Ymunwch â’r rhai sy’n creu profiadau.
Gyda mwy a mwy o ymwelwyr yn dod i Gymru, mae angen mwy o staff ar y sector twristiaeth a lletygarwch. Mae ystod enfawr o swyddi ar gael, o weithio mewn bwytai a bariau ar y traeth, i westai pum seren a chyrchfannau ymwelwyr.
Os ydych chi’n mwynhau gweithio gyda phobl, gwneud ffrindiau newydd a bod yn rhan o dîm, efallai bod gyrfa ym maes lletygarwch a thwristiaeth yn berffaith i chi.
Byddwch chi’n rhan fawr o wireddu profiadau pwysig - boed hynny’n noson fawr allan, aduniad teuluol, penwythnos ar y traeth, neu ddathlu llwyddiant gyda ffrindiau. A gallwch ddisgwyl rhywbeth gwahanol bob dydd.
Bydd galw mawr amdanoch chi
Mae galw mawr am bobl i weithio yn y sector. Ar gyfartaledd, mae dros 3,400 o hysbysebion ar gyfer swyddi lletygarwch a thwristiaeth bob mis yng Nghymru. (LightcastTM,,Awst 2023 i Gorffennaf 2024)
Y 10 swydd mewn lletygarwch a thwristiaeth sydd wedi cael eu hysbysebu ar-lein fwyaf yn ystod y 12 mis diwethaf yng Nghymru yw:
- Cymorthyddion cegin ac arlwyo
- Pen-cogyddion
- Gweinyddion
- Staff bar
- Swyddogion siop goffi
- Cogyddion
- Goruchwylyddion bar ac arlwyo
- Rheolyddion a pherchnogion bwytai
- Cymorthyddion chwaraeon a hamdden
- Rheolyddion arlwyo a bar
- Rheolyddion gwestai a llety
(Ffynhonnell: (LightcastTM, Awst 2024)
Ble mae dod o hyd i swyddi ym maes lletygarwch, hamdden a thwristiaeth
Os ydych chi’n meddwl bod swydd ym maes twristiaeth a lletygarwch yn addas i chi, boed hynny ddim ond am yr haf neu’n rhan o’ch cynlluniau gyrfa hirdymor, mae rhai pethau y gallwch eu gwneud:
- Edrychwch am gyfleoedd yn eich ardal leol – mae llawer o fusnesau’n hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol neu hyd yn oed yn rhoi arwyddion yn eu ffenestri
- Galwch heibio i westai, bwytai a bariau cyfagos i gyflwyno’ch hunan a gadael CV
- Cysylltwch â chynghorydd Cymru'n Gweithio i gael sgwrs am eich dyfodol
- Cymerwch olwg ar y dolenni isod
Archwiliwch y gwahanol fathau o swyddi y gallwch eu gwneud ym maes lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, gan gynnwys beth mae’r swyddi’n ei gynnwys, cyflogau, cymwysterau, y sgiliau angenrheidiol a mwy.
Cymerwch olwg ar y cyflogwyr sy’n recriwtio ar hyn o bryd. Dechreuwch chwilio am swydd yma.
Defnyddiwch ein bwletin swydd i gael mynediad at gannoedd o swyddi gwag byw ledled Cymru.
Prentisiaethau fel rheolwr, cogydd, ym maes gwasanaethau cwsmeriaid, cynnal a chadw tir, chwaraeon a ffitrwydd, rheoli digwyddiadau a mwy.
Darganfyddwch 10 ffordd wych o ddod o hyd i gwmni i weithio iddo.
Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni
Straeon go iawn
Dewch i gwrdd â phobl go iawn sy’n creu profiadau.
Focus Wales yw un o’r digwyddiadau mwyaf yng nghalendr cerddoriaeth Cymru gyda dros 20,000 o fynychwyr, ac mae’n cynnig ystod enfawr o gerddoriaeth a swyddi ym maes digwyddiadau ar draws yr ŵyl, o adeiladu a rheoli llwyfan, i beirianneg sain a chysylltu gydag artistiaid a’r wasg.
Mae Zip World yn cynnig amgylchedd gwaith deinamig, bywiog ar draws ei saith safle, gyda chyfleoedd go iawn ar gyfer dilyniant gyrfa.
Mae’r cysylltiad rhwng cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng a Gwesty Trewythen yn golygu bod y gwesty hanesyddol yng nghanol Llanidloes yn academi naturiol i brentisiaid.
Mae Ynyshir yn hyrwyddo creadigrwydd a chydbwysedd iach i staff rhwng bywyd a gwaith deinamig o ddydd i ddydd yn eu gwasanaeth Seren Michelin.
Mae staff Bluestone wedi gallu symud ymlaen o’u swyddi rhan-amser i ddilyn gyrfaoedd amser llawn boddhaus wrth gael eu cefnogi gan hyfforddiant cynhwysfawr a chynlluniau prentisiaethau.
Gan ganolbwyntio ar ddatblygu pobl mewn rolau sy’n addas i’w diddordebau, mae’r atyniad llwyddiannus yma yn un enghraifft o blith llawer o’r cyfleoedd gyrfaol amrywiol sydd i’w cael yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch.
Gall gyrfa ym maes lletygarwch eich cyflwyno i fyd newydd o gyfleoedd os ydych chi’n awyddus i ymuno â’r daith.
Gweithwyr yn The Grove, sef gwesty a bwyty mewn tŷ gwledig yn Arberth, Sir Benfro, sy’n sôn am eu profiadau o weithio yn y diwydiant ac yn rhannu’r manteision niferus sydd ar gael.
Mae aelodau staff Dylan's yn esbonio sut maen nhw wedi gallu tyfu'n broffesiynol ac yn bersonol yn ystod eu hamser yn gweithio yno.
Archwilio
Wyt ti rhwng 16-19 oed? Galli di gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith am dâl i dy helpu i allu llywio dy ddyfodol.
Sicrhewch fod eich CV o'r safon orau bosibl. Dewch i wybod beth yw gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CVs, a lawrlwytho ein Canllaw i ysgrifennu CV.
Mynnwch help i baratoi ac ymarfer cwestiynau cyfweliad, a darganfod beth i'w ddisgwyl mewn cyfweliad.
Cewch wybod beth i'w ysgrifennu mewn llythyr cais neu e-bost.
Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant sgiliau galwedigaethol a chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â'r pethau sy’n eich rhwystro rhag cael swydd.