Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Begw

Begw yn eistedd yn yr ardd

Begw Rowlands: Mae blwyddyn allan wedi fy helpu i gynllunio fy nyfodol

Penderfynodd Begw, sy’n 18 oed, gymryd blwyddyn allan ar ôl cael ei chanlyniadau Safon Uwch y llynedd. Cafodd dair A* a rhagoriaeth* ar gyfer BTEC mewn Cerddoriaeth. Roedd y pandemig yn golygu nad oedd modd iddi fwrw ymlaen â’i chynlluniau gwreiddiol i fynd i deithio felly penderfynodd weithio fel au pair yn Llundain er mwyn cael profiadau newydd cyn gwneud cais am le mewn coleg drama.

Cymryd blwyddyn allan

Meddai Begw: “Mae’r flwyddyn i ffwrdd wedi gweithio allan ychydig yn wahanol i’r hyn roeddwn i wedi’i gynllunio. Doeddwn i ddim yn gallu teithio ac roedd cyfleoedd gwaith yn gyfyngedig hefyd felly penderfynais wneud cais am swydd fel au pair i deulu gweithiwr allweddol yn Llundain.

“Ers mis Ionawr rwyf wedi bod yn gofalu am ddau o blant ac yn gwneud gwaith tŷ sydd wedi bod yn gyfle i mi adael cartref, ennill rhywfaint o arian a rhoi cynnig ar fyw mewn dinas newydd ar fy mhen fy hun.

“Mae wedi rhoi cyfle i mi ddod yn fwy annibynnol, yn fwy gwydn a gwthio fy hun i wneud pethau ar fy mhen fy hun. Rwyf wedi dysgu sut i goginio hefyd, sy’n fonws! Rwy’n falch o’r hyn rwyf wedi ei gyflawni eleni, er gwaetha’r amgylchiadau heriol.

“Rwy’n dychwelyd i Gaerdydd yn fuan gan fod gen i gyfle cyffrous i weithio fel swyddog gwisgoedd dan hyfforddiant ar gynhyrchiad newydd i S4C. Ar ôl hynny rwy’n bwriadu gwneud ceisiadau i golegau drama ar gyfer mis Medi nesaf i roi cyfle i mi gael gradd a gobeithio dechrau gyrfa actio.

“Dwi ddim ar frys i fynd i brifysgol ac felly rwy’n hapus i gadw fy opsiynau ar agor. Os na fyddaf yn llwyddo i gael lle y tro hwn, fe wnâi edrych am waith a rhoi cynnig ar ddechrau gyrfa actio ar fy mhen fy hun.”


Archwilio


Darllen fwy o straeon bywyd go iawn

Stori Imogen

Imogen: Astudio yn y chweched dosbarth a chynllunio ar gyfer y brifysgol...

Stori Ceri

Mae Ceri Vaughan Jones yn mynd i’r brifysgol ar ôl cymryd blwyddyn allan i weithio.

Straeon go iawn

Darllenwch fwy o straeon bywyd go iawn ar ganlyniadau arholiadau, prentisiaethau, hyfforddiant a dysgu, a chefnogaeth ar gyfer mynd i mewn i waith.