Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Folly Farm

Kate Torok, Pennaeth Adnoddau Dynol, yn atyniad Arfordir Penguin Folly Farm

Mae Folly Farm yng Nghilgeti, Sir Benfro, yn gartref i dros 750 o anifeiliaid gyda sw o safon fyd-eang, ffair draddodiadol dan do, ac wyth ardal chwarae antur ar draws y safle 120 erw.

Gan ganolbwyntio ar ddatblygu pobl mewn rolau sy’n addas i’w diddordebau, mae’r atyniad llwyddiannus yma yn un enghraifft o blith llawer o’r cyfleoedd gyrfaol amrywiol sydd i’w cael yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch.

Kate Torok, Pennaeth Adnoddau Dynol

Dechreuodd Kate weithio yn Folly Farm wrth astudio am radd ym Mhrifysgol Abertawe. Ar ôl dychwelyd i’r safle rhwng ei hastudiaethau flwyddyn ar ôl blwyddyn, cafodd gynnig swydd lawn amser ar ôl iddi raddio.  Llwyddodd Kate i ddilyn gyrfa sy’n cyfuno ei chariad tuag at bobl ac anifeiliaid.

“Rydw i wrth fy modd â’r amrywiaeth sydd i’w chael wrth weithio mewn lle fel hyn. Ble arall allwch chi fynd i’r gwaith a gweld pengwiniaid, neu lewod, a chael gweithio gyda grŵp o bobl wych?

"Dydy fy swydd yn yr adran Adnoddau Dynol ddim yn swydd arferol. Gan ein bod ni’n cyflogi ystod mor eang o bobl gyda gwahanol fathau o sgiliau, mae cymaint o amrywiaeth ac ystod go iawn o rolau, sy’n cadw pethau’n ddiddorol iawn.

"Rwy’n cael cwrdd â cheidwaid sw o bob rhan o Brydain sy’n dod i weithio i ni, a helpu i’w hyfforddi a’u datblygu drwy eu gyrfaoedd, sy’n brofiad gwerth chweil.

"Des i i Folly Farm fel myfyriwr pan oeddwn i’n cwblhau fy ngradd prifysgol yn wreiddiol, gan weithio fel cynorthwyydd manwerthu yn ystod yr haf, dros y Pasg, ac ar benwythnosau o dro i dro i gyd-fynd ag amserlen fy astudiaethau. Symudais at rôl goruchwyliwr yn fuan wedi hynny, ac ar ôl graddio o’r Brifysgol, cynigiwyd cyfle i fi ddechrau ar fy ngyrfa yma yn helpu i hyfforddi staff. Yna cododd cyfle yn yr adran Adnoddau Dynol, a dw i heb edrych yn ôl ers hynny.

"Cefnogodd y cwmni fi i gael cymwysterau y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, ac rydw i bellach yn trefnu hyn ar gyfer aelodau eraill o’n tîm. Mae’n anhygoel bod cymaint o gyfleoedd gyrfaol proffesiynol mewn rhywbeth a ddechreuodd fel swydd haf i fi."

Show more

Sarah Mattick, Gweithrediadau

Mae Sarah yn cwblhau gradd brifysgol ar hyn o bryd, ac ar ôl dechrau swydd ran-amser ym mannau gwerthu Folly Farm, symudodd Sarah yn gyflym at rôl ar y fferm ar ôl i’w rheolwyr ddarganfod bod ganddi hoffter o anifeiliaid a’r awyr agored.

"Pan ddes i i Folly Farm yn wreiddiol, gweithio ym maes manwerthu oeddwn i, ond ar ôl i’r tîm rheoli ddarganfod fy mod i’n hoff o anifeiliaid, symudon nhw fi’n gyflym draw at y fferm, ac rydw i wedi gallu dysgu cymaint o sgiliau yno.

"Rydw i wrth fy modd yn yr awyr agored, yn gweithio yn yr awyr iach gyda phobl eraill. Mae’r rhan fwyaf o fy swyddi blaenorol wedi bod o dan do ac mewn swyddfa.

"Penderfynais barhau i weithio ar y safle tra fy mod i’n astudio yn y brifysgol gan fod fy rheolwyr yn caniatáu i fi fod yn hyblyg gyda fy sifftiau ac oriau gweithio. Mae’n ymlaciol iawn yn yr ystyr yna, ac ar hyn o bryd dim ond un sifft yr wythnos rydw i’n ei gweithio er mwyn cael amser i wneud yr aseiniadau ar gyfer fy nghwrs.

"Rydw i wrth fy modd gydag agwedd gymdeithasol gweithio mewn tîm a gyda chymaint o wahanol bobl. Rydyn ni i gyd yn treulio amser gyda’n gilydd, ac mae bob amser yn wych dod i adnabod pobl newydd."

Show more

Jack Davies, Uwch Beiriannydd Cynnal a Chadw

Mae Jack wedi cael ei gefnogi gan y busnes ar bob cam o’i ddatblygiad proffesiynol, gyda rolau dan hyfforddiant, prentisiaeth, ac yna gyda chyrsiau a alluogodd iddo feithrin sgiliau gwerthfawr ar gyfer y proffesiwn o’i ddewis.

"Rhan orau fy swydd yw amrywiaeth y gwaith a’r heriau sy’n codi bob dydd. Yn aml, fyddwch chi ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl cyn dechrau ar y gwaith.

"Cefais fy nghyflogi yma fel gweithiwr o dan hyfforddiant pan o’n i’n 18 oed, ac yna ces gynnig prentisiaeth. Rydw i wedi llwyddo i ddysgu sgiliau mecanyddol a pheirianneg, sydd wedi bod yn wych i roi hwb i fy ngyrfa.

"Ond mae wir wedi fy helpu i fagu hyder ac i allu gweithio mewn tîm, hefyd. Mae yna ddeinameg wych yma, a chymysgedd go iawn o bobl hen ac ifanc, ac rydyn ni’n cyd-dynnu’n wych. Rydych chi bob amser yn gweithio gyda rhywun arall, hefyd, a dyna dw i’n ei fwynhau fwyaf.

"Mae’n swydd unigryw. Mae’n rhaid i chi fod yn barod i weithio’n galed yn y diwydiant yma, ond cyhyd â’ch bod chi’n torchi llewys, byddwch chi’n elwa cymaint o’r profiad."

Show more

Bill Ebsworth, Marchnata

Mae Bill yn cyfuno ei astudiaethau prifysgol gyda gweithio mewn sawl maes amrywiol o Folly Farm. Mae’n defnyddio profiadau gweithio go iawn i lywio ei waith yn ei radd mewn Busnes, a thrwy ddatblygu dealltwriaeth eang mae’n gobeithio y bydd y diwydiant twristiaeth a lletygarwch yn rhoi dechrau gwych i’w yrfa.

"Rydw i’n hoff o’r ffaith fod fy swydd yn amrywiol iawn – does dim dau ddiwrnod yr un peth. Weithiau bydda i’n gweithio yn y siop, ddyddiau eraill gyda bwyd a diod, a hefyd yn yr adran farchnata.

"Mae diddordeb yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch wedi bod gen i erioed, ac mae’n wych cael dysgu sut mae pob maes o’r busnes yn gweithio yma. Mae’n wych gallu rhoi popeth rydw i’n ei ddysgu yn fy ngradd ar waith yma.

"Rydw i hefyd yn cael y budd o wella pethau fel fy hyder a fy sgiliau datrys problemau, a fydd yn werthfawr waeth pa yrfa fydda i’n ei dilyn yn nes ymlaen yn fy mywyd."

Fy nghyngor i rywun sy’n meddwl ymuno â’r diwydiant yma yw ewch amdani. Mae’n waith caled a chyflym, ond mae’n werth chweil."

Bill Ebsworth, Marchnata

Show more

Archwilio

I wybod mwy:

Gwyliwch y fideo

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol  Trawsgrifiad Fideo: Cwrdd â’r Creuwyr Profiad – Folly Farm Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Bwletin Swydd

Defnyddiwch ein bwletin swydd i gael mynediad at gannoedd o swyddi gwag byw ledled Cymru. 

Newid dy stori drwy siarad â chynghorydd

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni