Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Carl

Carl yn sefyll o flaen ambiwlans

Fe wnaeth cymorth gyda cheisiadau am swyddi a chyfweliadau helpu Carl i ddilyn ei yrfa ddelfrydol.

Newid cyfeiriad

Roedd gan Carl yrfa lwyddiannus yn gosod carpedi, diwydiant y cafodd yrfa lwyddiannus ynddo ers dros 20 mlynedd. Er ei fod yn mwynhau ei swydd, yn 49 oed dechreuodd Carl deimlo ei fod eisiau newid cyfeiriad a chael gyrfa a oedd yn rhoi mwy o foddhad iddo.

Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed, dechreuodd Carl ar gynllun hyfforddiant mewn swydd, a alwyd ar y pryd yn Gynllun Hyfforddi Ieuenctid (YTS). Galluogodd y cynllun iddo ddysgu crefft tra’n ennill cyflog bach.

Meddai Carl “Fe wnes i symud ymlaen yn y diwydiant yn weddol gyflym. Gosod carpedi oedd fy swydd gyntaf, ond yna symudais ymlaen i werthu ac yna dod yn rheolwr, ac fy swydd ddiweddaraf oedd rheoli fy siop fy hun. Cefais enw da ac fe wnes i nifer o gysylltiadau, felly roeddwn yn ei chael hi’n hawdd symud rhwng swyddi; weithiau heb orfod gwneud cais swydd na chael chyfweliad.”

Yn ei amser rhydd, roedd Carl wedi dechrau gwirfoddoli gyda’i dîm achub mynydd lleol ac Ambiwlans Sant Ioan. Canfu fod helpu eraill yn rhoi llawer o foddhad iddo ac roedd yn awyddus i ddilyn gyrfa yn y diwydiant ond roedd yn ansicr ble i ddechrau.

Cael cefnogaeth gan Cymru’n Gweithio

Cysylltodd Carl â Cymru’n Gweithio gan ei fod yn ceisio dechrau gyrfa gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

“Er fy mod yn hyderus ac yn hen gyfarwydd â siarad ag amrywiaeth o bobl yn fy rôl gwerthu a rheoli, roeddwn yn teimlo fy mod allan o fy nghynefin wrth geisio ymuno â diwydiant newydd. Roeddwn yn gwybod y byddai’n rhaid i mi ailhyfforddi mewn rhyw ffordd ond roeddwn yn bryderus ac yn nerfus ynglŷn â hynny. 

Dw i hefyd yn hunangynhaliol felly doedd gofyn am help ddim yn hawdd!” 

Cafodd Carl help gan dîm Cymru’n Gweithio drwy gymorth digidol a thros y ffôn. Fe wnaeth y tîm ganfod bod angen help ar Carl i deilwra ei ffurflenni cais i’r rôl, yn ogystal â chymorth cyfweld i dynnu sylw at ei sgiliau trosglwyddadwy a geiriau allweddol i’w defnyddio a oedd yn benodol i’r swydd.

“Gweithiodd Ceri, yr Anogwr Cyflogadwyedd, a’r tîm gyda mi ar fy ffurflen gais ac fe wnaethom ymarfer ffug gyfweliadau. Roedd angen cyngor arnaf ar ba eiriau allweddol i’w defnyddio a sut i gyflwyno fy hun mewn cyfweliad ffurfiol."

Sicrhau swydd

Roedd Carl wedi ymgeisio am swyddi gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ddwywaith ond ni lwyddodd i gyrraedd y cam cyfweliad.

Ers iddo gael cymorth gan Cymru’n Gweithio aeth Carl ymlaen i wneud cais am y trydydd tro ac yn ddiweddar llwyddodd i gael swydd fel cynorthwyydd gofal brys.

“Rwyf mor falch o gael swydd yn y diwydiant hwn o’r diwedd. Rwy’n teimlo cymaint o gymhelliant a boddhad ac mae ansawdd fy mywyd yn gymaint gwell; mae’n caniatáu i mi dreulio mwy o amser gyda fy nheulu ifanc.

Rwyf newydd orffen a phasio fy hyfforddiant, ac rwyf mor ddiolchgar am yr holl gymorth a gefais gan Cymru’n Gweithio a byddaf bob amser yn cofio’r tîm wnaeth fy helpu.

Rwyf eisoes yn edrych ar sut y gallaf symud ymlaen o fewn y gwasanaeth."

Os ydych chi fel Carl angen cymorth gyda’ch CV a chyfweliadau ewch i Cyngor ynglŷn â gwaith or cysylltwch â ni.

 


Archwilio

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.