Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Dominic

Dominic yn gweithio yn ei fusnes gwaith saer

Gadawodd Dominic yr ysgol yn 16 oed i ddechrau prentisiaeth mewn gwaith saer. Treuliodd dair blynedd fel prentis a dwy flynedd yn gweithio cyn dechrau ei fusnes ei hun yn 21 oed.

Yn ôl Dominic, sydd wedi bod yn rhedeg busnes llwyddiannus am bum mlynedd, drwy ddechrau ei fusnes yn ifanc, cafodd fwy o amser i ddysgu o’i gamgymeriadau.

Datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi

Roedd Dominic wastad wedi yn ymarferol iawn ac wrth ei fodd yn gwneud pethau ers yn ddim o beth. Meddai: “Rydw i wedi gwybod ers yn 14 neu 15 oed fy mod i am redeg fy musnes fy hun, a phenderfynais fynd i faes gwaith saer gan ei fod yn rhywbeth roeddwn i’n mwynhau ei wneud. Pan wnes i adael yr ysgol dechreuais brentisiaeth yn Keating Joinery i ddysgu’r sgiliau y byddwn eu hangen i ddechrau fy musnes fy hun yn y dyfodol.

“Tua diwedd fy mhrentisiaeth rhoddodd fy ngholeg fy enw ymlaen i WorldSkills, sef cystadleuaeth sgiliau ryngwladol. Roedd bod yn aelod o Garfan WorldSkills y DU yn brofiad gwerth chweil a chefais gyfle i deithio a dysgu gan lawer o wahanol bobl, ac fe wnes i hogi fy sgiliau a chael yr hyder i ddechrau fy musnes fy hun.”

Mentro i fod yn hunangyflogedig

“Sefydlais fy ngweithdy cyntaf o garej fy rhieni. Roedd llawer i’w ddysgu, ond dechreuais arni drwy gadw popeth yn syml a derbyn prosiectau gwaith saer bach - gan wneud pethau fel drysau a ffenestri. Roeddwn i’n dysgu wrth fynd ymlaen, a gydag amser ac ar ôl magu hyder, fe ddechreuais i dderbyn prosiectau mwy ac arweiniodd hyn yn y pen draw at gael fy uned fusnes fy hun yn Noc Penfro.

“Fy nghyngor i unrhyw un sy’n cael eu canlyniadau eleni yw cofio nad graddau yw popeth. Llwyddais ymhob arholiad, ond fy sgiliau llaw a ‘mhrofiad ymarferol oedd y pethau pwysicaf i mi i lwyddo yn fy mhrentisiaeth a dechrau fy musnes fy hun. Os ydych chi am weithio i chi’ch hun, mae’n amser delfrydol i wneud hynny.

Roedd dechrau fy musnes yn ifanc yn golygu bod gen i lawer i’w ddysgu, ond rhoddodd fwy o amser i mi wneud camgymeriadau ac mae gen i fusnes llwyddiannus yn 26 oed.”


Archwilio

Dod o hyd i brentisiaeth

Ennill cymwysterau tra'n gweithio a chael eich talu. Dewch i wybod mwy am brentisiaethau a chwilio am swyddi gwag.

Twf Swyddi Cymru+

Rhwng 16-19 oed? Gallwch gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith â thâl i'ch helpu i greu eich dyfodol eich hun ar eich telerau eich hun.


Darllen fwy o straeon bywyd go iawn

Stori Alex

Cafodd y pandemig effaith fawr ar fy uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol...

Stori Laura

Gadawodd Laura Green yr ysgol ar ôl ei TGAU a dechreuodd ei phrentisiaeth ddwy flynedd wedi hynny...

Straeon go iawn

Darllenwch fwy o straeon bywyd go iawn ar ganlyniadau arholiadau, prentisiaethau, hyfforddiant a dysgu, a chefnogaeth ar gyfer mynd i mewn i waith.