Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Amelia B

Amelia

Mae Amelia Britten, 17 oed, o Grucywel, yn gwybod erioed ei bod hi eisiau bod yn feddyg.

Uchelgais gydol oes

Diolch i gefnogaeth ei hysgol a chynghorydd Gyrfa Cymru, mae hi gam yn nes at wireddu ei breuddwyd.

Meddai Amelia: “Cyhyd ag y gallaf gofio, rydw i wedi dweud fy mod i eisiau bod yn feddyg. Nid yw hyn wedi newid o gwbl, ac rydw i wedi cadw yn fy meddwl y byddaf yn gwneud i hyn ddigwydd.”

Cefnogaeth a wnaeth wahaniaeth

Diolch i gefnogaeth ei chynghorydd Gyrfa Cymru, Vicky, darganfyddodd Amelia y gwahanol lwybrau y gallai eu cymryd i helpu i gyflawni ei breuddwyd.

Dywedodd: “Roeddwn i’n meddwl bod yn rhaid i chi gael graddau A* yn syth a chwblhau gradd meddygaeth i fod yn feddyg, ond dysgais fod cymaint o lwybrau eraill gan gynnwys astudio gwyddorau biolegol.”

Roedd y cyngor hwnnw’n golygu bod gan Amelia fwy nag un ffordd o gyrraedd ei nod, gan helpu i leihau ei gorbryder a gwneud i’w breuddwyd deimlo’n fwy cyflawnadwy. Ychwanegodd: “Roedd gen i syniad cryf o’r llwybr roeddwn i eisiau ei gymryd, a helpodd Vicky fi i weld, hyd yn oed os na fyddwn i’n llwyddiannus wrth wneud cais am radd feddygol y tro cyntaf, fod ffyrdd eraill o gyrraedd yno.”

Wrth astudio ar gyfer ei Safon Uwch Gyfrannol (UG), roedd Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) ac awtistiaeth Amelia yn gwneud adolygu ac arholiadau yn arbennig o anodd. Dywedodd: “Roeddwn i’n gwybod pa mor bwysig oedd adolygu ond roedd fy mharlys ADHD yn ei gwneud hi’n teimlo’n amhosibl i ddechrau.”

Roedd ei harholiad cyntaf yn arbennig o anodd ar ôl i’w chyfrifiannell dorri yn ystod papur heriol, gan arwain at chwalfa - ymateb dwys i sefyllfa llethol.

Ychwanegodd: “Mae pobl niwrowahanol yn wynebu gwahanol heriau, ac mae’n normal teimlo dan bwysau. Roedd fy arholiad cyntaf yn erchyll ond rwy mor falch ohonof fy hun, fy mod i wedi aros yn dawel ac wedi llwyddo i oroesi gweddill fy arholiadau a phrofi i mi fy hun y gallaf i eu gwneud. Mae’n bwysig i bobl niwrowahanol eraill gofio nad ydych chi ar eich pen eich hun a bod llawer o bobl yn mynd trwy’r un heriau â chi.”

Edrych ymlaen at ddyfodol disglair

Ar hyn o bryd mae Amelia yn astudio bioleg, cemeg a seicoleg yn Ysgol Uwchradd Crughywel, ac mae’n aros am ei chanlyniadau safon UG. Ei dymuniad hi yw ennill graddau Lefel A digon cryf i allu cael cyfweliad ar gyfer astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gorffennodd drwy ddweud: “Mae Gyrfa Cymru wedi rhoi’r gefnogaeth ymarferol i mi roi cynllun ar waith a fydd yn fy helpu i gyflawni fy mreuddwyd o fod yn feddyg. Ond yn bwysicach fyth, maen nhw wedi rhoi’r hyder a’r sicrwydd i mi, os na fydd yn digwydd y tro cyntaf, yna mae llwybrau eraill y gallaf eu cymryd i’m helpu i gyrraedd yr un nod.”


Archwilio

Gwarant i Bobl Ifanc

Cyfle gwarantedig i bawb rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn siŵr o feithrin agwedd bositif ynoch.

Prifysgol ac addysg uwch

Dysgwch am fynd i'r brifysgol, gan gynnwys proses ac amserlen Ymgeisio UCAS. Mae hefyd yn cynnwys astudio dramor.