Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Martin

Martin

Martin yn profi y gallwch ddysgu sgiliau newydd beth bynnag eich oedran.

Colli swydd

Ar ôl gyrfa lwyddiannus dros gyfnod o 30 mlynedd yn y maes peirianneg electronig, crebachodd y diwydiant o dipyn i beth dros y blynyddoedd o ganlyniad i nifer o ffactorau. Ym mis Gorffennaf 2018 roedd Martin yn ddi-waith am y tro cyntaf yn ei yrfa.

Symudodd Martin, sy’n hanu o Iwerddon, i Dde Cymru pan oedd yn 21 oed ar ôl cwblhau gradd mewn peirianneg drydanol.

Meddai Martin, “Er bod hynny dros 30 mlynedd yn ôl, rwy’n dal i gofio pa mor hawdd oedd dod o hyd i swydd ym maes peirianneg. Cefais fy swydd gyntaf ym maes peirianneg dylunio, sef swydd dechnegol ac roeddwn wrth fy modd. Yn ystod fy ngyrfa dechreuais symud yn raddol o’r ochr dechnegol i ganolbwyntio ar werthu, ac o edrych yn ôl, nid wyf yn credu mai dyna oedd fy maes arbenigedd ac nid oedd yn rhywbeth roeddwn i’n ei fwynhau.

“Roedd chwilio am swydd 30 mlynedd yn ddiweddarach yn brofiad hollol wahanol. Treuliais flwyddyn yn chwilio a hynny heb fawr o lwyddiant gyda dim ond ambell gyfweliad. Roeddwn yn teimlo’n fwy digalon bob dydd, a phan lwyddais i gael cyfweliad doedd gen i fawr i’w ddweud, felly doeddwn i ddim yn gallu hyrwyddo fy hun yn effeithiol.

Cael help

Cofrestrodd Martin â’r Ganolfan Byd Gwaith ac fe’i cynghorwyd i gysylltu â Gyrfa Cymru. Trefnodd apwyntiad gyda chanolfan Gyrfa Cymru yn y Barri a chyfarfod â’r cynghorydd gyrfa Sian sy’n gweithio i wasanaeth Cymru’n Gweithio.

Meddai Sian “Rwy’n cofio cwrdd â Martin tua chanol 2019 ac roedd fel pe bai wedi colli rhywfaint o’i arbenigedd mewn peirianneg dechnegol ac roedd yn amlwg ei fod wedi colli llawer o’i hyder hefyd."

“Roeddwn am i Martin ofyn dau beth iddo’i hun 1: Beth oedd ei ddiddordebau? a 2: Beth oedd yn dda am ei wneud? ac yna dechrau edrych ar y diwydiannau sy’n ffynnu ac yn tyfu a sut y gallai’r tri pheth gydweithio."

Daeth Sian a Martin i’r casgliad fod y llwybr Seiberddiogelwch yn un da i Martin gan ei fod yn cyfuno ei angerdd tuag at dechnoleg a’i fod yn sector sy’n llawn cyfleoedd cyflogaeth.

Dechrau newydd

Dechreuodd Martin ymchwilio i’r posibilrwydd o ddychwelyd i’r byd addysg er mwyn dysgu mwy am y maes Seiberddiogelwch. Gyda chymorth grant a benthyciad i fyfyrwyr, ym mis Medi 2019 ac yntau’n 55 oed, dechreuodd Martin astudio ar gyfer gradd meistr amser llawn ym Mhrifysgol De Cymru.

Daeth y cwrs blwyddyn i ben ym mis Hydref 2020; wrth sôn am y profiad, dywedodd Martin ei fod “wedi dysgu cymaint ar y cwrs. Cefais radd Rhagoriaeth, gan brofi i mi fy hun bod fy ymennydd yn dal i weithio, ac fy mod yn gallu dysgu pethau newydd yn fy 50au! Mae gennyf yr un doniau a phan oeddwn yn 21 oed. Bu’n brofiad gwych, ac rwyf bellach yn teimlo’n fwy positif a hyderus ac yn llawn brwdfrydedd unwaith eto."

Ym mis Mawrth (2021), llwyddodd Martin i gael ei swydd gyntaf yn y diwydiant Seiberddiogelwch gyda IASME Consortium. Yn ei swydd mae Martin yn rheoli Cynllun Diogelwch newydd ar gyfer y Rhyngrwyd Pethau ac yn delio ag ymholiadau technegol am y cynllun Cyber Essentials fel rhan o gontract IASME gyda’r llywodraeth.

Meddai Martin, “Dechrau’r daith lwyddiannus hon oedd eistedd am hanner awr gyda Sian yng Nghanolfan Gyrfa Cymru yn y Barri, nôl yn 2019."


Os ydych yn yr ysgol neu’r coleg ar hyn o bryd ac os hoffech ymchwilio i’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, siaradwch ag aelod o staff all eich cynghori ar sut i drefnu apwyntiad. Gallwch chi neu eich rhiant, gwarchodwr neu ofalwr hefyd ein ffonio am ddim ar 0800 028 4844, e-bost post@gyrfacymru.llyw.cymru neu gysylltu drwy’r cyfleuster sgwrs fyw.

Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn ac os hoffech chi ymchwilio i'ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â thîm Cymru'n Gweithio drwy eu ffonio am ddim 0800 028 4844, e-bost cymrungweithio@gyrfacymru.llyw.cymru neu drwy ein sgwrs fyw.

Archwilio

Chwilio am gyrsiau

Defnyddiwch ein chwiliad cyrsiau i ddod o hyd i gwrs sy'n iawn i chi. Mae'n cynnwys cyrsiau rhan-amser, cyrsiau byrion a dysgu yn y gymuned.

Cyllido eich astudiaethau

Cyllid ar gael yng Nghymru ar gyfer cyrsiau hyfforddi, colegau a phrifysgolion.

Adolygiad canol gyrfa

Angen help i newid eich gyrfa? Gall Cymru'n Gweithio eich helpu i ddarganfod y trywydd sy'n iawn i chi. Archebwch adolygiad canol gyrfa am ddim.

Straeon go iawn

Sut mae pobl go iawn ledled Cymru wedi newid eu stori.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.