Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Parc Gwyliau Cenedlaethol Bluestone

Llion Richards, aelod Gwasanaethau Gwesteion/Adwerthu yn Parc Gwyliau Cenedlaethol Bluestone

Cyrchfan gwyliau moethus 5* eco-gyfeillgar ar safle 500 erw yn Arberth, Sir Benfro, yw Parc Gwyliau Cenedlaethol Bluestone. Mae’r lleoliad yn cynnwys Parc Dŵr Blue Lagoon, bwytai a bariau, sba lles, yn ogystal â llu o weithgareddau dan do ac awyr agored.

Mae staff Bluestone wedi gallu symud ymlaen o’u swyddi rhan-amser i ddilyn gyrfaoedd amser llawn boddhaus wrth gael eu cefnogi gan hyfforddiant cynhwysfawr a chynlluniau prentisiaethau, tra bod y rheini sydd â phlant yn cael eu hannog i ddilyn patrymau gwaith sy’n cyd-fynd â’u cyfrifoldebau teuluol.

Llion Richards, Gwasanaethau Gwesteion/Adwerthu

Dechreuodd Llion weithio yn y ganolfan wyliau’n rhan-amser er mwyn cael arian poced ychwanegol, ond cafodd gyfle i ddechrau gyrfa yno ar ôl iddo ddarganfod mai ei angerdd mewn bywyd oedd gwneud i bobl wenu. Fel rhywun sy'n drwm ei glyw, mae'n awyddus i bobl wybod nad yw hynny’n rhwystr i gael swydd wych yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch.

“Wnes i ddim meddwl am fynd i faes lletygarwch. Dim ond rhywbeth bach rhan-amser ro’n i’n chwilio amdano, ond ro’n i’n mwynhau cymaint yma nes ei fod wedi tyfu i fod yn rhywbeth llawer mwy na hynny.

“Wyth mlynedd yn ddiweddarach dw i’n dal yma ac yn dal i garu’r lle. Dw i ddim yn gallu gweld fy hunan yn gadael.

“Dechrau ar yr ochr cadw tŷ wnes i, yna es i i weithio fel hyfforddwr ar y gweithgareddau, yna bues i’n derbyn gwesteion gyda’r tîm gwasanaethau gwesteion, a dw i hefyd yn gweithio yn ein siopau adwerthu. Mae cymaint o amrywiaeth ar gael i gyd-fynd â’ch sgiliau ac i’ch helpu i ddatblygu sgiliau newydd.

“Pan fydd gwesteion yn cyrraedd, chi yw’r wyneb cyntaf maen nhw’n ei weld, sy’n gallu creu argraff barhaol arnoch chi ac arnyn nhw.  Dw i am wneud yn siŵr eu bod nhw’n mwynhau eu hamser yma a dw i’n cael gwefr o weld y wên ar eu hwynebau nhw a’u teuluoedd.

“Dw i’n drwm fy nghlyw ond dydy hynny ddim wedi achosi unrhyw rwystrau i weithio mewn lle fel hyn. Dw i wedi cael yr un cyfleoedd â phawb arall ac wedi cael yr un gefnogaeth a hyfforddiant.”

Show more

Cara Thomas, Cadw Tŷ

Mae gan Cara fab ifanc mae angen iddi fynd ag ef i'r ysgol bob dydd a bod yn ôl gartref ar ei gyfer pan fydd yn dychwelyd o’r ysgol, ac mae'n dweud bod pethau fel cludiant sy’n cael ei ddarparu iddi gan y Ganolfan yn gwneud byd o wahaniaeth i'w chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

“Dw i wrth fy modd gyda’r awyrgylch pan fydda i gyda fy nghydweithwyr. Maen nhw’n teimlo fel teulu erbyn hyn.

“Dw i wrth fy modd yn sgwrsio gyda gwesteion a’u gweld yn mwynhau eu hunain. Ers bod yma, mae fy sgiliau cyfathrebu wedi gwella’n syfrdanol ac wrth i chi siarad â phobl newydd drwy'r amser rydych chi’n magu mwy a mwy o hyder. Mae’n debyg fy mod i’n eithaf swil cyn i fi ddechrau yma.

“Un o’r pethau gorau yw fy mod i’n gallu gwneud i fy swydd weithio o gwmpas fy nheulu a fy swydd bwysig arall, sef bod yn fam. Mae'r swydd yn caniatáu i fi fynd â fy mab i’r ysgol, yna mae Bluestone yn trefnu bws i'n codi yn agos i’n cartrefi, ac ar ddiwedd y dydd rydyn ni'n cael ein gollwng yn ôl gartref tua phedwar o’r gloch. Mae yna oriau ychwanegol ar gael bob amser os ydw i am weithio’n hirach.

“Dw i wedi cael llwyth o gefnogaeth gan reolwyr a gyda phethau fel hyfforddiant. Mae cael hynny’n gwneud y swydd yn fwy pleserus.

“Bob tri mis rydyn ni'n cael pwyntiau y gallwn eu defnyddio ar gyfer pethau fel y sba, gwahanol weithgareddau ar y safle, ac maen nhw’n wych i’w defnyddio i ddiddanu’r plant am ddiwrnod.”

Show more

Leonie Morgan, Uwch Therapydd Sba

Dechreuodd Leonie weithio yn Bluestone yn y bwytai a'r bariau pan oedd hi’n 18 oed, ond sylweddolodd yn fuan bod y cwmni'n awyddus i sicrhau y gallai ddilyn ei huchelgais o weithio ym maes harddwch drwy newid ei swydd a chynnig lle iddi yn academi hyfforddi’r ganolfan wyliau.

“Roedd harddwch yn rhywbeth roedd gen i ddiddordeb ynddo erioed. A dweud y gwir, fe ddechreuais weithio ar yr ochr bwyd a diod yn Bluestone tra ro’n i'n talu’n breifat am fy hyfforddiant fel therapydd harddwch.

"Pan glywodd y rheolwr sba beth oedd fy niddordebau mewn gwirionedd, fe wnaethon nhw ddod ata i a chynnig prentisiaeth i fi lle ro’n i’n gwybod y byddai gen i swydd ar ei diwedd.

“Yna, fe ddes i’n therapydd sba a dw i bellach yn uwch therapydd sba, ac ar hyn o bryd dw i’n hyfforddi i gael rhagor o gymwysterau.

“Dw i wrth fy modd yn rhoi triniaethau oherwydd rydych chi'n gweld canlyniadau’ch gwaith yn syth – mae’n werth chweil.

“Ar ôl i chi weithio yma am 12 mis, rydych chi’n cael cyfranddaliadau yn y cwmni, sy’n golygu ein bod ni’n cael bonws ar ben ein cyflogau bob Nadolig os ydyn ni’n llwyddo i gyrraedd ein targedau, ac rydych chi wir yn cael ymdeimlad o berchnogaeth yn y busnes.”

Show more

Gwawr James, Dirprwy Gogydd

Roedd Gwawr bob amser yn gogydd brwd gartref a daeth o hyd i'r cyfle perffaith i ddilyn gyrfa yn gwneud yr hyn mae hi'n ei garu ar ôl gweld cynllun prentisiaeth yn cael ei hysbysebu ar gyfer y ganolfan wyliau. Mae hi’n dweud bod y sgiliau y mae hi wedi'u datblygu ers hynny wedi ei gosod ar y trywydd iawn ar gyfer cael dyfodol gwych ym maes lletygarwch.

“Mae gyda fi ddiddordeb mewn coginio ers pan o’n i’n ifanc. Ar ôl clywed y gallwn gael prentisiaeth yma ro’n i’n gwybod mai dyna o’n i eisiau ei wneud.

“Mae fy sgiliau coginio wedi gwella cymaint ers i fi ymuno, a dw i’n gallu siarad gyda gwahanol bobl gymaint yn haws.

“Dw i wrth fy modd yn dod i fy ngwaith bob dydd, i weithio mewn tîm, ac i ryngweithio gyda’r gwesteion.

Os ydych chi am fagu hyder a dysgu sut i weithio o dan bwysau, dyma’r diwydiant i chi, heb os.”

Gwawr James, Dirprwy Gogydd

Show more

Archwilio

I wybod mwy:

Gwyliwch y fideo

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol  Trawsgrifiad Fideo: Cwrdd â’r Creuwyr Profiad – Parc Gwyliau Cenedlaethol Bluestone Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Bwletin Swydd

Defnyddiwch ein bwletin swydd i gael mynediad at gannoedd o swyddi gwag byw ledled Cymru. 

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni