Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Celtic Manor

Sy Crockford, Pen-Cogydd Gweithredol yn y Celtic Manor Resort

Gwesty Hamdden y Celtic Manor

Gall gyrfa ym maes lletygarwch eich cyflwyno i fyd newydd o gyfleoedd os ydych chi’n awyddus i ymuno â’r daith.

Sy Crockford, Pen-Cogydd Gweithredol

Dywedodd Sy Crockford, uwch gogydd bwytai yng Ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd, fod ei yrfa o dros ugain mlynedd wedi cynnwys heriau a phosibiliadau newydd yn rheolaidd, adref a thramor.

“Y rheswm dw i wrth fy modd gyda fy swydd yw’r creadigrwydd a’r amrywiaeth yn yr hyn rwy’n ei wneud. Mae pob diwrnod yn wahanol, mae pob diwrnod yn gyffrous,” meddai.

“Gadewais y chweched dosbarth a mynd i Goleg Sir Benfro, lle ces i fy nghyflwyno i’r maes lletygarwch. Fe ddiweddais i mewn cegin, ac yn sydyn iawn doeddwn i ddim yn defnyddio papur a beiro, ro’n i’n bod yn greadigol ac yn mynegi popeth oedd gen i ar blât.

“Ers hynny, dw i wedi cael cyfle i goginio i lawer o enwogion, teithio’r byd i lefydd fel Japan, yr Almaen, Hong Kong ac Indonesia, a hynny i gyd drwy goginio. Felly mae’n agor llawer o ddrysau.”

Mathew Verallo, Rheolwr Gweithrediadau

Dechreuodd Mathew Verallo ei yrfa’n glanhau gwydrau ym Mar Merlin y lleoliad, ond dim ond chwe blynedd yn ddiweddarach ac mae bellach yn rheolwr gweithrediadau yn un o Westai Tŷ newydd y busnes.

Meddai: “Dim ond un o lawer o straeon tebyg, yn y diwydiant ac yn Celtic Manor, yw fy stori i am ddatblygu yn fy ngyrfa.

“Rydyn ni’n tyfu ac yn meithrin ein pobl ein hunain yn y busnes, ac yn helpu i ddatblygu pobl, drwy gyfleoedd fel rhaglenni cyfnewid yn Ffrainc a Malta.”

Mae staff sy’n gweithio yn y gwesty pum seren yn dweud y gall gynnig profiadau unigryw, yn enwedig pan fydd y safle’n croesawu digwyddiadau byd-enwog.

Charlotte Nutt, Rheolwr Bwcio

Meddai’r rheolwr archebion Charlotte Nutt: “Un o brofiadau gorau fy mywyd oedd pan ges i weithio’r Cwpan Ryder yn 2010. Roedd yn ddigwyddiad anhygoel i gael bod yn rhan ohono, yn enwedig pan ges i gyfle i osod ystafelloedd tîm America, cyn iddyn nhw fynd at y cwrs golff.

Nikos Makripodis, Gofalwr

Meddai Nikos Makripodis, concierge a helpodd i ofalu am arweinwyr y byd yn ystod Uwchgynhadledd NATO yn 2014: “Fy hoff atgof oedd cwrdd ag Arlywydd yr Unol Daleithiau ar y pryd, Barack Obama.

“Roedden ni’n gweithio’n galed i sicrhau bod arweinwyr gwahanol wledydd yn cael gofal da, ac roedd yn gyfnod anhygoel.”


Archwilio

I wybod mwy:


Gwyliwch y fideo


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Stori The Grove

Gweithwyr yn The Grove, sef gwesty a bwyty mewn tŷ gwledig yn Arberth, Sir Benfro, sy’n sôn am eu profiadau o weithio yn y diwydiant ac yn rhannu’r manteision niferus sydd ar gael.

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni