Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori John S

John yn eistedd mewn cadair cyfforddus yn gwenu

Cafodd John Spence o Bentwyn ei fwlio yn yr ysgol am nad oedd yn gallu darllen. 

Ac yntau yn ei 30au hwyr ailafaelodd yn ei addysg, a dyna pryd y canfuwyd fod ganddo ddyslecsia difrifol, ADHD, a syndrom Meares-Irlen, sy’n golygu bod yr ymennydd yn cael trafferth prosesu gwybodaeth weledol gan effeithio ar ei allu i ddarllen.

Enillodd wobr Prif Ddysgwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Ysbrydoli! 2018 gan ddweud bod addysg oedolion wedi gweddnewid ei fywyd. Mae John wedi newid ei stori ac wedi mynd ymlaen i weithio gyda’r seren sydd â hyder yn ei chorff, Katie Piper, ac wedi dechrau ei fusnes hyfforddi ei hun.

Dymchwel rhwystrau

Heb gefnogaeth teulu, ni chafodd anawsterau dysgu John eu trin a gadawodd yr ysgol i ymuno â’r fyddin heb unrhyw gymwysterau. Dim ond ar ôl gadael y Fyddin yn 2000 a dechrau gweithio fel parafeddyg ar y môr y canfuwyd ei gyfrinach, ar ôl iddo fethu arholiad ysgrifenedig.

Cofrestrodd John gyda’r Brifysgol Agored gan ddal ati i weithio ar y môr a bu’n rhaid iddo drechu ei ofn difrifol o addysg yn sgil ei brofiadau yn yr ysgol.

Ailafael mewn addysg

Ar ôl blynyddoedd o waith caled, meddalwedd ac adnoddau effeithiol, cwblhaodd John dystysgrif addysg, yna diploma, ac wyth mlynedd ar ôl dychwelyd i addysg, cwblhaodd radd anrhydedd BSc.

Bellach, mae’n uwch swyddog meddygol, yn teithio’r byd gyda chyfrifoldeb am iechyd criw o 150 – ac mae’r diolch i gyd i addysg oedolion.

Meddai John: “Fy ffocws nawr yw ceisio gwneud popeth o fewn fy ngallu i helpu’r rhai sy’n wynebu rhwystrau i ddysgu, boed yn anabledd corfforol neu feddyliol. Roeddwn i’n gyndyn cyfaddef mod i’n methu darllen ac yn arfer cuddio. Nawr rydw i am sefyll o flaen criw o bobl a dangos iddyn nhw bod ganddyn nhw’r gallu. Mae’n dal yn frawychus, ond bob tro rwy’n gwneud cyflwyniad, rwy’n magu mwy o hyder ac mae gwybod fy mod i’n helpu hyd yn oed un person o bosibl yn fy nghymell i ddal ati.”

Archwilio

Canfod cwrs

Gallwch chwilio am gyrsiau addysg oedolion a chymunedol ar wefan Dysgu Oedolion Cymru.

Dysgu o bell ac ar-lein

Cewch wybod am astudio gartref ac yn eich amser eich hun. Cewch wybod am fanteision ac anfanteision, a ble mae canfod cyrsiau.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni


Darllenwch fwy o straeon bywyd go iawn


Canfod Cymorth

Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith