Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Rose

Rose yn gweithio hefo person ifanc yn yr ysgol

Roedd Rose Probert, 43 oed, yn helpu i ofalu am ei brawd anabl ers iddi fod yn ifanc iawn. Breuddwydiodd am gael bod yn athrawes anghenion dysgu ychwanegol, ond doedd dysgu ddim yn flaenoriaeth yn ei chymuned sipsiwn a theithwyr.

Gadawodd Rose yr ysgol heb gymwysterau ond arweiniodd ei phrofiad o ofalu am ei brawd anabl yn ei chymuned sipsiwn a theithwyr at ei chyflogi fel Swyddog Cymorth Sipsiwn mewn ysgol yn Sir Benfro. Wrth weithio yn yr ysgol cafodd ei hysbrydoli i ailddechrau ar ei haddysg ei hun ac ymunodd ag ambell gwrs oedolion.

Cyflawnodd Rose ei TGAU Saesneg a Mathemateg a rhoddodd hynny hwb i’w thaith addysg. Aeth ymlaen i ennill gradd dosbarth cyntaf, rhagoriaeth yn ei thystysgrif ôl-raddedig mewn anghenion ychwanegol ac mae’n rheoli dosbarth anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgol yn Sir Benfro erbyn hyn.

Pwysigrwydd addysg

Meddai Rose: “Roedd tyfu i fyny gyda chyfrifoldebau gofalu mewn cymuned teithwyr yn ei gwneud hi’n anodd i mi lwyddo yn yr ysgol. Wrth i fy merch dyfu i fyny, roeddwn i am iddi weld pa mor bwysig yw addysg, felly fe wnes i ymrestru ar gyrsiau oedolion. Roeddwn i’n meddwl fy mod i wedi colli fy nghyfle i ddysgu, ond mwyaf sydyn sylweddolais fod llawer o gyrsiau a chyfleoedd ar gael i mi a bod fy mreuddwyd o weithio ym maes anghenion ychwanegol yn bosib o hyd.

“Nawr, rwy’n bennaeth dosbarth anghenion dysgu ychwanegol yn yr un ysgol uwchradd ag yr oeddwn i’n ddisgybl. Rydw i wedi cael cefnogaeth lawr yr ysgol, sydd wedi fy ngalluogi i ddal ati i ddysgu.

Gwneud gwahaniaeth

Ychwanegodd Rose: “Mae’r gwaith yn bopeth roeddwn i wedi’i obeithio y byddai. Rydw i’n gwneud rhywbeth sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill. Y cyfle i ddilyn cyrsiau oedolion oedd y sbardun i mi ddal ati ac rydw i wedi mwynhau pob eiliad o’r profiad.”

Archwilio

Canfod cwrs

Gallwch chwilio am gyrsiau addysg oedolion a chymunedol ar wefan Dysgu Oedolion Cymru.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.


Mwy o straeon bywyd go iawn

Stori Matthew

Sicrhaodd hyfforddeiaeth a chymwysterau swydd llawn amser  i Matt ...


Canfod Cymorth

Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith