Darganfu David ei bod hi’n bosibl i gydbwyso gwaith bywyd.
Yn barod am newid
Roedd David, 39 o Ynys Môn, yn angerddol am ei yrfa fel cogydd hyd at y foment yn 2020 y cafodd ei roi ar ffyrlo oherwydd COVID-19.
Roedd yn caru ei swydd ac eisiau manteisio ar ei ddau ddegawd fel cogydd pan fyddai'r diwydiant lletygarwch yn ail-agor. Ond, ar yr un pryd, roedd treulio amser gwerthfawr gyda'i ferch ifanc yn hollbwysig iddo hefyd. Felly, dechreuodd ailystyried ei opsiynau.
Roedd David yn gwybod na fyddai ar ffyrlo am byth felly penderfynodd wneud newid. Er mwyn parhau i fwynhau amser gyda’i deulu, dechreuodd chwilio am swyddi a fyddai'n caniatáu iddo dreulio mwy o amser gartref.
Dywedodd David: “Rhoddodd yr amser yr oeddwn ar ffyrlo gyfle i mi ailystyried fy sefyllfa a phenderfynu beth oeddwn am roi blaenoriaeth iddo. Roeddwn yn treulio mwy o amser gyda fy merch ddwy oed ac, er fy mod wrth fy modd gyda’r swydd, sylweddolais fy mod yn awyddus i gael mwy o gydbwysedd bywyd a gwaith.”
“Fodd bynnag, roeddwn yn cael fy nhynnu ddwy ffordd. Rwy’n ffodus bod gennyf flynyddoedd o brofiad ac wedi gweithio fy ffordd i fyny yn y diwydiant lletygarwch. Rwy coginio yn rhoi modd i fyw i mi ac mae wedi mynd â mi i rai lleoedd anhygoel, gan gynnwys cyfnod yn gweithio yn Sawdi Arabia.”
Ofn yr anhysbys
Roedd David yn pryderu y byddai’n gorfod symud oddi wrth yrfa yr oedd wedi gweithio mor galed ynddi.
Dywedodd David “Roedd y syniad fy mod yn dewis gadael fy swydd fel cogydd yn codi ofn arnaf. Dyma'r unig beth rwyf yn brofiadol ynddo. Ond pan ddysgodd fy merch gerdded tra roeddwn i ar ffyrlo, roeddwn i'n poeni pa gerrig milltir pwysig arall y byddwn ni o bosib yn colli allan arnyn nhw.”
Cysylltodd David â ni trwy ein gwasanaeth ffôn gan drafod ei opsiynau gydag un o’n cynghorwyr.
Roedd yn synnu pan sylweddolodd bod yna swyddi ar gael yn ei ddiwydiant fyddai'n rhoi'r rhyddid a hyblygrwydd iddo, diolch i’r sgiliau trosglwyddadwy yr oedd wedi’u datblygu.
Y gorau o ddau fyd
Gyda chymorth un o'n cynghorwyr, daeth David o hyd i swydd yn gweithio fel prif gogydd mewn meithrinfa blant - yr un feithrinfa a'r un y mae ei ferch yn mynd iddi.
Dywed David, “Heb fy nghynghorydd, fyddwn ni erioed wedi meddwl bod swyddi cogydd ar gael oedd yn cynnig cymaint o hyblygrwydd!”
“Rwy’n un o'r unigolion prin hynny all ddweud eu bod yn wirioneddol edrych ymlaen at fynd i'r gwaith. Nawr dyna beth yw braint gallu gweithio yn y feithrinfa y mae fy merch yn mynd iddi a gallu ei gweld y tu allan i'r gwaith oherwydd amserlen waith gymdeithasol.”
Os fel David, rydych chi am bwyso a mesur y cyfleoedd sydd ar gael i chi ac angen cyngor ac arweiniad, cysylltwch â ni heddiw.
Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni