Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Poppy

Poppy yn sefyll ar y traeth

Arhosodd Poppy, sy’n 17 oed, ymlaen yn y chweched dosbarth i barhau a’i hastudiaethau ac mae’n gobeithio astudio dramor yn yr Unol Daleithiau y flwyddyn nesaf i ddechrau ar yrfa ryngwladol.

Ar ôl cael ei chanlyniadau TGAU y llynedd, dewisodd Poppy astudio am gymwysterau Safon Uwch mewn Mathemateg, Ffiseg, Hanes, Astudiaethau Crefyddol a Bagloriaeth Cymru yn y chweched dosbarth.

Mae Poppy wedi rhoi ei bryd ar astudio ym Mhrifysgol Iâl yn yr Unol Daleithiau'r flwyddyn nesaf ar gyfer gradd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwyddor Hinsawdd.

Yn ystod ei chyfnod yn y chweched dosbarth mae Poppy wedi bod yn rhan o’r rhaglen Seren, menter gan Lywodraeth Cymru i helpu myfyrwyr disgleiriaf Cymru i gyflawni eu potensial academaidd.

Meddai: “Mae hon wedi bod yn flwyddyn heriol yn sicr, gan fy mod wedi gorfod gwneud y rhan fwyaf o’m hastudiaethau’n rhithwir. Fe gollais i rywfaint o hyder ar y dechrau gan nad oeddwn i’n gyfarwydd â dysgu ar-lein ac roedd hi’n anoddach gofyn cwestiynau.

“Yn sicr, daeth pethau’n haws wrth i’r flwyddyn ysgol fynd yn ei blaen a chan fy mod wedi cael mwy o amser ar fy mhen fy hun mae wedi rhoi cyfle i mi fyfyrio ar fy ngwerthoedd.

“Ar hyn o bryd rwy’n mynychu Sesiwn Haf Iâl sy’n cael ei darparu ar-lein. Mae’n dechrau am 4pm ac yn para tan 2am felly mae’n flinedig ond yn werth chweil gan fy mod i wirioneddol wedi ei fwynhau. Rwyf wedi gorfod gwneud yn siŵr fy mod yn cael rhywfaint o gwsg yn ystod y dydd i ddal i fyny!

“Rwyf wastad wedi bod eisiau mynd i’r brifysgol ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fynd y flwyddyn nesaf. Yn wreiddiol roeddwn i eisiau astudio’r gyfraith ond tydi o ddim at fy nant i mewn gwirionedd. Ar ôl i mi ddechrau ymchwilio, sylweddolais fod yna gymaint mwy na’r gyfraith neu feddygaeth, mae yna ddigonedd o ddewis o gyrsiau ar gael.

“Rwyf wirioneddol eisiau gallu helpu pobl a gwneud gwaith cymorth rhyngwladol ar ôl i mi raddio. Hoffwn weithio gyda menywod sy’n agored i niwed a helpu cymunedau. Bydd gradd yn rhoi’r dechrau gorau i mi allu gwneud hynny."


Archwilio

Prifysgol ac addysg uwch

Dysgwch am fynd i'r brifysgol, gan gynnwys proses ac amserlen Ymgeisio UCAS. Mae hefyd yn cynnwys astudio dramor.


Darllen fwy o straeon bywyd go iawn

Stori Ceri

Mae Ceri Vaughan Jones yn mynd i’r brifysgol ar ôl cymryd blwyddyn allan i weithio.

Stori Alex

Cafodd y pandemig effaith fawr ar fy uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol...