Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Dylan's

Gweithiwr Dylan’s yn sefyll yn y bwyty ac yn gwenu

Agorodd Dylan’s ei fwyty ym Mhorthaethwy yn 2012, ac mae’n cynnig cynnyrch lleol gan gynnwys bwyd môr sydd wedi’i ddal ar y Fenai.

Aelodau o staff y bwyty sy’n esbonio sut maen nhw wedi gallu datblygu’n broffesiynol ac yn bersonol yn ystod eu cyfnod yn gweithio yno.

Manon Stonehewer, Rheolwr llawr

Dechreuodd Manon weithio’n rhan amser ym mwyty Dylan’s fel gweinyddes pan oedd hi’n 17 oed, gan ddychwelyd i weithio yn y bwyty bob haf yn ystod ei chyfnod yn y brifysgol cyn ymgymryd â rôl reoli ar ôl graddio mewn Hanes. Mae hi bellach ar fin mynd i deithio a defnyddio ei phrofiad i weithio dramor.

“Os ydych chi’n gallu gweithio’n llwyddiannus mewn bwyty prysur, ac os ydych chi eisiau teithio neu weithio yn rhywle arall, mae gennych chi sgiliau y byddwch chi’n gallu mynd â nhw efo chi a bydd yn ddeniadol i gyflogwyr.

“Ers pan o’n i’n 14 oed, mae’r holl swyddi dw i wedi’u cael wedi bod ym maes lletygarwch a thwristiaeth. Heb y cyfleoedd yna, dw i ddim yn gwybod lle fyswn i.

“Dw i bellach yn gobeithio teithio’r byd a defnyddio fy mhrofiad lletygarwch i gael swyddi wrth i fi deithio drwy wledydd fel Portiwgal a Sbaen.

“Dw i ddim yn meddwl bod gennych chi ddim byd i’w golli o gael swydd fel fy un i, ac mae’n rhywbeth y gallwch chi ddod ’nôl ato dro ar ôl tro.

“Wnes i ddechrau yma pan o’n i’n 17 oed, es i i’r brifysgol, dod yn ôl yma i weithio yn ystod y gwyliau a gwneud hynny am dair blynedd. Ar ddiwedd fy ngradd, mi ges i’r cyfle i ddatblygu i fod yn rheolwr, a mwynheais i hynny’n fawr.”

Show more

Jason Axford, Prif gogydd y grŵp

Ymunodd Jason â’r bwyty ym Mhorthaethwy pan agorodd naw mlynedd yn ôl, cyn gweithio ei ffordd drwy rengoedd y gegin i fod yn brif gogydd tri safle Dylan’s yn y gogledd.

“Dw i’n caru ac yn mwynhau mynegi fy hunan ar blât o fwyd gwych a gwneud yn siŵr bod pobl sy’n eistedd yn y bwyty yn ei fwynhau. Dyna dw i’n angerddol amdano fo yn fy swydd, a dyna dw i’n ei fwynhau fwyaf.

“Dim llawer o bobl sy’n gwybod pa mor ddiddorol gall plât o fwyd fod, ac mae ’na rywbeth arbennig am roi rhywbeth at ei gilydd. Mae gweithio gyda chynnyrch lleol yn wych hefyd.

Un o fanteision gweithio yn y diwydiant yma yw gallu mwynhau gyda phobl wrth weithio. Dw i’n teimlo bod yr agwedd yna ar goll o lawer o swyddi, yn enwedig mewn swyddfa neu rywbeth felly.

“Yn fan hyn, rydych chi’n mwynhau ac yn gallu cael hwyl hefyd. Dydyn ni ddim yn cymryd popeth o ddifri.”

Show more

Kyle Neil, Gweithiwr bar

Ymunodd Kyle â bwyty Dylan’s ym mis Mawrth 2020, ychydig cyn i fusnesau ledled y wlad gael eu gorfodi i gau oherwydd cyfnod clo cyntaf y coronafeirws, ond cafodd ei gadw fel aelod o staff ac mae’n dweud ei fod wedi ffynnu yn ei swydd ers i’r cyfyngiadau gael eu llacio a’r bwyty allu ailagor.

“Cyn i fi ymuno, ro’n i’n teimlo ychydig yn isel, ond unwaith wnes i ddechrau’r swydd yma mi welon nhw lawer o botensial yndda’i. Bob dydd, bob mis, dw i’n gweld fy hunan yn datblygu fwy fel unigolyn, ac yn datblygu fwy a mwy o fy sgiliau.

“Pwy a ŵyr ble allwn i gyrraedd – gallwn i godi’n uwch yn fan hyn, neu symud i rywle arall. Beth bynnag fydd yn digwydd, bydda i bob amser yn diolch i’r lle yma.

“Ro’n i’n arfer bod yn berson pryderus a nerfus iawn, doedd gen i ddim hyder – ond oherwydd y diwydiant yma dw i wedi magu hyder ac wedi blodeuo.

Mae’r diwydiant yma wedi fy helpu i ffynnu a bydd yn helpu pobl eraill i dyfu’n fersiynau gwell o’u hunain am flynyddoedd i ddod.”

Show more

Paige Mabbs, Rheolwr Adnoddau Dynol

Dechreuodd Paige weithio fel gweinyddes ym mwyty Dylan’s cyn dod yn un o’i reolwyr, ac erbyn hyn mae hi’n gweithio mewn swydd uwch yn y swyddfa. Mae hi’n diolch i’r nifer fawr o gyfleoedd mae hi wedi’u cael mewn busnesau lletygarwch i ddatblygu am lwybr ei gyrfa.

“Dw i wrth fy modd yn helpu i greu swyddi, gan sicrhau bod pobl yn datblygu’n gyflym, a’u bod nhw’n cael yr hyfforddiant cywir sydd ei angen arnyn nhw er mwyn llwyddo.

“Mae gymaint o le i ddatblygu, a does dim rhaid i chi ddod yn rheolwr ar fwyty – gallwch fod â swydd amlbwrpas. Gallwch weithio yn y gegin, neu wneud swyddi gweinyddol, neu weithio ar yr ochr adwerthu.

“Mae’n ymwneud â’r hyn rydych chi ei eisiau a pha fath o ddyfodol rydych chi’n ei weld i chi’ch hunan.

Hyd yn oed os nad ydych chi’n siŵr i ba gyfeiriad rydych chi eisiau mynd, mae’r diwydiant yn sicr yn lle perffaith i ddechrau gan fod cymaint o le i ddatblygu eich gwybodaeth a chymaint i’w ddysgu.”

Show more

Archwilio

I wybod mwy:


Gwyliwch y fideo

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol  Trawsgrifiad fideo: Cwrdd â’r Creuwyr Profiad – Dylan’s Menai Bridge Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Bwletin Swydd

Defnyddiwch ein bwletin swydd i gael mynediad at gannoedd o swyddi gwag byw ledled Cymru. 

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni