Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Nia

Nia a'i chyflogwr yn gweithio mewn swyddfa

Dywed Nia-Faith Williams mai gwaith caled a lleoliad gwaith oedd i ddiolch am ei helpu i feithrin gyrfa gwerth chweil.

Cafodd ei haddysgu gartref ond llwyddodd i gael gwaith gyda chymorth Gyrfa Cymru.

Mynd yn syth i’r gwaith oedd yr opsiwn gorau 

Wnaeth Nia-Faith Williams ddim sefyll yr un arholiad TGAU na Safon Uwch, ond er nad oedd ganddi unrhyw gymwysterau ffurfiol a dim llawer o brofiad gwaith, cafodd ei chefnogi i gyflogaeth drwy Gyrfa Cymru. Diolch i’w lleoliad gwaith cyntaf, medrodd weithio ei ffordd i fyny i swydd cydlynydd gwerthiant a marchnata yn Confederate Chemicals.

Meddai: “Fel plant, cafodd fy mrodyr a’m chwiorydd a minnau ein haddysgu gartref drwy raglen o’r enw ACE. System Americanaidd yw hon sy’n annog plant i addysgu eu hunain, ond roedd yn golygu nad oeddwn i’n dysgu gyda’r un strwythur nac yn sefyll yr un arholiadau â’r rhan fwyaf o bobl. 

"Yn 17 oed, fe wnes gais i fynd i’r coleg, ond gan nad oedd gen i unrhyw TGAU roedden nhw’n cymryd nad oeddwn i’n academaidd, gan fy rhoi ar gwrs lefel is na’r un roeddwn i wedi gwneud cais amdano.

"Yn y pen draw, penderfynais fynd yn syth i weithio ac y byddai cael dipyn o brofiad yn y byd go iawn yn well opsiwn i mi. Cwblheais gwrs mynediad gyda Bethany Training i gael rhywfaint o’r sgiliau sylfaenol a’r profiad gwaith a fyddai eu hangen arna’ i gael gwaith.

"Pan ddaeth hi’n amser i chwilio am waith doeddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau arni, felly penderfynais fynd at Gyrfa Cymru a gofyn mwy am fy opsiynau. Roedden nhw’n gallu fy helpu a fy nghefnogi, gan ofyn pa sgiliau oedd gen i a beth oeddwn i am ei gael allan o swydd. Ar ôl cael eu cefnogaeth, cyflwynais gais am leoliad gyda Confederate Chemicals fel technegydd labordy. Doeddwn i ond yn 18 oed ac erioed wedi cael swydd iawn o’r blaen, felly doeddwn i ddim yn disgwyl cael cyfle.

"Yn fy nghyfweliad, roeddwn i’n gwbl onest am fy addysg a’m profiad, ond roeddwn i’n dod ymlaen yn dda gyda’r rheolwr a phenderfynodd roi cyfle i mi.”

Canfod y llwybr gyrfa cywir

“Cael fy nghefnogi i gael y lleoliad gwaith yna oedd y cyfle roeddwn i ei angen i gael fy nhroed i mewn. Ers hynny, rydw i wedi cael fy nghyflogi’n barhaol ac wedi symud allan o’r lab i swydd gwerthu a marchnata sy’n fwy addas i fy mhersonoliaeth.

"Rwy’n dysgu yn y gwaith, ond yn gwirioni ar yr her. Yn fy amser hamdden rydw i hefyd yn gwneud gradd seicoleg rhan-amser gyda’r Brifysgol Agored ac yn gobeithio mynd ymlaen i wneud Gradd Meistr a hyd yn oed ddoethuriaeth rhyw ddydd. Fe wnaeth cael fy nysgu gartref ddysgu i mi fod yn annibynnol a chymell fy hun felly mae dysgu yn fy amser fy hun drwy’r Brifysgol Agored yn addas i mi a dwi wrth fy modd gyda’r cwrs.

“I unrhyw un sy’n cael eu canlyniadau eleni, dwi’n brawf nad yw cymwysterau o reidrwydd yn adlewyrchu pa mor alluog ydych chi. Yn draddodiadol, dyw dysgu academaidd ddim i bawb a dyw peidio â chael y canlyniadau roeddech chi wedi gobeithio eu cael ddim yn golygu na allwch chi gael gyrfa gwerth chweil rydych chi’n ei mwynhau.

Yn fy mhrofiad i, cael cymorth gan yr arbenigwyr, bod yn chi eich hun a gwneud eich gorau yw’r pethau pwysicaf wrth chwilio am waith."

"Diolch i fy lleoliad gwaith cyntaf, fe wnes i ddod o hyd i lwybr gyrfa dwi’n ei fwynhau ac mae’n gam tuag at radd a fydd gyda mi am weddill fy oes.”

Archwilio


Cael swydd

Cymorth gyda'ch CV, ffurflenni cais, datganiadau personol, cyfweliadau, canfod swyddi, cysylltu â chyflogwyr, a mwy.

Cael profiad

Cewch wybod sut i gael profiad trwy wirfoddoli, profiad gwaith ac interniaethau.

Addysg uwch - prifysgol

Mae dewis y cwrs iawn a’r brifysgol iawn yn bwysig a gallwn eich helpu gyda hyn. Gallwn hefyd gynnig cymorth ar bethau fel dod o hyd i gymorth ariannol a’r broses Glirio.


Darllen fwy o straeon bywyd go iawn

Stori Alex

Cafodd y pandemig effaith fawr ar fy uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol...

Stori Dominic

Yn 16 oed, roedd Dominic yn brentis gwaith saer ac erbyn troi’n 21 oed roedd wedi dechrau ei fusnes ei hun. Dyma hanes Dominic…

Straeon go iawn

Darllenwch fwy o straeon bywyd go iawn ar ganlyniadau arholiadau, prentisiaethau, hyfforddiant a dysgu, a chefnogaeth ar gyfer mynd i mewn i waith.