Ar ôl gadael yr ysgol, mae Cerys Beckinsale, sy'n 16 oed ac yn dod o Bort Talbot, yn gobeithio mynd i'r coleg.
Mae'n bwriadu cwblhau cymhwyster lefel tri dwy flynedd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yna mae hi eisiau mynd i'r brifysgol i astudio i fod yn fydwraig.
Ysbrydoliaeth gan ei theulu
Dywedodd Cerys: “Rwyf wastad wedi bod wrth fy modd yn gofalu am blant bach. Cefais fy magu mewn teulu maeth mawr gydag 11 o frodyr a chwiorydd. Rwyf hefyd wedi datblygu diddordeb mewn sut mae plant yn datblygu eu personoliaethau unigryw. Meddwl am ddod â phlant i’r byd sy’n fy ysbrydoli fwyaf.”
Aros yn bositif ar ddiwrnod canlyniadau
Fel llawer o bobl ifanc, roedd adolygu yn ystod y pandemig yn her i Cerys.
“Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd cael cymhelliant i adolygu, yn enwedig gyda phynciau fel mathemateg a gwyddoniaeth. Dydyn nhw ddim yn dod yn naturiol i mi," eglurodd.
“Gyda'r arholiadau cyntaf, roeddwn i'n teimlo'n nerfus iawn ynglŷn â sut y byddwn i'n ymdopi gan fy mod i ymhell y tu allan i'm cylch cysurus. Llwyddais i oresgyn hyn, diolch byth, ac roedd pethau’n gwella gyda phob arholiad.”
Manteisio ar gymorth gyrfaoedd
“Fy nghyngor i bobl ifanc eraill yng Nghymru yw aros yn bositif a cheisio peidio â phoeni gormod. Beth bynnag fydd y canlyniad, bydd opsiynau ar gael i chi.
“Rwyf wedi cael llawer o gefnogaeth gan fy ysgol a'm cynghorwyr gyrfa. Fe wnaethon nhw fy helpu i gredu ynof fi fy hun ac maen nhw wedi rhoi arweiniad gwych i mi am fy nyfodol.
“Roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau bod yn fydwraig a rhoddodd cynghorwyr Cymru’n Gweithio gynllun cam wrth gam i mi er mwyn cyrraedd fy nod. Fe wnaethon nhw fy helpu i ddeall pa bynciau yr oedd angen i mi ganolbwyntio arnyn nhw, a pha gymwysterau a graddau sydd eu hangen arnaf.
“P’un a ydych yn gwybod beth rydych chi eisiau ei wneud neu beidio, dylech chi siarad â Cymru’n Gweithio.”
Archwilio
Dysgwch beth i'w ddisgwyl yn y coleg neu chweched dosbarth - pa gymorth ariannol y gallech ei gael, at ba yrfaoedd mae gwahanol gyrsiau'n arwain, a rhagor.
Wyt ti rhwng 16-19 oed? Galli di gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith am dâl i dy helpu i allu llywio dy ddyfodol.
Mynnwch gefnogaeth i archwilio'ch opsiynau.
Darllen fwy o straeon bywyd go iawn
Mae Maddox yn gobeithio dilyn ei freuddwyd Formula One ers iddo fod yn blentyn.
Ffair gyrfaoedd Cymru'n Gweithio yn helpu Nia, sy'n 16 oed ac yn dod o Abertyleri, i gynllunio ei dyfodol ar ôl TGAU.
Darllenwch fwy o straeon bywyd go iawn ar ganlyniadau arholiadau, prentisiaethau, hyfforddiant a dysgu, a chefnogaeth ar gyfer mynd i mewn i waith.