Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Erin J

Erin J mewn parc

Mae Erin yn barod am ddyfodol ym maes y celfyddydau cynhyrchu

Llu o sgiliau

Roedd Erin, 23 o Lanilltud Fawr, wedi rhoi cynnig ar sawl cwrs coleg cyn penderfynu dilyn gyrfa fel cyfarwyddwr ffilm.

Dywedodd Erin, sydd ar hyn o bryd ar ei ail flwyddyn Diploma Celfyddydau Perfformio ym Mhen-y-bont ar Ogwr, “Rydw i wedi bod yn lwcus fy mod wedi rhoi cynnig ar bethau gwahanol yn y coleg ac yn y gwaith, a fy mod wedi gallu cymryd fy amser i benderfynu beth rydw i eisiau ei wneud.”

Er mwyn helpu Erin i roi hwb i’w gyrfa ochr yn ochr â’i chwrs yn y coleg, fe wnaeth ei mam ei helpu i gysylltu â Cymru’n Gweithio i gael cyngor ar sut i ysgrifennu CV.

Dywedodd Erin, “ I ddechrau, cysylltais â Cymru’n Gweithio oherwydd roeddwn i eisiau gwneud fy CV yn fwy atyniadol i gyflogwyr, ac roedden nhw wir yn gallu fy helpu gyda hynny. Yna, fe wnaethon nhw fy helpu i chwilio am swyddi a fyddai’n fy helpu i ddechrau yn y diwydiant o’m dewis.”

Sylfaen mewn ffilm

Gyda chymorth gan Cymru’n Gweithio, mae Erin bellach yn gweithio yn ei sinema Odeon lleol.

Meddai Erin, “Rydw i wrth fy modd gyda fy swydd. Rwy’n cael gweithio ar draws gwahanol adrannau fel gweithio yn y cyntedd a manwerthu, ac mae’n cyd-fynd â’m diploma coleg estynedig. Rwy’n teimlo ei fod yn amgylchedd gwych i fod ynddo i fy nghadw i wedi ymgolli mewn ffilm.”

Mae Cymru’n Gweithio nawr yn helpu Erin i wneud cais am brentisiaeth gyda’r BBC, ar ôl cwblhau ei diploma.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i Cymru’n Gweithio. Diolch i’w cymorth, rydw i’n gweithio mewn rôl sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi am y diwydiant rydw i eisiau gweithio ynddo. Rydw i’n gwneud cais am brentisiaeth wych, ac rydw i’n cael bwletinau gwaith rheolaidd gan y gwasanaeth i roi gwybod i mi am ragor o gyfleoedd.

Mae Cymru’n Gweithio wedi helpu cymaint hyd yma, felly mae’n gwneud synnwyr fy mod yn parhau i ddefnyddio eu gwasanaethau lle bynnag y gallaf.”

Os ydych chi, fel Erin, eisiau dod o hyd i’ch llwybr gyrfa ar ôl gadael yr ysgol, cysylltwch â ni.


Archwilio

Dod o hyd i brentisiaeth

Ennill cymwysterau tra'n gweithio a chael eich talu. Dewch i wybod mwy am brentisiaethau a chwilio am swyddi gwag.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.