Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori The Grove

Bethan Davies, Goruchwyliwr Brecwast, The Grove

The Grove

Os ydych chi’n chwilio am her newydd, cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith, neu weld amgylchedd cyfarwydd mewn golau newydd, mae’n bosib mai swydd ym maes lletygarwch a thwristiaeth yw’r ffordd ymlaen i chi.

Gweithwyr yn The Grove, sef gwesty a bwyty mewn tŷ gwledig yn Arberth, Sir Benfro, sy’n sôn am eu profiadau o weithio yn y diwydiant ac yn rhannu’r manteision niferus sydd ar gael.

Bethan Davies, Goruchwyliwr Brecwast

Dychwelodd Bethan Davies i’r diwydiant lletygarwch y llynedd i weithio yn The Grove, ar ôl gadael ei swydd blaenorol yn ystod y pandemig i ddod o hyd i gydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith.

“Un o fanteision gweithio ym maes lletygarwch yw’r hyblygrwydd – gallwch ddod o hyd i waith sy’n addas i’ch amserlen.

“Ar ôl y pandemig, daeth yn amlwg i fi bod angen rhywbeth arna i oedd yn gweddu i fy mlaenoriaethau, ac rydw i wedi dod o hyd i’r swydd berffaith yn gwneud rhywbeth rydw i wrth fy modd ag e.

“Rwy’n hoffi meddwl ar fy nhraed. Gweithio gyda phobl yw fy nghryfder, felly dyma’r diwydiant perffaith i fi. Mae llawer o amrywiaeth yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud.

“Rydyn ni’n dysgu llawer am y bwyd anhygoel sydd ar gael yma gan y cogyddion. Feddyliais i erioed y byddwn i’n cynnal sesiynau blasu gwin, gwersi creu coctels, a sesiynau blasu coffi – mae’n wych cael dysgu gan bobl sydd mor angerddol am yr hyn maen nhw’n ei wneud.

“Rydych chi’n dysgu sut i weithio o dan bwysau, gwneud pethau difyr, ac rydych chi’n cael gweithio gyda llawer o bobl ddiddorol.

Bydden i’n wirioneddol argymell i bawb roi cynnig ar swydd ym maes lletygarwch.

“Efallai y bydd yn rhywbeth rydych chi’n wych am ei wneud, neu’n swydd haf ddelfrydol. Ond rwy’n sicr yn argymell rhoi cynnig arni.”

Christopher Walker, Uwch Gogydd Sous

Dechreuodd yr uwch gogydd sous, Christopher, weithio mewn cegin er mwyn manteisio ar ei angerdd tuag at goginio ar ôl gadael y brifysgol, lle bu’n astudio busnes.

“Mae lletygarwch yn ddiwydiant mor fawr, mae pawb yna i helpu ei gilydd. Mae yna gyfeillgarwch gwych. Mae’n sicr yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau personol, cyfathrebu ac arwain, wrth i chi weithio eich ffordd lan a chael mwy a mwy o gyfrifoldebau.

“Mae’n ddiwydiant gwych i fynd mewn iddo, a fy nghyngor i i unrhyw un sy’n meddwl ymuno yw cymerwch eich amser a dysgwch y grefft.

“Yn y gegin, mae’n wych bod yn rhan o dîm o bobl sydd mor agos, rydych chi’n treulio llawer o amser gyda’ch gilydd ac yn datblygu cysylltiad go iawn.

“Bob dydd, rydych chi’n dod ar draws rhywbeth newydd, ac mae ganddoch chi’r rhyddid i arbrofi. Efallai y byddwch chi’n gweld rhywbeth ar Instagram sy’n edrych yn cŵl ac eisiau rhoi cynnig arno fe yn y gegin, neu roi eich tro bach eich hunan arno fe.

“Ar ddiwedd y dydd, yr hyn rydych chi’n ei wneud yw rhoi rhywbeth i rywun ac maen nhw’n cael mwynhad ohono fe. Mae’n werth chweil.

“Mae gweld pobl yn mwynhau eich bwyd a chael adborth ganddyn nhw’n grêt. Mae’n gallu bod yn achlysur mor arbennig iddyn nhw, ac rydych chi’n rhan o’r peth ac yn eu helpu nhw i gael amser da.”

Claire Matthews, Derbynnydd

Dywedodd Claire Matthews bod newid gyrfa i weithio ym maes lletygarwch tua pedair blynedd yn ôl wedi rhoi mwy o amser a chyfle iddi archwilio ei hannwyl Sir Benfro, sydd yn ei dro wedi ei helpu i ddod yn gyswllt hanfodol i westeion.

“Yr hyn dw i wrth fy modd ag e yw cael pobl i wir fwynhau eu cyfnod yma, ac i gael y mwyaf o’r Grove ei hunan ac o Sir Benfro.

“Dw i wrth fy modd yn byw yn Sir Benfro, ac er fy mod i wedi byw yma ers dros 20 mlynedd, mae’r swydd yma wedi fy annog i fynd ati i archwilio’r ardal, oherwydd mae angen i chi allu egluro wrth westeion sut i ddod o hyd i lefydd eu hunain, ac awgrymu llefydd i fynd iddyn nhw a phethau i’w gwneud pan fyddan nhw’n aros gyda ni.

“Rheswm arall rwy’n mwynhau fy swydd yw’r cyfle i gwrdd â phobl ac i weithio fel rhan o dîm. Rydyn ni’n griw amrywiol, gyda rhai aelodau o’r tîm yn dod o Ffrainc, yr Almaen, a’r Eidal.

Bydd gweithio ym maes lletygarwch yn eich paratoi i fynd i weithio yn unrhyw le hoffech chi.”

Surya Davies, Prif Arddwr

Mae Surya Davies wedi treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa’n gweithio ym maes garddwriaeth, ond fe gafodd ei ddenu gan rôl lle mae disgwyl iddo helpu i greu profiad gwych i westeion, a symudodd yn ôl i Gymru o Loegr i weithio yng ngerddi syfrdanol The Grove.

“Mae gweithio yn y diwydiant lletygarwch yn sicr yn ychwanegu dimensiwn gwahanol i fy swydd, hynny yw profiad y gwestai. Rydyn ni’n gwneud gwahaniaeth mawr drwy ein gwaith, ac rydyn ni wrth law i wneud pethau fel ateb cwestiynau am ein gerddi.

“Mae’r ardd yn rhoi profiad hollol wahanol i westeion; mae’n ymlaciol iawn ac yn eich cysylltu â natur. Mae tîm yr ardd yn chwarae rhan fawr yn cyflawni’r amgylchedd ymlaciol ac hamddenol yma. Mae edrychiad a chynllun cyffredinol safleoedd fel ein un ni yn bwysig iawn, ac mae’r gofodau awyr agored yn chwarae rhan bwysig yn y profiad i ymwelwyr hefyd.

“Os yw gwestai’n cael profiad braf ac yn hoffi eich gwaith, yna byddan nhw’n dweud wrthoch chi neu’n ysgrifennu yn y llyfr ymwelwyr. Mae’n annwyl iawn.

Mae lletygarwch yn unigryw. Mae’n dod â phobl o bob math o gefndiroedd i un lle. Mae’n llawer o hwyl ac rwy’n ei fwynhau.

 “Mwy na thebyg mai dyma un o’r diwydiannau mwyaf diddorol i weithio ynddyn nhw, oherwydd y rhyngweithio gyda phobl.”


Archwilio

I wybod mwy:


Gwyliwch y fideo

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol  Trawsgrifiad: Cwrdd â’r Creuwyr Profiad – Gwesty’r Grove Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Stori Celtic Manor

Gall gyrfa ym maes lletygarwch eich cyflwyno i fyd newydd o gyfleoedd os ydych chi’n awyddus i ymuno â’r daith.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni