Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Ceri

Ceri yn pwyso yn erbyn wal

Mae Ceri Vaughan Jones yn mynd i’r brifysgol ar ôl cymryd blwyddyn allan i weithio.

Mynd i’r Brifysgol

Ar ôl cael ei chanlyniadau Safon Uwch y llynedd cymerodd Ceri flwyddyn allan i weithio ac mae nawr yn edrych ymlaen at ddechrau gradd mewn Rheoli Busnes a Sbaeneg ym Mhrifysgol Caerwysg

Cafodd Ceri, 19, 4 A* mewn Sbaeneg, Mathemateg, Bioleg a Bagloriaeth Cymru.

Meddai Ceri: “Roeddwn i eisoes wedi penderfynu cymryd blwyddyn i ffwrdd cyn i’r pandemig ddechrau. Roeddwn wedi bwriadu treulio blwyddyn yn gweithio mewn cyrchfan golff yn Sbaen er mwyn trwytho fy hun yn yr iaith cyn dechrau fy ngradd.

“Dwi ddim wedi gallu gwneud hynny, sydd wedi bod yn siom, ond rwy’n falch fy mod wedi cymryd blwyddyn allan. Rwyf wedi gallu cynilo rhywfaint o arian a magu rhywfaint o brofiad drwy weithio mewn tecawê Tsieineaidd lleol.

“Nawr rwy’n teimlo’n gyffrous iawn ynglŷn â dechrau yn y brifysgol er mwyn i mi allu symud oddi cartref a chanolbwyntio ar rywbeth newydd. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â phobl newydd a gobeithio y bydd hyn yn haws eleni nac y byddai wedi bod pe bawn i wedi dechrau ar y cwrs y llynedd.

“Rwyf wedi dewis astudio rheoli busnes yn rhannol oherwydd ei fod yn bwnc gradd eithaf eang a all arwain at nifer o wahanol yrfaoedd, ond mae hefyd yn rhywbeth yr oeddwn i’n meddwl y buaswn yn ei fwynhau.

“Cefais fy magu’n ddwyieithog, felly rwyf bob amser wedi mwynhau astudio ieithoedd, ac mae dilyn cwrs iaith yn y brifysgol yn rhoi’r fantais ychwanegol i chi o dreulio blwyddyn dramor.

“Rwy’n sicr eisiau dod yn ôl adref i fyw ar ôl fy ngradd a gobeithio y byddaf yn dod o hyd i yrfa atyniadol a gwerth chweil yma yng Nghymru.”


Archwilio

Prifysgol ac addysg uwch

Dysgwch am fynd i'r brifysgol, gan gynnwys proses ac amserlen Ymgeisio UCAS. Mae hefyd yn cynnwys astudio dramor.


Darllen fwy o straeon bywyd go iawn

Stori Poppy

Arhosodd Poppy, sy’n 17 oed, ymlaen yn y chweched dosbarth i barhau a’i hastudiaethau ac mae’n gobeithio astudio dramor yn yr Unol Daleithiau y flwyddyn nesaf i ddechrau ar yrfa ryngwladol.

Stori Scott

Scott Gilmour: Ar y trywydd iawn i gael gradd yn y gyfraith...

Straeon go iawn

Darllenwch fwy o straeon bywyd go iawn ar ganlyniadau arholiadau, prentisiaethau, hyfforddiant a dysgu, a chefnogaeth ar gyfer mynd i mewn i waith.