Daeth Kirtis o hyd i lwybr gyrfa newydd a nawr mae ei fryd ar gael ei droed ar yr ysgol eiddo.
Troedio llwybr newydd
Mae Kirtis, o Gaerdydd, wedi codi trwy rengoedd Coffi Co, dim ond chwe mis ar ôl dechrau gyda’r cwmni llwyddiannus o’r De fel rhan o gynllun gan y llywodraeth.
Mae Kirtis nawr yn gweithio mewn swydd barhaol gyda Coffi Co ac yn bwriadu parhau i symud ymlaen a gweithio ei ffordd i fyny’r ysgol i gefnogi ei nodau personol ar gyfer y dyfodol.
Ar ôl cael ei ddiswyddo o’i swydd fel crwpier mewn casino ychydig cyn Nadolig 2020, roedd Kirtis yn awyddus i ailddechrau gweithio cyn gynted â phosibl er mwyn gallu talu ei rent a’i filiau.
Esboniodd: “Dwi’n casáu bod allan o waith, felly pan ges i fy niswyddo a phan ro’n i gartref heb waith, roedd hi’n hawdd teimlo’n isel ac unig.
“Fe gedwais fy mhen i fyny a cheisio aros yn gadarnhaol trwy ei weld fel cyfle i gael cychwyn newydd, gan gadw fy llygad ar agor am swyddi roeddwn i’n tybio y byddwn i’n eu mwynhau. Dwi’n weithgar iawn ac mae gen i awydd i ddysgu sgiliau newydd os oes yna rywbeth dwi ddim yn gwybod sut i’w wneud eto.
“Fe welais i fanylion am swydd Barista Iau yn Coffi Co ac ro’n i’n meddwl ei fod yn gyfle gwych i ddefnyddio fy sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid, er nad oedd gen i unrhyw brofiad o weithio mewn siop goffi.
“Fe ges i wybodaeth am sut i wneud cais drwy’r cynllun ac ro’n i mor hapus pan ges i gynnig cyfweliad, a aeth yn dda iawn. Roedd y broses gyfan yn gyflym a hawdd, ac o fewn ychydig wythnosau ro’n i tu ôl y cownter ac yn dysgu sut i wneud coffi.”
Codi trwy’r rhengoedd
Ers ymuno â’r cwmni, mae Kirtis wedi cwblhau sawl cymhwyster a dysgu sgiliau newydd dros y chwe mis diwethaf ac wedi symud ymlaen i swydd Goruchwyliwr Llawr.
Esboniodd: “Yr uchafbwynt i mi hyd yn hyn oedd cael dyrchafiad i fod yn oruchwyliwr gan nad o’n i’n disgwyl symud ymlaen mewn cyfnod mor fyr – mae wedi rhoi hwb mawr i’m hyder i.
“Y peth gwych am Coffi Co yw nad ydyn nhw’n disgwyl perffeithrwydd yn syth bin a’u bod nhw’n rhoi cyfleoedd i bobl waeth beth fo’ch oedran neu brofiad. Mae hynny wedi rhoi hwb anferth i’m hyder.
“Mae cael y cymorth a’r rhyddid hwnnw i ddysgu wedi fy ngalluogi i ddatblygu cymaint o sgiliau newydd. Doedd gen i ddim profiad o weini na gweithio mewn bar ar fy CV, ac ers gweithio yma dwi wedi dysgu’r sgiliau hynny a llawer mwy. Dwi wedi cael hyfforddiant ac wedi ennill dau gymhwyster newydd ar Lefel 2 – Bwyd a Hylendid a Barista. Dwi’n gwybod y bydd yna fwy o gymwysterau i ddod gan fy mod i’n dysgu drwy’r amser.
“Nawr, gyda’r cyfrifoldeb o agor y siop a’i chau’n aml, helpu i hyfforddi pobl newydd sy’n cychwyn, ac anfon ffigurau ar ddiwedd shifft, dwi’n datblygu sgiliau rheoli ac yn edrych ymlaen at weld beth alla i ei ddysgu nesaf.”
Edrych i’r dyfodol
Dywedodd: “Os wyt ti allan o waith ar unrhyw adeg neu ddim yn siŵr beth i’w wneud nesaf fel ro’n i, alla i ddim pwysleisio pa mor bwysig yw edrych ar y cymorth sydd ar gael gan y llywodraeth. Wrth i fusnesau ymuno â’r rhain mae’n golygu bod pobl fel fi’n cael cyfle i ddangos beth allwn ni ei wneud a dysgu mwy o sgiliau wrth symud ymlaen.
“Dwi wastad wedi bod yn benderfynol i wthio fy hun a newid fy nyfodol fy hun. Pan ro’n i’n 18 oed, ro’n i’n byw mewn hostel am dros flwyddyn cyn i mi allu rhentu fy lle fy hun. Fy nod nesaf yw prynu fy nhŷ fy hun, a dwi’n cynilo i gael morgais er mwyn i mi allu cael fy nhroed ar yr ysgol eiddo. Mae cael swydd sicr gyda lle i gamu ymlaen yn golygu mod i’n agosach at y nod hwnnw bob dydd.
“Drwy’r swydd hon, dwi wedi dysgu y bydd fy ngwaith caled yn cael ei gydnabod a’i wobrwyo, ac y gallaf ddal i symud ymlaen os ydw i’n gweithio’n galed ac yn ymroi i’r swydd. Mae gen i lwybr clir i ddal ati i ddatblygu nawr.”
Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn ac os hoffech chi ymchwilio i'ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â thîm Cymru'n Gweithio drwy eu ffonio am ddim 0800 028 4844, e-bost cymrungweithio@gyrfacymru.llyw.cymru neu drwy ein sgwrs fyw.
Archwilio
Cyfle gwarantedig i bawb rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn siŵr o feithrin agwedd bositif ynoch.
Rhwng 16-19 oed? Gallwch gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith â thâl i'ch helpu i greu eich dyfodol eich hun ar eich telerau eich hun.
Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.
Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.