Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Matthew

Matt yn gwisgo helmed caled a siaced weladwy

Roedd Matthew Jones, o Abertawe, am gael rhywfaint o sefydlogrwydd yn ei swydd. 

Ar ôl treulio tair blynedd yn gweithio i Gyngor Abertawe ar gontract dim oriau, penderfynodd Matthew ei fod am ennill cymwysterau i gael swydd sefydlog, llawn amser.

Roedd yr awdurdod lleol am newid agweddau at y sector gwastraff, felly cydweithiodd â GCS Training yng Ngholeg Gŵyr Abertawe'r llynedd i gynnig hyfforddeiaeth a fyddai’n rhoi cymhwyster i staff rheoli gwastraff.

Newid agweddau

Cymhwysodd Matthew, sy’n 37 oed, gyda diploma NVQ Lefel 2 Rheoli Gwastraff ac mae’n cael ei gyflogi’n llawn amser gan y cyngor erbyn hyn. Meddai: “Mae ennill cymhwyster yn gwneud i mi deimlo fy mod i’n cael fy mharchu fwy – ac mae'r diwydiant angen hynny. Rydym ni ar y rheng flaen bob dydd.”

Fel rhan o’r hyfforddeiaeth, mae’n rhaid i bob dysgwr, sy’n gweithio mewn sawl rôl yn y broses wastraff, gyflawni’r Diploma Lefel 2 WAMITAB mewn Gweithgareddau Adnoddau Cynaliadwy.

Rhagor o gyfleoedd gyrfa 

Bydd Matthew yn ymrestru ar y Diploma Lefel 3 WAMITAB cyn bo hir a fydd yn rhoi cymhwyster cyfwerth â Safon Uwch iddo ac yn ei alluogi i wneud cais am swyddi rheoli.

“Ers i ni ennill y cymhwyster mae pawb yn llawer hapusach,” meddai. “Rydw i’n rhan o dîm nawr. Mae’r amgylchedd gwaith yn well. Mae addysg oedolion wedi rhoi cymaint o hyder i mi yn fy ngwaith. Mae wedi gwneud fy ngwaith yn haws.”

Ac er gwaethaf yr heriau, mae Matthew yn dweud mai hon yw’r swydd orau iddo ei chael erioed, gan ychwanegu “Rydw i wrth fy modd – byddwn i’n ei hargymell i unrhyw un. Mae’n berffaith os ydych chi’n hoffi’r gampfa neu chwarae pêl-droed gan ei fod yn waith egnïol iawn, rydw i’n gwneud 22,000 cam y dydd.”

Archwilio

Hyfforddeiaethau

Rhaglen ddysgu sy'n rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i swydd, prentisiaeth neu ddysgu pellach.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd.

Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.


Mwy o straeon bywyd go iawn

Stori Rose

Dechreuodd cyrsiau oedolion daith dysgu Rose ...


Canfod Cymorth

Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith