Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Charlie

Charlie yn gwisgo hwdi gwyn ac yn gwenu ar y camera.

Bu'n rhaid i Charlie ailsefyll blwyddyn 12 oherwydd ei gyflwr iechyd, ond mae ganddo gynlluniau i astudio ffiseg yn y brifysgol.

Ar ôl i Charlie, sy'n 19 ac yn dod o Lanelwy, adael yr ysgol ar ôl ei arholiadau Safon Uwch, mae'n bwriadu mynd i Brifysgol Caer i astudio Ffiseg.

O oedran ifanc, roedd gan Charlie ddiddordeb mawr mewn sut roedd pethau'n gweithio.

Meddai Charlie: “Mae gen i Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD). Yn aml, gall hyn ei gwneud hi'n anodd cymdeithasu â phobl eraill.

“Er gwaethaf hyn, rwyf hefyd wedi cael fy mendithio â ffordd ymarferol a rhesymegol iawn o feddwl.

“Hyd yn oed fel plentyn, roedd gen i obsesiwn â sut roedd pethau’n gweithio a’r fecaneg y tu ôl i hynny. Mae fy angerdd tuag at ffiseg felly wedi bod yn datblygu ers amser maith!

“Rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at fynd i’r brifysgol er mwyn i mi allu ymgolli mewn pwnc rwy’n teimlo'n frwdfrydig iawn amdano, parhau i ddatblygu fy hyder mewn sefyllfaoedd cymdeithasol a chwrdd â phobl o’r un anian ar fy nghwrs.”

Goresgyn rhwystrau

Aeth Charlie hefyd ymlaen i egluro: “Rwy’n dioddef o Neffropathi Imiwnoglobwlin A (IgAN). Clefyd prin ar yr arennau yw hwn sy'n golygu fy mod i, yn anffodus, wedi gorfod colli llawer o ysgol dros y blynyddoedd.

“Gall pwl drwg olygu y byddaf yn fy ngwely am rai wythnosau.

“Cefais bwl arbennig o wael ym mlwyddyn 12, ac arweiniodd hyn at y penderfyniad i ailsefyll y flwyddyn yn y pen draw.

“Yn bendant dyma’r penderfyniad gorau y gallwn i fod wedi’i wneud. Os rhywbeth, rhoddodd ailsefyll blwyddyn 12 fwy o gymhelliant i mi nag erioed i wneud yn dda.

“Fy nghyngor i eraill sydd hefyd angen ail-wneud blwyddyn o ysgol yw nad dyna ddiwedd y byd. Gallwch chithau hefyd ddod drwyddi.”

Pennod newydd

“Oherwydd rhai o fy heriau iechyd, doeddwn i ddim yn siŵr a oedd prifysgol yn opsiwn realistig i mi. Yn ffodus, penderfynais estyn allan at fy nghynghorydd gyrfa Cymru’n Gweithio, Rowena Poyntz-Wright, i gael cymorth gyrfaoedd.

“Roedd hi’n wych ac fe wnaeth i mi gredu ynof fi fy hun y gallwn i fynd i’r brifysgol. Lluniodd becyn cymorth personol wedi'i deilwra'n arbennig i mi hefyd.

“Treuliodd Rowena amser yn dod i ddeall fy anghenion. Daeth o hyd i’r cyfle i mi astudio ffiseg yng Nghaer, sy’n cynnig trefniadau astudio hyblyg a llawer o gymorth i bobl ag anableddau.

“Yna rhoddodd lwybr clir i mi gyrraedd yno a helpodd fi gyda phopeth drwy gydol y broses ymgeisio. Alla'i ddim diolch ddigon iddi.”

Yn y cyfnod cyn y diwrnod canlyniadau, ychwanegodd Charlie:

“Mae’n bwysig cadw meddwl agored ar ddiwrnod canlyniadau.

“Cofiwch nad yw eich canlyniadau yn diffinio beth ydych chi na phwy ydych chi. Dim ond un rhan o daith hir ydyw.

“Os oes angen cymorth arnoch i gynllunio’ch dyfodol hefyd, cysylltwch â Cymru’n Gweithio gan fod digon o adnoddau cymorth gyrfaoedd ar gael i bobl ifanc.”


Archwilio

Prifysgol ac addysg uwch

Dysgwch am fynd i'r brifysgol, gan gynnwys proses ac amserlen Ymgeisio UCAS. Mae hefyd yn cynnwys astudio dramor.

Coleg a 6ed dosbarth

Dysgwch beth i'w ddisgwyl yn y coleg neu chweched dosbarth - pa gymorth ariannol y gallech ei gael, at ba yrfaoedd mae gwahanol gyrsiau'n arwain, a rhagor.


Darllen fwy o straeon bywyd go iawn

Stori Maddox

Mae Maddox yn gobeithio dilyn ei freuddwyd Formula One ers iddo fod yn blentyn.

Cerys' story

Growing up with 11 brothers and sisters inspires Cerys to be a midwife.

Straeon go iawn

Darllenwch fwy o straeon bywyd go iawn ar ganlyniadau arholiadau, prentisiaethau, hyfforddiant a dysgu, a chefnogaeth ar gyfer mynd i mewn i waith.