Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Bwyty ac Ystafelloedd Ynyshir

Prif Gogydd yn platio bwyd ym Mwyty ac Ystafelloedd Ynyshir

Gwesty a bwyty seren Michelin sy’n enwog ledled y byd am ei brofiad bwyta unigryw yw Ynyshir, sydd wedi’i leoli ger tref farchnad wledig Machynlleth. Caiff ton ar ôl ton o seigiau cyfoethog – wedi’u gwneud o gynnyrch o Gymru a’u hysbrydoli gan y byd – eu gweini i westeion mewn ystafelloedd moethus lled-dywyll i drac o gerddoriaeth rythmig, gan gynnig noson fythgofiadwy i bobl sy’n hoff o fwyd.

Mae rhyddid gan y staff i rannu eu greddfau creadigol unigol yn y gwaith maen nhw’n ei fwynhau, ac mae’r perchnogion Gareth Ward ac Amelia Eiriksson yn gwerthfawrogi cymeriad ac arloesedd dros brofiad blaenorol ac yn cynnig hyfforddiant yn y gwaith a chyllid ar gyfer cyrsiau achredu gwin a bwyd i helpu i godi eu pobl i'r lefel nesaf yn eu gyrfaoedd.

Gareth Ward, Prif Gogydd

Pan fydda i’n cyflogi rhywun, y prif beth bydda i’n edrych amdano ydy cymeriad – naill ai oherwydd bod y cymeriad ynddyn nhw’n barod, neu fy mod i’n gallu gweld potensial i helpu i’w ddatblygu.

Rydyn ni’n cymryd yr hyn rydyn ni’n ei wneud o ddifri, ond dydyn ni ddim yn cymryd ein hunain o ddifri chwaith. Dyna pam na welwch chi’r gweiddi a’r taflu pethau yn y gegin oedd yn arfer digwydd mewn bwytai yn draddodiadol – rydyn ni’n canolbwyntio ar wneud fan hyn yn lle hwyliog a gofalgar i weithio.

Mae ganddon ni gyfrifoldeb mawr i ofalu am y bobl sy’n gweithio yma, felly mae hynny’n golygu gwneud yn siŵr eu bod yn cael digon o orffwys ac amser iddyn nhw eu hunain rhwng shifftiau, sy’n gallu bod yn flinedig iawn.

Os ydych chi am i bobl angerddol weithio i chi ac iddyn nhw wneud eu gorau, mae'n rhaid i chi fod ar eich gorau fel cyflogwr i sicrhau bod eich busnes yn cael ei redeg yn gynaliadwy a bod eich pobl yn hapus.

Dyna pam rydyn ni wedi cyflwyno wythnos waith pedwar diwrnod i’r busnes, felly rydyn ni’n gweithio o ddydd Mawrth tan ddydd Gwener gyda phenwythnosau i ffwrdd. Does dim angen i fwytai fel ein un ni fod ar agor ar ddydd Sadwrn a dydd Sul, felly rydyn ni’n gallu cynnig oriau gwaith gwych yn ogystal â chyflog gwych ac amgylchedd hapusach oherwydd hynny.

Dydyn ni ddim ar agor dros y Nadolig chwaith, ac rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu mynd i ffwrdd dros wyliau'r haf. Dw i’n sylweddoli nad ydy pob busnes yn gallu fforddio gwneud hynny, ond mae’r diwydiant yn newid ac mae’n rhaid i ni i gyd feddwl yn galetach am sut allwn ni helpu i sicrhau bod y bobl sy’n gweithio i ni yn cael bywydau hapus a chytbwys. Mae pobl eisiau amser i fyw a gwneud y pethau maen nhw eisiau eu gwneud – a does dim byd o'i le ar hynny.

Show more

Patrick McNulty, Is Gogydd

Dylunio a phensaernïaeth 3D ym Mhrifysgol y Celfyddydau, Llundain o’n i’n ei astudio i ddechrau cyn newid i astudio dylunio a marchnata ffasiwn yng Ngholeg Ffasiwn Llundain. Ar ôl gweithio mewn ceginau yn rhan amser ochr yn ochr â fy ngradd fe wnes i sylweddoli bod gen i ddawn ac angerdd am fwyd.

Mae fy hoffter o goginio yn dod drwy elfen greadigol y cyfan, a dyma ydy fy mhrif fynegiant creadigol bellach.

Mae pobl yn meddwl ei fod yn llwybr gyrfa hollol wahanol i ffasiwn neu ddylunio, ond mae’r meddylfryd o beidio dilyn proses sydd wedi'i gwneud o'r blaen a meddwl am rywbeth newydd yn union yr un peth â’r ffordd dw i’n meddwl gyda fy nghelf.

Show more

Amelia Eiriksson, Cyfarwyddydd Creadigol

Ro’n i’n gweithio fel pensaer yn fy musnes fy hun pan ddechreuodd Gareth weithio yn Ynyshir. Pan wnaethon ni gymryd y lle yma drosodd ein hunain, fe sylweddolon ni y gallen ni ryddhau ein gweledigaeth o’r hyn gallai Ynyshir fod, felly fe wnes i adael y diwydiant pensaernïol i ddod yn Gyfarwyddydd Creadigol yn fan hyn.

