Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Catrin

Catrin mewn dosbarth prifysgol yn gafael mewn model o esgyrn

Mae menyw a oroesodd losgiadau a siawns o un mewn 1,000 o fyw yn dweud mai addysg oedolion sydd i ddiolch am ei llwyddiant, ar ôl cwblhau ei blwyddyn gyntaf yn y brifysgol a chael ei dewis fel wyneb y brand harddwch Avon.

Dioddefodd Catrin Pugh, o Wrecsam, losgiadau i 96% o’i chorff yn 2013 pan aeth y bws moethus yr oedd hi’n teithio arno yn wenfflam, gan ladd y gyrrwr ac anafu ei chyddeithwyr.

Gwellhad anhygoel

Enillodd y wobr Newid Bywyd a Chynnydd yng Ngwobrau Ysbrydoli! 2018 ac mae wedi newid ei stori ar ôl gwellhad anhygoel a chwblhau ei blwyddyn gyntaf yn King’s College Llundain yn astudio Ffisiotherapi.



Cafodd Catrin ei hysbrydoli i ailafael yn ei haddysg gan ei ffisiotherapydd, a’i helpodd i gerdded, bwyta a siarad eto - pethau nad oedd yn meddwl y gallai eu gwneud ar ôl y ddamwain.

When she started to learn these things again, she wanted to help change someone else’s life.

Pan ddechreuodd ddysgu’r pethau hyn eto, teimlodd ei bod hi hefyd am helpu i newid bywyd rhywun arall.

Cafodd Catrin ei chefnogi i gwblhau cwrs Mynediad i Addysg Uwch, a chafodd y wybodaeth oedd ei hangen arni i symud ymlaen i’w chwrs gradd.

 

Ysgogi eraill

Yn ogystal â’i hastudiaethau, mae Catrin hefyd wedi trechu ei diffyg hyder ac wedi modelu yn Wythnos Ffasiwn Llundain fel rhan o’r ymgyrch #PortraitPositive a hi yw wyneb y brand harddwch, Avon.

Meddai Catrin: “Rhoddais sgyrsiau i sawl cynulleidfa wahanol yn y gwaith, gan ddweud fy stori er mwyn ceisio ysbrydoli eraill. Roeddwn i’n ofni mynd yn ôl i’r byd addysg ar ôl y ddamwain, ond nawr gyda’r cymorth iawn, rydw i wedi ail-fagu hyder ac rwy’n benderfynol o gyflawni popeth roeddwn i am ei wneud cyn y ddamwain.”

Archwilio

Canfod cwrs

Gallwch chwilio am gyrsiau addysg oedolion a chymunedol ar wefan Dysgu Oedolion Cymru.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni


Darllen fwy o straeon bywyd go iawn

Stori Aqsa

Fe wnaeth cwrs cyfrifiadureg agor drysau i Aqsa....


Canfod Cymorth

Chwilio am raglen a all eich helpu i wella eich sgiliau a'ch cyfleoedd gwaith