John yn profi bod modd i chi ddychwelyd i’r gwaith waeth beth fo’ch oedran.
Ar ôl ymddeol i Dde Affrica yn 2010, penderfynodd John ddychwelyd i Fae Colwyn ac rydym wedi ei helpu i ddod o hyd i swydd newydd.
Dychwelyd i Ogledd Cymru
Mae John, sydd bellach yn 63 oed, yn enedigol o Derby a symudodd i Fae Colwyn ym 1998 ar ôl cyfarfod ei ddiweddar wraig yn y Caribî. Priododd y ddau yn Kenya ac yna penderfynu ymddeol i Dde Affrica yn 2010.
Ar ôl byw yno am ddwy flynedd cafodd ei wraig ddiagnosis o ganser. Bu farw chwe wythnos yn ddiweddarach.
Penderfynodd John ddychwelyd i Ogledd Cymru.
Meddai, “Fe ddechreuon ni ein bywydau gyda’n gilydd ym Mae Colwyn, felly roedd yn gwneud synnwyr i mi fynd yn ôl yno wedi iddi farw. Allwn i ddim aros yn Ne Affrica mwyach. Doeddwn i ddim yn teimlo’n ddiogel yno oherwydd yr hinsawdd wleidyddol. Doedd pethau ddim yr un fath heb fy ngwraig”.
Cael cefnogaeth i fynd yn ôl i weithio
Er ei fod wedi ymddeol ers dros ddegawd, roedd yn rhaid i John ddychwelyd i weithio gan nad oedd ei bensiwn ef a phensiwn ei ddiweddar wraig yn ddigon i dalu costau byw y DU.
Trefnodd John apwyntiad yn ein canolfan gyrfa yn Llandudno. Cafodd gymorth i ysgrifennu CV, i chwilio am swyddi gwag ac i baratoi am gyfweliadau.
Ychwanegodd John, “Doedd gen i ddim syniad ble i ddechrau. Doeddwn i ddim wedi gweithio ers dros ddegawd, a doedd gen i ddim sgiliau cyfrifiadurol o gwbl. Roedd y cymorth a gefais gan fy nghynghorydd, Sam Roberts, yn amhrisiadwy. Fe wrandawodd arnaf a’m helpu i ddarganfod pa swyddi i ymgeisio amdanynt yn seiliedig ar fy mhrofiad blaenorol”.
Dod o hyd i swydd newydd
Ers hynny mae John wedi dod o hyd i swydd fel porthor yn yr adran damweiniau ac achosion brys mewn ysbyty lleol. Bu’n gweithio fel porthor am fwy na chwe blynedd cyn dringo’r ysgol yrfa yn Capita ac ymddeol yn ddiweddarach.
Meddai, “Roeddwn i bob amser yn teimlo’n llawn cymhelliant ac yn hyderus ar ôl siarad â’m cynghorydd.
“Oni bai am Sam, wn i ddim beth fyddwn i’n ei wneud. Os galla i ddychwelyd i’r gwaith ar ôl cymaint o amser, gall unrhyw un wneud hynny. Alla’i ddim canmol digon ar Cymru’n Gweithio”.
Meddai ei gynghorydd, Sam Roberts, “Yn anffodus, nid John yw’r unig un sy’n gorfod ailddechrau gweithio ar ôl ymddeol er mwyn talu costau byw sy’n cynyddu’n gyflym.
“Mae’n dorcalonnus, ond rwy’n fach iawn fy mod wedi gallu ei helpu i gael ei draed dano eto mewn swydd y mae’n ei mwynhau”.
Mae ein canolfan yn Llandudno ar agor bob dydd Mercher a dydd Iau o 9am i 4.30pm a bob dydd Gwener o 9am i 4pm. Ffoniwch 0800 028 4844 i drefnu apwyntiad, neu ewch i’n tudalen gyswllt i weld mwy o ffyrdd o gysylltu â ni.
Archwilio
Sicrhewch fod eich CV o'r safon orau bosibl. Dewch i wybod beth yw gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CVs, a lawrlwytho ein Canllaw i ysgrifennu CV.
Mynnwch help i baratoi ac ymarfer cwestiynau cyfweliad, a darganfod beth i'w ddisgwyl mewn cyfweliad.
Dewch i wybod am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.