Fy swydd i ydy datblygu'r profiad cyffredinol o fod yn Ynyshir – sut mae'n edrych ac yn teimlo. Un diwrnod, galla i fod yn dylunio ac yn ailgynllunio'r bwyty, yn dylunio drws newydd, yn creu gwedd ar gyfer bwydlen newydd, llenni newydd, neu ystafell wely newydd.

Rydyn ni’n ychwanegu ac yn cynhyrchu pethau newydd drwy’r amser yn fewnol ac mae ganddon ni reolaeth greadigol lwyr, sy’n rhoi boddhad mawr i fi fel rhywun creadigol. Mae gweithio fel hyn yn ein galluogi i fod yn unigryw a mynegi ein natur unigryw ni fel pobl.

Rydyn ni’n awyddus i helpu ein pobl i ddatblygu ac mae Ynyshir yn talu am gyrsiau hyfforddi mewn meysydd penodol fel achredu gwin. Ond rydyn ni hefyd yn gredinwyr mawr mewn cynnig hyfforddiant yn y gwaith, ac rydyn ni’n rhannu gwybodaeth ac yn cael y staff iau i weithio gyda’r rhai mwy profiadol yn gyson.

Rydyn ni bob amser yn chwilio, yn blasu, yn gweld, yn gwneud, dydyn ni byth yn sefyll yn llonydd. A dyna'r ffordd orau o ddysgu yn y math yma o waith.

Show more

Rory Eaton, Cyfarwyddydd gwin a diod

Ar ôl gadael y coleg do’n i ddim yn siŵr beth ro’n i am ei wneud, ac felly fe symudais i Ffrainc a gweithio ar winllannoedd yn casglu grawnwin. Doedd gen i ddim llawer o ddiddordeb mewn gwin nac alcohol a dweud y gwir, ond pan ddes i’n ôl i Brydain a finnau’n chwilio am swydd, fe wnes i ddefnyddio fy ngwybodaeth i fy helpu i gael gwaith mewn bar.

Roedd y cefndir yna’n werthfawr iawn wrth i fi symud i weithio mewn llefydd newydd fel bariau gwin yn ogystal â bariau coctels, bariau Tiki, cyn dod i Ynyshir yn y pen draw.

Dw i wrth fy modd â’r rhyddid dw i’n ei gael i ddewis beth dw i am ei wneud, i greu’r rhestr o ddiodydd sydd ganddon ni yma, yn hytrach na gweithio i nodau neu dargedau.

Mae'r swydd yn ymwneud â meithrin perthynas ac ymddiriedaeth gyda chwsmer pan fyddan nhw’n dod yma, fel bod modd i chi eu cyflwyno i ddiod sydd efallai'n newydd ac yn anarferol iddyn nhw, ond a fydd yn gwella eu profiad a'r bwyd maen nhw’n ei fwyta. Mae pawb sy'n dod yma’n cael profiad unigol yn hytrach na rhywbeth sydd wedi'i ymarfer.

Dw i hefyd yn helpu i hyfforddi cydweithwyr llai profiadol ac mae’n wych eu gweld nhw’n datblygu ac yn cyflawni ar hyd y ffordd.

Show more

Nicola Amy Evans, Rheolydd Cyffredinol a Chydlynydd Digwyddiadau

Dechrau gweithio fel gweinyddes rhan amser tra o’n i’n dal yn yr ysgol wnes i, ac yna mi es i ymlaen o hynny i ddechrau adeiladu fy ngyrfa. Ar ôl dod i Ynyshir mi ddois i'n Rheolydd Cyffredinol a fi sy’n gyfrifol am yr holl briodasau a digwyddiadau ryden ni’n eu cynnal yma.

Mae pob diwrnod yn hollol wahanol i’w gilydd yn y diwydiant yma, a dw i wrth fy modd efo hynny. Mae swyddi naw tan bump yn gallu bod yn ddiflas iawn, ond yn fan hyn mae yna rywbeth newydd o hyd.

Mae pawb ar eu taith eu hunain yn y diwydiant yma, ac mae llawer o gyfeiriadau gwahanol y gallwch chi fynd iddyn nhw yn y pen draw sy’n rhoi cymaint o foddhad. Y peth pwysicaf i fi oedd ffeindio rhywbeth o’n i'n caru ei wneud – wedyn dydy o ddim yn teimlo fel gwaith o gwbl.

Dw i’n dod o Fachynlleth, felly mae gallu byw a gweithio yma yn anhygoel. Mae’n ardal mor brydferth a dw i’n cael bod yn agos at fy nheulu a fy ffrindiau.

Show more

Archwilio

I wybod mwy:

Gwyliwch y fideo

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol  Trawsgrifiad Fideo: Cwrdd â'r Creuwyr Profiad - Ynyshir Bwyty ac Ystafelloedd Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Bwletin Swydd

Defnyddiwch ein bwletin swydd i gael mynediad at gannoedd o swyddi gwag byw ledled Cymru. 

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni