan fy hun.
“Mae’r profiad o edrych ar injan, ei adeiladu, a gweld y holl broses yn dod at ei gilydd i greu’r peiriannau cyflym yma yn fy swyno. Mae’n rhoi gwefr a dihangfa i mi; mae’n anodd egluro’r peth.
“Wrth i mi fynd yn hŷn, mae’r diddordeb hwn mewn peiriannau wedi tyfu i fod yn gariad at Formula One - uchafbwynt byd rasio.
“Does dim safon well ar gyfer peirianneg modur, a dwi wir yn awyddus i gael profiad yn y maes hwn.”
Troi angerdd yn yrfa
Aeth Maddox ymlaen i ddweud:
“Pan ddaeth yr amser i feddwl am fy ngyrfa a beth i’w wneud ar ôl gorffen yn yr ysgol, doedd dim amheuaeth fy mod am ddilyn yr uchelgeisiau hyn ym maes peirianneg modur. Edrychais ar golegau chweched dosbarth a gwneud prentisiaeth, ond roedd yr holl opsiynau yn ormod i mi.
“Roeddwn i eisiau gwneud y penderfyniad cywir i fy helpu i fynd i mewn i’r diwydiant. Felly, penderfynais gysylltu â chynghorydd gyrfaoedd Cymru’n Gweithio i gael rhywfaint o arweiniad a sicrwydd o ran y dull gorau.
“Dyna pryd gwnes i gwrdd â fy ymgynghorydd gyrfaoedd, Jodi White. Roedd hi’n wych, a galla’i ddim diolch digon iddi am ei help.
“Roedd Jodi wedi gwneud ymdrech i ddod i fy adnabod fel person. Gofynnodd i mi am fy nghefndir, fy niddordebau, a lle hoffwn i fod yn y dyfodol.
“Roedd hi wedi fy helpu i fagu hyder a gwneud i mi gredu bod cyfle gen i ym myd Formula One.
“Roedd Jodi wedi cyflwyno llawer o opsiynau cyffrous i mi y gallwn eu dilyn fel Silverstone UTC. Roedd hi wedi fy arwain drwy bob cam o’r broses a helpodd gyda fy nghais ar gyfer Silverstone UTC hyd yn oed.”
Edrych ymlaen at y dyfodol
“Dwi wedi bod i weld Silverstone UTC cwpwl o weithiau ac mae’r cyfleusterau yno wedi creu argraff fawr arnaf. Os aiff popeth yn iawn a mod i’n llwyddo i gael lle ar y cwrs peirianneg modur, bydd y cwrs yn para dwy flynedd tan mod i’n 18 oed.
“Bydd y coleg fel ail gartref i mi o ddydd Llun i ddydd Mercher ac fel rhan o becyn cefnogaeth y coleg, bydd teulu lleol yn gofalu amdanaf.
“Mae meddwl am fod i ffwrdd yn Sir Rhydychen bob wythnos yn gwneud i mi deimlo ychydig yn nerfus ond dwi’n edrych ymlaen at gael y profiad unigryw a newydd hwn. Bydd yn wych cael fy amgylchynu gan gymaint o bobl eraill o’r un anian, a bod wrth galon rasio Formula One y DU a gwybod mod i gam yn nes at wireddu fy mreuddwydion.”
Cyngor i eraill
“Fy nghyngor i unrhyw un mewn sefyllfa debyg, o wybod pa yrfa hoffen nhw ei dilyn ond yn ansicr sut i gyrraedd yno, fyddai siarad ag arbenigwr. Roedd Cymru’n Gweithio wir wedi fy helpu i lunio llwybr clir a chyraeddadwy tuag nod penodol iawn o ran gyrfa.
“Mae cymaint o opsiynau ar gael, ac mae’r ymgynghorwyr yno i’ch rhoi ar ben ffordd.”
Archwilio
Ennill cyflog tra'n gweithio a chael cymwysterau cydnabyddedig a sgiliau sy'n benodol i swydd.
Rhwng 16-19 oed? Gallwch gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith â thâl i'ch helpu i greu eich dyfodol eich hun ar eich telerau eich hun.
Mynnwch gefnogaeth i archwilio'ch opsiynau.
Darllen fwy o straeon bywyd go iawn
Charlie yn profi y gall ailsefyll blwyddyn fod yn fendith gudd.
Growing up with 11 brothers and sisters inspires Cerys to be a midwife.
Darllenwch fwy o straeon bywyd go iawn ar ganlyniadau arholiadau, prentisiaethau, hyfforddiant a dysgu, a chefnogaeth ar gyfer mynd i mewn i waith.