Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Imogen

Imogen yn sefyll yn yr ardd

Imogen: Astudio yn y chweched dosbarth a chynllunio ar gyfer y brifysgol

Mae Imogen, sy’n 17 oed, yn astudio pynciau Safon Uwch yn y chweched dosbarth mewn cemeg, ffiseg, mathemateg a Bagloriaeth Cymru. Mae’n bwriadu mynd i’r brifysgol ar ôl iddi gwblhau ei harholiadau Safon Uwch yn 2022.

Meddai: “Rwy’n awyddus i fynd i’r brifysgol i astudio meddygaeth gan fy mod yn ystyried dod yn feddyg. Mae’n gwrs cystadleuol felly rwyf wedi bod yn ceisio dod o hyd i brofiad gwaith, ond mae bron wedi bod yn amhosib oherwydd Covid, felly rwyf wedi mynychu rhai darlithoedd ar-lein gan King’s College Llundain sydd wedi bod yn ddefnyddiol.

“Rwy’n mwynhau fy nghwrs ac yn hoff iawn o fy mhynciau, ond mae’r chweched dosbarth wedi bod yn dipyn o her hyd yma gan fod y mwyafrif o’r dysgu wedi bod ar-lein sy’n wahanol i’r hyn rwy’n gyfarwydd ag ef.

“Gan edrych ar yr ochr gadarnhaol, rwyf wedi dysgu bod yn fwy disgybledig a datrys problemau ar fy mhen fy hun, yn ogystal â rhoi hwb i’m cymhelliant a chanolbwyntio ar fy astudiaethau. Bydd y sgiliau hyn yn sicr yn fy helpu yn y dyfodol ar gyfer fy ngradd y flwyddyn nesaf.”


Archwilio

Coleg a 6ed dosbarth

Dysgwch beth i'w ddisgwyl yn y coleg neu chweched dosbarth - pa gymorth ariannol y gallech ei gael, at ba yrfaoedd mae gwahanol gyrsiau'n arwain, a rhagor.

Prifysgol ac addysg uwch

Dysgwch am fynd i'r brifysgol, gan gynnwys proses ac amserlen Ymgeisio UCAS. Mae hefyd yn cynnwys astudio dramor.

Twf Swyddi Cymru+

Wyt ti rhwng 16-19 oed? Galli di gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith am dâl i dy helpu i allu llywio dy ddyfodol.


Darllen fwy o straeon bywyd go iawn

Stori Poppy

Arhosodd Poppy, sy’n 17 oed, ymlaen yn y chweched dosbarth i barhau a’i hastudiaethau ac mae’n gobeithio astudio dramor yn yr Unol Daleithiau y flwyddyn nesaf i ddechrau ar yrfa ryngwladol.

Stori Scott

Scott Gilmour: Ar y trywydd iawn i gael gradd yn y gyfraith...