Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Nia F

Nia yn erbyn cefndir plaen yn gwenu ar y camera mewn hun-lun

Mae Nia yn bwriadu cwblhau ei hastudiaethau Safon Uwch yn y coleg ac yna teithio rhywfaint cyn mynd i'r brifysgol

Yr haf hwn, bydd Nia, sy'n 16 oed ac yn dod o Abertyleri, yn cael ei chanlyniadau TGAU.

Mae'n bwriadu astudio hanes, seicoleg, troseddeg, a llywodraeth a gwleidyddiaeth yng Ngholeg Gwent yn Crosskeys.

Meddai: “Roedd aros mewn addysg yn benderfyniad hawdd i mi. Rwyf wastad wedi bod wrth fy modd yn dysgu pethau newydd yn yr ysgol.

“Roeddwn i wrth fy modd gyda hanes, yn enwedig hanes Cymru. Teimlais gysylltiad agosach â threftadaeth fy nheulu a phrofiadau fy hynafiaid.”

Cynlluniau ar gyfer blwyddyn i ffwrdd

Ar ôl gorffen yn y coleg, mae Nia'n awyddus i gymryd blwyddyn i ffwrdd a theithio o gwmpas Asia cyn mynd i'r brifysgol.

Ysbrydoliaeth o ffair gyrfaoedd leol

Aeth Nia i ffair gyrfaoedd Cymru'n Gweithio yn ei hardal leol.

Ychwanegodd: “Roedd gen i syniad bras beth roeddwn i eisiau ei wneud pan oeddwn i’n hŷn. Ar ôl y ffair gyrfaoedd, roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi cael fy ysbrydoli ynglŷn â fy nyfodol.

“Fe wnaeth gweld cwmnïau o ystod o ddiwydiannau agor fy llygaid i’r byd ehangach. Sylweddolais fod llawer o lwybrau gyrfa ar gael i mi ar ôl i mi orffen astudio.”

"Mae gennych chi opsiynau"

Mae Nia yn teimlo'n bositif wrth i ddiwrnod canlyniadau agosáu. Ei chyngor i bobl ifanc eraill sy'n aros am eu canlyniadau yw peidio â mynd i banig.

“Mae 'na rai pethau na allwch chi eu newid. Felly, os gwnaethoch eich gorau glas, dyna'r cyfan y gallwch chi ei wneud. Mae llawer o gefnogaeth ar gael i chi. Waeth beth fo’ch canlyniadau neu’ch sefyllfa, mae gennych opsiynau.”

Edrych ymlaen at y dyfodol

Yn teimlo'n llawn cyffro ar gyfer y dyfodol, ychwanegodd Nia: “Un o’r prif resymau rwyf eisiau aros mewn addysg yw’r cyfle i roi cynnig ar bethau newydd ac ymgolli mewn gwahanol bynciau. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â phobl newydd ac ailgysylltu â hen ffrindiau yn y coleg.”


Archwilio

Coleg a 6ed dosbarth

Dysgwch beth i'w ddisgwyl yn y coleg neu chweched dosbarth - pa gymorth ariannol y gallech ei gael, at ba yrfaoedd mae gwahanol gyrsiau'n arwain, a rhagor.

Twf Swyddi Cymru+

Wyt ti rhwng 16-19 oed? Galli di gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith am dâl i dy helpu i allu llywio dy ddyfodol.


Darllen fwy o straeon bywyd go iawn

Stori Charlie

Charlie yn profi y gall ailsefyll blwyddyn fod yn fendith gudd.

Stori Cerys

Tyfu i fyny gydag 11 o frodyr a chwiorydd yn ysbrydoli Cerys i fod yn fydwraig.

Straeon go iawn

Darllenwch fwy o straeon bywyd go iawn ar ganlyniadau arholiadau, prentisiaethau, hyfforddiant a dysgu, a chefnogaeth ar gyfer mynd i mewn i waith.