Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Karen

Karen yn edrych ar y camera ac yn gwenu.

Roedd Karen Griffiths ar groesffordd yn ei gyrfa pan gafodd ei diswyddo ar ôl 10 mlynedd yn yr un cwmni.  Mae hi nawr yn annog pobl eraill i ddefnyddio’r cyllid a’r cyngor a wnaeth ei helpu i gael ei rôl newydd.

Pryderu am estyn allan

Cysylltodd y rheolwr prosiect o Fangor, sy’n 58 oed, â Cymru’n Gweithio yn fuan ar ôl colli ei swydd. Fe wnaeth cynghorydd ei chysylltu â rhaglen ReAct. Cafodd £1,500 tuag at ddiweddaru ei chymwysterau, ochr yn ochr â hyfforddiant cyfweld, a chyngor ar CV.

Dywedodd Karen ei bod, i ddechrau, wedi bod yn amheus o ran estyn allan am gymorth.

 “Doeddwn i ddim wedi gwneud cais am swydd newydd ers tro byd, felly doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd fy opsiynau. Dywedodd fy Hyfforddwr Gwaith Lwfans Ceisio Gwaith mai fi fyddai’r ymgeisydd perffaith ar gyfer y rhaglen ReAct ac fe wnaeth fy annog i gysylltu.

“Rhoddodd Cymru’n Gweithio Gynghorydd Gyrfa i mi, ac roedden nhw’n wych o ran deall fy anghenion unigol a’m nodau gyrfa. Roedden nhw’n cynnig atebion pwrpasol i fy sefyllfa, gan gynnwys y £1,500 i ddiweddaru fy nghymwysterau.

“Roeddwn i’n meddwl ei fod yn swnio’n rhy dda i fod yn wir. Pryd mewn bywyd ydych chi’n cael y math yna o gyfle?”

Sicrhau cyllid a chymorth wedi’i deilwra

Helpodd hyfforddwyr Cymru’n Gweithio i ganfod sut y gallent helpu Karen gyda’i sefyllfa bersonol.

Dywedodd Karen: “Fe wnaethon ni drafod fy sgiliau trosglwyddadwy, pa mor bell y gallwn i deithio, a pha swyddi y byddai gen i ddiddordeb ynddyn nhw drwy edrych ar wahanol swyddi gwag. Fe wnaethon ni ganfod y bylchau yn fy sgiliau a phenderfynu pa gymwysterau y byddwn i eu hangen i fy helpu i gyrraedd lle roeddwn i eisiau bod.

“Roedd y rhan fwyaf o’r swyddi roeddwn i eisiau eu gwneud yn gofyn am gymwysterau penodol, gan gynnwys diweddaru fy nghymwysterau rheoli prosiect.  Dyna pryd y cynigiwyd y cyllid i mi ddiweddaru fy sgiliau ac ennill cymwysterau pellach.”

Er bod Karen yn bryderus ar y dechrau, penderfynodd dderbyn y cyllid a chofrestru ar gyfer ei chymwysterau Agile PM a Prince 2.”

Ychwanegodd: “Fe wnaeth ReAct yr hyn a ddywedodd ar y tun. Cefais hyfforddiant gwych gyda darparwr hyfforddiant gwych; roedd y broses mor ddidrafferth.

“Fe wnes i lwyddo i basio’r ddau gymhwyster er mwyn ychwanegu at fy CV, ac fe wnaeth hyn ehangu fy opsiynau gwaith yn sylweddol. Cefais gynnig un swydd cyn i mi gwblhau fy ail gymhwyster hyd yn oed!”

Magu ei hunan-barch

Fe wnaeth Karen sylweddoli fod y broses hefyd wedi cynyddu ei hyder yn sylweddol, gan ei hannog i fynd yn ôl allan i fyd gwaith.

Eglurodd Karen: “Nid yn unig o safbwynt ymarferol y cefais help gyda’r cyllid, ond cefais hefyd hyfforddiant ar sut i gyflwyno fy hun mewn cyfweliadau er mwyn i mi allu credu ynof fy hun, a beth y gallwn ei gyflawni.

“Roedd fy rôl flaenorol yn Volkswagen yn benodol iawn i mi, ac roeddwn i’n ei chael hi’n anodd gweld sut gallwn i symud i rôl wahanol gyda’r sgiliau roeddwn i wedi’u dysgu. Roedd meddwl am fod y gweithiwr diweddaraf eto yn frawychus.

“Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd gweld pam y byddai rhywun eisiau fy nghyflogi’n benodol.”

Fe wnaeth y rhaglen helpu Karen i wireddu ei photensial a chredu yn ei galluoedd.

Ychwanegodd: “Roedd pawb yn Cymru’n Gweithio yn deall a doedden nhw ddim yn fy marnu, roedden nhw’n canolbwyntio ar sut gallen nhw fy helpu a fy nghael yn ôl i swydd y byddwn i’n ei mwynhau.

“Doedd dim pwysau i fynd i gyfeiriad penodol, roedd y cyfan yn ymwneud â fi. Roedd yn brofiad gwych, roeddwn i’n teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi.”

Busnes newydd

Mae Karen bellach wedi setlo yn ei rôl Dadansoddwr Busnes newydd yn Carpenter Group, lle bu’n gweithio am ddau fis.

Ychwanegodd Karen: “Rhoddodd fy hyfforddwr yn Cymru’n Gweithio lawer iawn o hyder i mi gyflwyno fy hun a chredu y gallwn symud i ddiwydiant gwahanol a rôl newydd.

“Rydw i nawr yn ôl mewn gwaith llawn amser ac mae’r gefnogaeth gan raglen ReAct wedi fy helpu i gael swydd anhygoel lle rydw i’n gwneud y gorau o fy nghymwysterau a’m profiad, rwy’n teimlo mod i’n fodlon iawn.”

Os fel Karen, rydych wedi cael eich heffeithio gan ddiswyddiad ac yn teimlo bod angen cymorth diswyddo arnoch neu fynediad at hyfforddiant ac uwchsgilio, ewch i: Cymorth ar ôl Colli Swydd neu cysylltwch â ni.


Archwilio

Cymorth ar ôl colli swydd

Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.

ReAct+

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.

Siarad â chynghorydd gyrfa

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu a ni