Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Ally

Ally yn eistedd ar ei beic ar lwybr beicio

Mae Cyfrif Dysgu Personol Ally wedi rhoi hwb i’w busnes.

Busnes sefydledig

Mae Ally Campbell, 42 oed, hyfforddwr beicio mynydd profiadol a sefydlodd ei busnes ei hun, Campbell Coaching, yn cynnig sgiliau beicio, hyfforddi, arwain a rheoli llwybrau yng Nghwm Afan, De Cymru.

Fel yr unig fenyw sy'n cynnig cyrsiau rheoli llwybrau beicio mynydd achrededig yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd, roedd Ally yn chwilio am ffyrdd o ddal ati i adeiladu ei busnes.

Meddai Ally: "Mae gen i lawer o brofiadau yn y diwydiant ac ym myd hyfforddi, ond dwi wastad wedi bod â diddordeb i ddysgu mwy am ochr fecanyddol fy ngwaith. Fel hyfforddwr, rydych chi'n gobeithio y bydd pobl yn cyrraedd gyda'u beiciau mewn cyflwr da, ond os nad yw rhywbeth yn hollol iawn am unrhyw reswm, dwi eisiau allu trwsio’r broblem a chynghori fy nghleientiaid ar beth i'w wneud."

Ehangu ei busnes drwy hyfforddiant

Penderfynodd Ally gwblhau ei rhaglen Cynnal a Chadw Beiciau Proffesiynol Lefel 2 gyda rhaglen Cyfrif Dysgu Personol Llywodraeth Cymru, er mwyn datblygu ei dealltwriaeth ei hun o'r beiciau y mae'n gweithio gyda nhw o ddydd i ddydd, ac er mwyn gwella'r gwasanaeth mae hi'n ei ddarparu i'w chleientiaid.

Meddai: "Yn ychwanegol i adeiladu fy ardal hyfforddi sgiliau fy hun gyda nodweddion amrywiol i helpu ddatblygu sgiliau beicio mynydd fy ngleientiaid, penderfynais gwblhau cwrs drwy Gyfrif Dysgu Personol.

“Roedd y cwrs yn anhygoel, ac bydd wybodaeth dwi wedi dysgu yn fuddiol iawn i'm busnes. Dwi’n barod yn cynnig hyfforddi a sgiliau llwybrau beicio mynydd, ond nawr dwi’n gallu cynnig gweithdai cynnal a chadw hefyd. Mae Cyfrif Dysgu Personol wedi agor fy musnes i gyfleoedd newydd a’r gallu i gynnig gwasanaeth mwy cynhwysfawr i fy nghleientiaid.

"Ar ôl treulio cymaint o amser ym myd y beic, rydych chi'n dod i adnabod eich ffordd o gwmpas. Ond mae cwblhau'r cwrs hwn drwy Gyfrif Dysgu Personol wedi fy helpu i uwchsgilio a dwi nawr yn gallu archwilio beiciau'n iawn, gan wybod fy mod i bellach wedi cymhwyso'n ffurfiol i wneud hynny."

Mynediad at ddatblygiad sgiliau

Fel rhan o'r busnes, mae Ally yn darparu hyfforddiant sy'n benodol i fenywod er mwyn helpu i annog menywod eraill i gael mynediad at ddatblygiad sgiliau proffesiynol yn ei diwydiant.

Meddai Ally: "Mae beicio mynydd yn aml yn cael ei weld fel camp i ddynion yn bennaf. Dwi wedi bod yn hyfforddi yn y diwydiant ers 18 o flynyddoedd, ac o gymharu’r sefyllfa  heddiw â phan ddechreuais i, mae yna gymaint mwy o ferched yn beicio ar bob lefel bellach. Mae llawer i’w wneud o hyd ond dwi’n falch o allu cynnig amgylchedd hamddenol i helpu menywod i gael mynediad at hyfforddiant a hogi eu sgiliau."

Mae mor bwysig cael mynediad at y gwasanaethau sydd ar gael i ni a pharhau i ddatblygu ein galluoedd proffesiynol trwy gydol ein gyrfaoedd. Mae Cyfrif Dysgu Personol yn ffordd wych o wneud hynny, a byddwn yn annog unrhyw un sydd eisiau datblygu ac ehangu eu sgiliau i ystyried y peth."

Chwiliwch Gyfrifon Dysgu Personol i ddarganfod mwy, neu cysylltwch â Cymru'n Gweithio.


Archwilio