Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Phoebe

Cogydd Crwst Phoebe, y tu mewn i Coffi Co

Troi ei chariad at bobi yn yrfa.

Her newydd

Astudiodd Phoebe, o Benarth, Gelf a Cherameg ym Mhrifysgol y Celfyddydau, Llundain. Heddiw, mae’n gweithio fel Cogydd Cynnyrch Crwst yn ôl yng Nghymru, ar ôl troi ei chariad at bobi cartref yn yrfa newydd.

Dechreuodd pandemig COVID-19 pan oedd Phoebe yn ei thrydedd flwyddyn yn y brifysgol – felly penderfynodd ddychwelyd i Gymru i orffen ei gradd o gartref.

Ar ôl graddio yn 2020 doedd Phoebe ddim yn siŵr beth oedd am ei wneud fel gyrfa, a chymerodd swydd mewn siop dros y Nadolig.

Ar ôl i honno ddod i ben, daliodd ati i chwilio am swydd newydd i gychwyn ei dyfodol allan o fyd addysg.

Esboniodd Phoebe: “Roedd hi’n amser cystadleuol iawn i chwilio am waith yn ystod y pandemig, ond fe wnes i ddyfalbarhau a gwneud llawer o ymchwil i’r cymorth a oedd ar gael.

“Soniodd fy nghynghorydd Credyd Cynhwysol am gynllun newydd gan y llywodraeth a fyddai’n fy nghefnogi i chwilio am gyfleoedd swyddi. Dyna sut gwnes i ddod o hyd i swydd Cogydd Cynnyrch Crwst yn Coffi Co, a oedd yn ymddangos yn swydd ddelfrydol i mi felly fe benderfynais i fynd amdani. Ces ateb yn gyflym iawn a chynnig cyfweliad. Bythefnos yn ddiweddarach ro’n i wedi dechrau’r swydd.”

Gwneud yr hyn mae’n ei garu

Esboniodd Phoebe: “Dwi’n pobi gartref a wastad wedi mwynhau coginio a phobi i deulu a ffrindiau. Mae fy mreuddwyd o allu pobi drwy’r dydd wedi ei gwireddu, a dwi’n cael fy nhalu i wneud yr hyn dwi’n caru ei wneud.

“Wnes i erioed dychmygu y gallwn i droi fy nghariad at bobi yn swydd. Ro’n i’n teimlo bod y swydd hon ychydig allan o ’nghyrraedd i, a fyddwn i byth wedi ymgeisio amdani oni bai am y cynllun hwn, gan na fyddwn i’n teimlo mod i’n ddigon cymwys.

“Roedd dod o hyd i’r swydd hon yn rhoi’r cyfle i mi deimlo bod yna le i ddysgu, a oedd yn golygu bod y profiad o ddechrau swydd newydd yn llai o straen ac yn llai brawychus.

“Yn Coffi Co maen nhw’n derbyn y gallwch chi ddod i swydd a dysgu wrth ei gwneud hi. Dwi’n mwynhau dysgu sgiliau newydd ac roedd hi’n braf gwybod y gallwn i daflu fy hun i rywbeth heb fod gen i’r holl gymwysterau’n barod.

“Yn ogystal â hynny, mae pawb ar y tîm mor ffein ac mae’n amgylchedd hawdd i fod ynddo. Mae yna lawer o bobl ifanc eraill ar y tîm, ond mae pawb yn cyd-dynnu’n dda ac rydyn ni’n dysgu oddi wrth ein gilydd. Mae’n lle cadarnhaol iawn i weithio ac mae wedi rhoi hwb mawr i’m hyder.”

Ar ôl i gynllun chwe mis cychwynnol y llywodraeth ddod i ben, cynigiwyd swydd barhaol i Phoebe ac ym mis Ebrill 2021 dechreuodd ar ei swydd lawn amser fel Cogydd Cynnyrch Crwst.

Cyfleoedd i ddatblygu

Ers dechrau gweithio yn Coffi Co mae Phoebe wedi parhau i ddatblygu ei sgiliau.

Esboniodd: “Ers ymuno â Coffi Co dwi wedi ennill cymhwyster Iechyd a Hylendid ac wedi bod yn dysgu yn y swydd.”

Yn ogystal â rhoi rhagolygon gyrfa i Phoebe mae ei swydd newydd wedi ei datblygu fel person hefyd. “Ers dechrau’r swydd hon dwi wedi dod yn fwy cymdeithasol, ac mae wedi rhoi hwb i’m hyder gan ei fod wedi gwneud i mi deimlo, ‘Mi alla i wneud hyn’ yn lle teimlo mod i ddim yn perthyn.”

Wrth gynnig cyngor i bobl eraill a allai fod wedi mynd trwy sefyllfa debyg ar ôl gadael byd addysg, meddai:

“Fyddwn i’n argymell i unrhyw un mewn sefyllfa debyg i edrych ar y cynlluniau cymorth sydd ar gael gan y llywodraeth. Mae yna lawer o gymorth ar gael, hyd yn oed os nad wyt ti’n gwybod beth wyt ti eisiau ei wneud yn dy yrfa. Heb y cymorth ges i, dwi ddim yn siŵr a fyddwn i’n gwneud rhywbeth dwi’n ei garu gymaint heddiw.”


Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn ac os hoffech chi ymchwilio i'ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â thîm Cymru'n Gweithio drwy eu ffonio am ddim 0800 028 4844, e-bost cymrungweithio@gyrfacymru.llyw.cymru neu drwy ein sgwrs fyw.


Archwilio

Gwarant i Bobl Ifanc

Cyfle gwarantedig i bawb dan 25 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn siŵr o feithrin agwedd bositif ynoch.

Twf Swyddi Cymru+

Wyt ti rhwng 16-19 oed? Galli di gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith am dâl i dy helpu i allu llywio dy ddyfodol.

Canfod Cymorth

Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith