Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Frances

Frances

Gwnaeth cadw ei sgiliau yn gyfredol helpu Frances i symud i yrfa newydd.

Newid cyflogaeth

Bu Frances yn gweithio yn y diwydiant gofal am dros 30 mlynedd a bu ganddi amrywiaeth o rolau o fewn y sector.

Daeth ei rôl ddiweddaraf, fel rheolwydd cartref gofal, i ben yn 2020 oherwydd ailstrwythuro’r cwmni. Am y tro cyntaf yn ei gyrfa roedd Frances yn ddi-waith.

Bu Frances yn gweithio gyda'i chyflogwr am 11 mlynedd ac fe wnaethant roi tri mis o rybudd iddi am y diswyddiad. Wrth fyfyrio ar yr amser hwn, dywedodd Frances, “Roedd y cyfnod o dri mis yn golygu fy mod i’n dal i ennill cyflog ac er fy mod i’n gwybod fy mod i’n mynd i golli fy swydd, roeddwn i’n dal eisiau parhau i ddarparu'r un lefel o ofal a gwasanaeth, hyd at fy nyddiad gadael”.

Cadw ei sgiliau’n gyfoes

Mae cadw sgiliau'n gyfredol ac uwchsgilio yn bwysig i Frances ym mhob rhan o'i bywyd.

Drwy gydol ei gyrfa mae Frances wedi parhau i ddysgu a sicrhau ei bod yn mynychu cyrsiau hyfforddi yn rheolaidd. Mae'r rhain wedi cynnwys hyfforddiant rheoli, hyfforddi a mentora, asesu NVQ ac astudiaethau busnes.

Dywedodd Frances, “Yn fy gwaith ac yn fy mywyd preifat, rwy bob amser wedi bod yn awyddus i ddysgu sgiliau newydd. Rwy'n meddwl ei bod yn hanfodol cadw'ch sgiliau’n gyfredol gan ei fod yn eich galluogi i wneud eich swydd yn well, yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad ac yn y pen draw yn adlewyrchu ar eich cyflogwr”.

Cael cymorth gan Cymru’n Gweithio

Pan ddaeth Frances yn ddi-waith yn swyddogol, dechreuodd ymgeisio am swyddi, ond ni chafodd unrhyw lwyddiant.

Dywedodd Frances, “Roeddwn i’n llwyddiannus ar y cam ymgeisio a chael cyfweliadau, ond doeddwn i ddim wedi cael cynnig unrhyw beth eto”.

Dyma pryd gwnaeth ffrind, sy’n gweithio i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) argymell Cymru’n Gweithio. Dywedodd wrthi am y cymorth y mae Cymru’n Gweithio yn ei gynnig o ran diswyddo a diweithdra.

Dywedodd Frances, “Roedd yn swnio fel ei fod yn werth ffonio. Aeth y cynghorydd drwy fy opsiynau a fy helpu i gael gafael ar y pecynnau cymorth perthnasol oedd ar gael i mi, gan gynnwys cymorth ariannol. Roedd y broses gyfan yn gyflym ac yn hawdd i’w dilyn”.

Meddylfryd cadarnhaol a symud ymlaen i swydd newydd

Gyda chefnogaeth gan Cymru’n Gweithio ynghyd ag agwedd gadarnhaol ac optimistaidd, llwyddodd Frances i gael swydd newydd fel eiriolydd iechyd meddwl.

Wrth siarad am y swydd, dywedodd Frances, “Mae'n rôl werthfawr a gwerth chweil iawn ac nid yw'n rhy bell o'm profiadau ym myd gofal. Mae'n un o'r lleoedd gorau i mi weithio ynddo erioed”.

Wrth edrych yn ôl ar ei hamser yn chwilio am swydd, dywedodd Frances, “Rwy’n credu’n gryf nad oes dim byd yn para am byth neu’n aros yr un peth chwaith. Mae angen inni weithio am ein hannibyniaeth a thalu ein ffordd, cymaint ag y gallwn ni. Roedd yn bwysig i mi gofio hynny tra roeddwn i’n chwilio am swydd newydd”.

Yn ei swydd newydd mae Frances hefyd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 4 City & Guilds mewn Eiriolaeth yn llwyddiannus felly mae'n dal i ddysgu ac ennill cymwysterau.

Dywedodd Frances, “Mae’n bosib symud ymlaen o fod yn ddi-waith, mae yna gyfleoedd ar gael. Dylwn i fod wedi gwneud y newid yn gynt”.

Os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn ac yn awyddus i archwilio’ch cyfleoedd, gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â thîm Cymru’n Gweithio drwy ffonio 0800 028 4844 yn rhad ac am ddim, anfon neges e-bost i cymrungweithio@gyrfacymru.llyw.cymru neu gallwch gael sgwrs fyw.


Archwilio

ReAct+

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.

Cymorth ar ôl colli swydd

Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar ôl colli swydd. Cewch gymorth gyda sut i symud ymlaen yn hyderus ar ôl colli swydd.