Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Euron

Euron yn eistedd wrth ddesg gyfrifiadur ac yn gwenu at y camera

Nid oedd gan Euron yr hyder i wneud cais am y swydd yr oedd wedi bod yn  breuddwydio amdani. Ond, gyda’n cefnogaeth ni, mae bellach yn gwneud ei 'swydd ddelfrydol' fel gweithredwr camera.

Newidiodd o fod yn hunangyflogedig i fod yn gyflogedig ar ôl 20 mlynedd

Roedd Euron, sy’n 46 oed, wedi bod yn fos arno ef ei hun fel ffotograffydd stiwdio a llawrydd ers 20 mlynedd. Pan ddaeth y pandemig, nid oedd modd iddo weithio o ganlyniad i’r cyfyngiadau symud.

Meddai, “Roeddwn yn awyddus i weithio yn y byd teledu ers tro ond doeddwn i ddim yn teimlo’n ddigon hyderus. Roeddwn i’n cynnig rhai mathau o wasanaethau ffilm fel rhan o fy ngwaith, ond nid dyna oedd fy ngwir ddiddordeb.”

Cael profiad newydd

Llwyddodd y tad i ddau i ddefnyddio ei gysylltiadau i gael gwaith llawrydd fel gweithredwr camera cynorthwyol, gan fagu ei hyder a gwella ei bortffolio.

Gwyddai ei fod eisiau newid mwy parhaol, felly cysylltodd Euron â Cymru’n Gweithio. Cafodd gymorth gydag ysgrifennu CV a pharatoi am gyfweliad.

Esboniodd Euron, “Yn sgil fy ngwaith llawrydd, llwyddais i weld ambell swydd wag yr oeddwn yn awyddus i wneud cais amdani ond doedd gen i ddim syniad ble i ddechrau. Doedd gen i ddim CV a doeddwn i ddim wedi gwneud cais am swydd, heb sôn am gael cyfweliad, ers mwy na dau ddegawd. Roeddwn i’n teimlo’n bryderus.”

Ers hynny, llwyddodd Euron i gael swydd fel gweithredwr/golygydd camera gyda Tinopolis, cwmni teledu wedi’i leoli yn Llanelli a Chaernarfon.

Mae Euron bellach yn gweithio yn ei swydd ddelfrydol

Ychwanegodd, “Gyda chymorth Cymru’n Gweithio, rwy’n gweithio yn fy swydd ddelfrydol. Dw i ddim yn gallu credu’r peth rywsut.

“Rhoddodd Covid yr hwb yr oeddwn ei angen arna’i i newid.

Roedd fy nghynghorydd, Helen Roberts, yn anhygoel. Cefais lwyth o gymorth ganddi i ysgrifennu fy CV, llenwi ffurflen gais a hyd yn oed gyda chyfweliadau. Cefais argymhellion ganddi am beth i’w wneud a beth i beidio ei wneud, a rhoddodd hynny hwb gwirioneddol i fy hyder.”

Meddai Helen Roberts, cynghorydd gyrfa sy’n gweithio yn y ganolfan newydd ym Mhorthmadog, “Roedd Euron yn gwybod yn union beth yr oedd am ei wneud, ond fel sawl un, doedd ganddo ddim hyder i fynd amdani.

“Yn ystod y pandemig gwelsom lawer o bobl yn penderfynu mynd amdani i newid gyrfa, am wahanol resymau, ac rwy’n hynod falch ein bod wedi gallu cefnogi Euron i gael swydd y mae wir yn ei mwynhau.

“Os oes angen cymorth ar unrhyw un i newid gyrfa, neu gydag unrhyw beth sy’n ymwneud â chyflogaeth, cysylltwch â ni.”


Archwilio

Sut mae ysgrifennu CV

Sicrhewch fod eich CV o'r safon orau bosibl. Dewch i wybod beth yw gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CVs, a lawrlwytho ein Canllaw i ysgrifennu CV.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.